Staffnet+ >
Neges wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

10 Medi, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio bod pob un ohonoch yn cadw’n iawn.
Pan wnaethom gyfarfod fel Uwch Dîm Arwain yr wythnos hon, gwnaethom drafod y gwaith gwych sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf i sicrhau y gallai disgyblion ddychwelyd i’w hysgolion yn ddiogel. Yn benodol, bu Paula yn myfyrio ar y gwaith aruthrol y mae pawb mewn ysgolion yn ogystal ag adrannau eraill y Cyngor wedi bod yn ei wneud a sut mae hyn yn dangos bod "Tîm y Fro" wir ar waith.
Hoffwn ganolbwyntio'r neges hon ar bob cydweithiwr sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn. Rwyf wedi cael rhai enghreifftiau y byddaf yn ymhelaethu arnynt, ond hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i unrhyw un sydd wedi chwarae rhan yn nychweliad disgyblion i'n hysgolion yr wythnos hon. Gwerthfawrogir eich gwaith yn fawr.
Yn gyntaf, i'n timau Gwasanaethau Eiddo ac Adeiladau sydd wedi llwyddo i gyflawni ystod o brosiectau adnewyddu ac uwchraddio dros wyliau'r haf. Mae hyn yn cynnwys adnewyddu toiledau mewn 6 ysgol, gwaith uwchraddio trydanol mewn 4 ysgol, a gwaith uwchraddio boeleri/systemau gwresogi mewn 6 ysgol arall. Hefyd, mae prosiectau eraill a gwblhawyd dros yr haf yn cynnwys gwaith galluogi ar gyfer prosiectau sydd i ddechrau'n ddiweddarach yn y flwyddyn, ffenestri newydd, uwchraddio draeniau, prif gyflenwad dŵr newydd, gwaith allanol amrywiol, yn ogystal â chreu toiledau symudol mewn 3 ysgol. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r gwaith adnewyddu toiledau a thoiledau symudol gan dîm Gwasanaethau Adeiladau'r Cyngor; gyda'r holl waith arall yn cael ei wneud yn bennaf gan gontractwyr lleol.
Mae'r ffotograffau'n dangos y toiledau 'cyn' ac 'ar ôl' y gwaith adnewyddu yn Ysgol Gynradd Sili. Mae cydweithwyr wedi bod yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos i orffen popeth mewn pryd. Oherwydd effaith y Coronafeirws a Brexit, mae hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol ac mae gwaith cydweithwyr yn y Gwasanaethau Adeiladau, yn ogystal ag Ian Tomkinson ynghyd â holl aelodau eu tîm wedi camu i’r adwy i gyflawni - diolch am eich cyfraniadau.
Nesaf, y Tîm Cludiant Ysgol, dan arweiniad Kyle Phillips. Dywedwyd wrthyf ei fod wedi bod yn delio â nifer o ymholiadau gan rieni yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ogystal â threfnu dulliau diogel o deithio i ddisgyblion. Ymdriniwyd â'r rhain i gyd mewn modd digyffro a phroffesiynol gyda llwybrau wedi'u cynllunio a chludiant ar waith erbyn hyn. Diolch i bawb sy'n rhan o'r tîm cludiant ysgol, heboch chi ni fyddai nifer o ddisgyblion yn gallu cyrraedd yr ysgol neu fynd adref ohoni.
Tîm arall sydd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed dros y misoedd diwethaf yw'r tîm TGCh a data ysgolion a'r tîm rhwydweithiau TGCh corfforaethol. Maent wedi bod yn gweithio ar raglen Hwb, i sicrhau mynediad digidol rhagorol i ysgolion. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i wneud yn ystod penwythnosau a nosweithiau er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar yr ysgolion. Bydd y ceblau a'r caledwedd rhwydwaith newydd yn gwella perfformiad y rhwydwaith i ddysgwyr ac yn diogelu seilwaith y rhwydwaith ar gyfer yr ysgolion at y dyfodol. Mae'r timau hyn wedi sicrhau bod gan 24,000 o bobl ifanc fynediad at seilwaith digidol o'r radd flaenaf.
Drwy gydol y pandemig, mae'r timau hyn wedi sicrhau bod disgyblion, ni waeth pa ysgol y maent yn ei mynychu neu ble ym Mro Morgannwg y maent yn byw, yn cael mynediad at ddyfeisiau a bod dyfeisiau wi-fi symudol yn cael eu danfon i'r rhai yr oedd eu hangen gartref. Un o brif sbardunau'r gwaith hwn oedd dileu'r loteri 'cod post' pan ddaw hi’n fater o fynediad at dechnoleg mewn ysgolion. Bydd gan bob disgybl yr un mynediad at dechnoleg a safonau digidol ni waeth pa ysgol y mae’n ei mynychu.
