Gwasanaethau-Rheoliadol-a-RennirGRhR yn lansio podlediad newydd 'Gofynnwch i'r Rheoleiddiwr'  

Nod y podlediad yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i ddefnyddio gwybodaeth a chyngor ar faterion rheoleiddio 

21 Medi, 2021 

Gan weithio mewn partneriaeth â Bro Radio, mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi canfod ffordd arloesol o rannu cyngor, arweiniad a newidiadau i'r gyfraith gyda busnesau a defnyddwyr. 

Yn ddiweddar, cawsom sgwrs â Jemma Cox, Swyddog Ymgysylltu â Busnes a chyflwynydd y podlediad, i gael gwybod mwy am y fenter newydd hon. 

Helo Jemma, diolch am roi o’ch amser i sgwrsio â ni. Yn gyntaf oll, o ble daeth y syniad am y podlediad? 

"Wel, rwy'n gweithio yn y tîm Diwydiannol o fewn Gwasanaethau Menter ac Arbenigol ac mae gennym lawer o gyfrifoldebau gwahanol o fewn y tîm ac un ohonynt yw rhoi cyngor, addysg a hyfforddiant yn y byd busnes. Rydym yn cynnig hyfforddiant ar bynciau fel diogelwch bwyd, alergenau ac iechyd a diogelwch ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a'r Fro, yn ogystal â chynnig hyfforddiant ar-lein hefyd.   

"Fel tîm, roeddem yn meddwl ynghylch sut y gallem gyfleu rhai o'r newidiadau sydd ar y gweill yn y gyfraith a sut y gallem rannu ein hawgrymiadau gorau a'n cyngor a allai helpu busnesau a defnyddwyr. Mae diogelu defnyddwyr a chefnogi datblygiad economaidd busnesau yn flaenoriaeth i'n gwasanaeth, felly roeddem yn ystyried ffyrdd arloesol o wneud hyn yn y cyfnod newidiol hwn.  Rwy'n credu nad yw pobl yn sylweddoli’n aml sut mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn effeithio  ar eu bywydau o ddydd i ddydd ac roeddem am roi cipolwg i ddefnyddwyr a busnesau ar ein gwaith hefyd.  

"Ro'n i ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar a phan o'n i'n mynd allan am dro gyda'r babi dechreuais wrando ar bodlediadau.  Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth oedd heb gael ei wneud o'r blaen felly awgrymais ein bod ni'n creu podlediad.  Ryn ni’n ceisio cadw'r fformat yn fyr, tuag 20 munud neu lai, ac yn sgyrsiol, felly ryn ni’n gobeithio y bydd ein podlediad yn cyrraedd pobl nad ydym wedi llwyddo i ymgysylltu â nhw o'r blaen".   

A yw wedi bod yn heriol ei roi at ei gilydd?  O ran meddwl am gynnwys, recordio, golygu ac ati?

"Un o'r pethau mwyaf ystyrion ni cyn mynd at Bro Radio gyda'r syniad o bodlediad oedd yr ymrwymiad o ran amser. 

"A dyw e ddim wedi cymryd gormod o'n hamser ni o ran recordio.  Diolch byth mae Bro Radio wedi cytuno i roi cymorth i ni gydag ochr dechnolegol pethau, drwy ein helpu i recordio'r podlediad ac maen nhw'n gwneud y golygu hefyd.

"Felly'r elfen sy'n cymryd mwyaf o amser i ni yw cynllunio cynnwys.  Ond gan ein bod yn gweithio mewn gwasanaeth a rennir mae llawer o bynciau y gallwn eu trafod ar draws Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu ac mae llawer o arbenigwyr y gallwn alw arnynt i gymryd rhan. Mae ein tîm rheoli wedi bod yn gefnogol iawn i'r prosiect a chan ei fod yn sgwrs ymysg cydweithwyr, ry’n ni’n gobeithio y bydd Swyddogion sydd heb wneud gwaith yn y cyfryngau o'r blaen yn ystyried cymryd rhan yn y prosiect hefyd. Felly dyna fantais arall i'n podlediad.   

