Tîm byw'n iach yn croesawu aelodau newydd  

Mae tri aelod newydd o staff wedi ymuno â'r Tîm Byw'n Iach yn ddiweddar, sy'n gyfrifol am wella iechyd a lles trigolion lleol drwy gynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol 

09 Medi, 2021

Mae wedi bod yn 18 mis anodd i’r tîm byw'n iach, gan fod un o'r sectorau allweddol y mae'n eu cefnogi wedi bod i mewn ac allan o'r cyfnod clo, gyda mynediad cyfyngedig i gyfleusterau a chyfleoedd ymarfer grŵp.  Ond cafodd y tîm hwyl dda ar weithio’n rhithwir a darparu mynediad i weithgareddau lle bynnag yr oedd modd; efallai eich bod wedi dilyn rhai o sesiynau Youtube y tîm atgyfeirio ymarfer corff neu wedi cofrestru eich plant ar raglen haf o hwyl yn ddiweddar, yr helpodd y tîm i’w gydlynu.  

A nawr maen nhw'n croesawu tri aelod newydd i'w tîm. I'w cyflwyno, a'r gwahanol gynlluniau y byddant yn gweithio arnynt, rydym wedi llunio proffiliau byr ar bob un ohonynt. 

Elliot PottingerEnw: Elliot Pottinger

Teitl y swydd: Swyddog Byw'n Iach (Oedolion)

Disgrifiad swydd: Mae rôl Elliot yn canolbwyntio ar gyfranogiad oedolion mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Y prosiect cyntaf y mae wedi bod yn gweithio arno yw'r Cynllun Hamdden 60+, sy'n ceisio ymgysylltu ag unigolion anactif yn y grŵp oedran hwn a'u cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.  Gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.  Mae Elliot eisoes wedi gwneud cynnydd da gyda'r cynllun hwn yn yr amser byr y mae wedi bod yn ei swydd, dechreuodd weithio i'r Cyngor ddiwedd mis Mai. Mae hon yn swydd newydd a ariennir gan Gyllid Atal Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro.

 

Louis WonesEnw: Louis Wones 

Teitl y swydd: Swyddog Datblygu Atgyfeiriadau Ymarfer Corff

Disgrifiad swydd: Bydd Louis yn rhan o'r Tîm Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol.  Prif rôl Louis yw cefnogi'r broses o drosglwyddo unigolion sy'n gorffen y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol i ddarpariaeth gymunedol briodol er mwyn annog cyfranogiad parhaus mewn gweithgarwch corfforol. Bydd Louis hefyd yn edrych ar athreuliad o fewn y cynllun, y rhesymau nad yw unigolion bob amser yn cymryd rhan yn y cynllun ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu a'r rhai sy'n gadael y cynllun.  Mae hyn yn cysylltu'n dda â phrosiect newydd y byddwn yn dechrau'n fuan gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro lle bydd ymgynghorydd gwyddorau ymddygiad yn edrych ar y llwybr/prosesau ac yn gweld a oes unrhyw ddiwygiadau a awgrymir er mwyn eu gwneud yn fwy gwybodus ac effeithiol o ran ymddygiad. Er mai prosiect yn y Fro fydd hwn, mae gan Grŵp Rheoli Cenedlaethol y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol ddiddordeb yn y prosiect hwn i weld a oes unrhyw ddysgu y gellir ei rannu i gefnogi gwelliannau yn y cynllun cenedlaethol. Mae swydd Louis yn un newydd yn y tîm ac mae'r gwaith gwyddor ymddygiad yn cael ei ariannu gan Gyllid Atal Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro.

 

Bronnie GriffithsEnw: Bronnie Griffiths

Teitl y swydd: Swyddog Byw'n Iach (Chwaraeon Anabledd) 

Disgrifiad swydd: Mae Bronnie wedi cymryd rôl y Swyddog Byw'n Iach (Chwaraeon Anabledd) gan Simon Jones, a adawodd yr awdurdod yn ddiweddar. Bydd ffocws Bronnie i ddechrau ar annog a chefnogi clybiau i ennill achrediad Insport, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod ganddynt yr ethos, y polisïau a'r strwythurau ar waith i ddarparu cyfleoedd cynhwysol o safon i bobl anabl. Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Chwaraeon Anabledd Cymru.

 

Dywedodd Karen Davies, Prif Swyddog Byw’n Iach: 

"Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd y Cyhoedd y Fro i gyflwyno'r ddwy swydd newydd i'r Cyngor. Bydd y swyddi hyn, ynghyd â'r swydd Chwaraeon Anabledd, yn ein galluogi i ganolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd a chyfraddau cyfranogi ymhlith grwpiau a dargedir yn ein cymuned.  Mae manteision cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn bellgyrhaeddol, gan effeithio ar iechyd corfforol a lles meddyliol, felly mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i gynyddu cyfraddau cyfranogi ymhlith grwpiau a nodwyd a fyddai'n elwa o'r effaith gadarnhaol hon.  

"Mae Elliot, Louis a Bronnie yn dod â chyfoeth o wybodaeth i'w rolau newydd, maent yn llawn brwdfrydedd i gael effaith gadarnhaol ar aelodau ein cymuned ac maent yn awyddus i ledaenu'r gair am fanteision chwaraeon a chyfranogiad gweithgarwch corfforol."