Yn ogystal, mae gennym bellach dros 1,100 o ddyfeisiau Windows ac Apple wedi'u cofrestru ar lwyfan rheoli dyfeisiau symudol InTune Hwb. Mae hyn yn newid y diwylliant yn sylfaenol tuag at gymorth TG mewn ysgolion, gan alluogi gweithio a chydweithredu mwy effeithlon, tra hefyd yn gwella diogelwch TG a diogelu disgyblion ar-lein.
Fel y byddai fy nghydweithiwr Trevor Baker yn ei ddweud, rydych chi i gyd yn arwyr ac mae’n rhaid i mi hefyd ddweud diolch wrth y Penaethiaid a holl staff yr ysgolion sydd wedi gweithio gyda'r timau hyn i sicrhau canlyniad gwych ar y prosiect hwn.
Yr ysgol olaf mae’n rhaid i mi dynnu sylw ati yw Ysgol Y Deri, yn benodol Chris Britten a’i dîm. Hoffwn ddweud llongyfarchiadau ar yr enwebiad i wobr BAFTA Cymru - Mae Special School wedi'i enwebu am wobr y Rhaglen Ddogfen Ffeithiol Orau. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn eich gwisg orau yn y seremoni ddigidol a chroesi bysedd y byddwch yn ennill y wobr rydych yn ei haeddu’n fawr! Pob lwc. Gofynnais i Paula beth yr hoffai ei gynnwys yn y neges hon a dywedodd:
"Diolch yn ddiffuant i'r holl gydweithwyr sydd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i baratoi ar gyfer blwyddyn academaidd newydd. I holl staff yr ysgolion hoffwn ddweud croeso’n ôl, rwy'n gobeithio eich bod wedi cael seibiant da ac rwy'n gobeithio bod yr wythnos gyntaf hon yn ôl wedi mynd yn dda."
Byddwn yn sicr yn adleisio'r sylwadau hyn. Diolch i chi i gyd.
Mae ein gwaith yn cefnogi rhai o'n trigolion ieuengaf a hynaf ac yn darparu gwasanaethau hanfodol i roi ansawdd bywyd da i bobl. Cyn i mi orffen y neges hon, mae’n rhaid i mi sôn am un e-bost arall a ddaeth i'm sylw yr wythnos hon. Rhannodd Lance Carver, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, e-bost a anfonwyd gan gydweithiwr yn Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), yn dilyn cau cartref gofal yn Tower Hill, Penarth. Mae'r ffordd y mae'r mater sensitif iawn hwn wedi'i rheoli wedi'i gymeradwyo gan AGC a'i rannu â'i huwch dîm arwain a'i dirprwy brif arolygydd.
Dywedodd Lance yn ei e-bost mai dyma'r tro cyntaf yn ei yrfa iddo weld canmoliaeth mor uchel gan AGC mewn sefyllfa sydd mor anodd â hon. Rwy'n falch o allu dweud, diolch i broffesiynoldeb ac ymroddiad ein gweithwyr gofal cymdeithasol, fod holl breswylwyr Tower Hill wedi llwyddo i ymgartrefu mewn cartrefi gofal newydd ym Mro Morgannwg. Wrth ddod â’i e-bost i ben, dywedodd Lance 'Diolch am ofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed – maen nhw'n ffodus iawn eich bod chi yma ac yn gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud – diolch.' Ni allwn fod wedi'i eirio'n well fy hun – diolch, gydweithwyr.
Rwyf wedi defnyddio'r neges hon i fyfyrio ar rywfaint o'n gweithgarwch diweddaraf. Bydd y Cabinet yn ystyried ein Hadroddiad Blynyddol yn erbyn ein Cynllun Corfforaethol ddydd Llun. Mae darllen yr adroddiad hwnnw'n dangos faint yr ydym wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf mewn amgylchiadau eithriadol. Mae gweithio gyda'n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gynifer o fywydau ein trigolion a bydd yn parhau i wneud hynny.
Yn fy neges yr wythnos nesaf byddaf yn siarad am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel Cyngor, gan gynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cam nesaf yn ein prosiect swyddfeydd, a fydd bellach yn symud ymlaen yn gyflym. Trafodwyd hyn yn ein cydgyfarfod gyda’r Uwch Dîm Arwain a Phenaethiaid Gwasanaeth yr wythnos hon a byddaf mewn sefyllfa i roi diweddariad llawn i chi yr wythnos nesaf.
Yn olaf, cofiwch fwrw golwg dros ein Llyfr Diwylliant a chymryd rhan yn y raffl i gael cyfle i ennill te prynhawn i ddau yng nghaffi Big Fresh ym mhafiliwn y Pier.
Gan obeithio y caiff pob un ohonoch benwythnos da.
Diolch yn fawr,
Rob.