"Rydym hefyd yn annog unrhyw un (o fewn y cyngor, defnyddwyr neu fusnesau) sydd ag unrhyw gwestiynau yr hoffent eu gofyn i ni, i'w hanfon i mewn fel y gallwn gynllunio cynnwys o amgylch yr hyn y mae pobl eisiau ei wybod.  Rydym hefyd wedi edrych ar y tudalennau yr ymwelwyd â nhw amlaf ar ein gwefan i gael dealltwriaeth o’r pynciau y mae gan bobl ddiddordeb ynddynt." 

Felly, gyda hynny mewn golwg, pa bynciau y byddwch yn ymdrin â nhw? 

"Roedd y podlediad cyntaf i ni ei recordio ar alergenau.  Mae newid yn y gyfraith yn dod i rym ar 1 Hydref yr oeddem am godi ymwybyddiaeth ohono. Bydd y podlediad yn ddefnyddiol i fusnesau bwyd ond hefyd i ddefnyddwyr, gan ei bod yn gyffredin i bobl gael alergeddau ac anoddefiadau bwyd, felly roeddem am godi ymwybyddiaeth o bethau i gadw llygad amdanynt. 

"Byddwn yn recordio rhifyn arbennig Calan Gaeaf a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Hydref - gan edrych ar gynnyrch cosmetig, gwisgoedd, lliwiau a ddefnyddir mewn losin a phryderon diogelwch i fod yn ymwybodol ohonynt. 

"Ac yna mae'n Wythnos Diogelu Genedlaethol ym mis Tachwedd felly bydd y rhifyn hwnnw’n canolbwyntio ar y materion pwysig iawn sy'n ymwneud â diogelu a'r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu." 

Beth ydych chi'n gobeithio y bydd pobl yn elwa ohono o wrando ar y podlediad?

"Y syniad y tu ôl i'r enw 'Gofynnwch i'r Rheoleiddiwr' oedd helpu busnesau a defnyddwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau yn y gyfraith sy'n ymwneud â'n gwasanaethau a rhoi cyfle iddynt anfon unrhyw gwestiynau y gallent fod wedi dymuno eu gofyn erioed ond nad ydynt erioed wedi cael y cyfle i wneud hynny.  Rydym hefyd wedi ennill llawer o wybodaeth yn y rolau a wnawn ac roeddem am allu rhannu rhywfaint o'r wybodaeth hon i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am sefyllfaoedd bob dydd, megis hawliau defnyddwyr, cyfraith bwyd, iechyd a diogelwch, sŵn, sgamiau a llawer mwy."  

"Rydym yn gobeithio y caiff y wybodaeth ei chyfleu mewn ffordd hygyrch y gall pobl ddal i fyny â hi ar adeg sy'n addas iddyn nhw. Gyda'r podlediad, does dim rhaid iddyn nhw fod yn eistedd wrth ddesg, yn darllen canllawiau neu'n edrych ar sgrin, maen nhw'n gallu gwrando arnom ni wrth fynd.  Gall hynny fod o gymorth mawr pan fyddwn i gyd mor brysur.  Ac roedd cadw'r hyd i tua 20 munud yn bwysig i ni gan ei fod yn fersiwn fach, er y byddech yn synnu faint o gynnwys y gallwch ei gwmpasu mewn 20 munud."  

Diolch Jemma, mae wedi bod yn sgwrs ddiddorol iawn.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, tarwch e-bost i’r tîm fel y gallan nhw ateb cwestiynau cyffredin mewn penodau sydd i ddod o'r podlediad.

Gallwch ddod o hyd i'r podlediad 'Gofynnwch i'r Rheoleiddiwr' ar Wefan GRhR.