Wedi'i lunio gan Grŵp Ymgysylltu ac Arloesi'r Cyngor, bydd yn ganllaw i weithwyr newydd a phresennol yn ogystal â'r cyhoedd ar sut rydym yn gwneud pethau yn y Fro. Adroddir straeon y cydweithwyr hynny sy'n rhoi ein gwerthoedd a'n hethos ar waith ym mhob agwedd ar eu gwaith.
Cwrddon ni â dau aelod o’r grŵp, Kath Clarke a Glyn Davies, i glywed sut bu gwaith ar y Siarter Staff yn ddechrau i'r Llyfr Diwylliant. Bu Delyth Miller a Natalie Jones o'r Tîm Dysgu a Datblygu Sefydliadol hefyd yn ymuno a'r sgwrs, sydd wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r Llyfr Diwylliant.
Kath: "Daeth y ddau ohonom yn rhan o'r sesiynau ymgysylltu â gweithwyr yn ôl yn 2015. Y Sgwrs Fawr oedd yr enw bryd hynny. Clywais fod y cyngor yn newid y ffordd yr oedd yn ymgysylltu â staff. Roeddwn i eisiau gwybod mwy a meddwl ei fod yn gyfle i fod yn rhan o rywbeth newydd a chael dweud fy nweud am sut roedd y Cyngor yn mynd i newid.
Glyn: "Ar ôl sesiynau’r Sgwrs Fawr, sefydlwyd gweithgorau a thrwy'r rhain, roeddem yn gallu cyflwyno i uwch reolwyr yr hyn yr oedd staff wedi'i ddweud wrthym oedd yn feysydd blaenoriaeth iddynt. Yn y rhan fwyaf o achosion, eu hanfod oedd yr angen i gael eu clywed a’u parchu, ac i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
"O fewn y gweithgorau, dechreuon ni ddatblygu fframwaith ar gyfer yr holl staff a rheolwyr yn unol â moeseg sylfaenol gwerthoedd a chredoau'r Cyngor. Dyma’r Siarter Staff. "
Kath: "Roedd yn wych bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Siarter Staff o fod yn syniad mewn un o'r sesiynau cynnar yr holl ffordd drwodd i fod yn gynnyrch gorffenedig wedi'i lofnodi gan y TRhC ac wedi'i argraffu'n broffesiynol yn barod i'w dosbarthu. Ond mewn gwirionedd dim ond hanner y swydd oedd hynny.
"Roedd angen i ni sicrhau bod y llyfr yn cael ei ymwreiddio ym mhob gwasanaeth. Datblygwyd rôl 'Hyrwyddwr y Siarter', a gwirfoddolodd Glyn a minnau i fod yn rhan o'r grŵp hwn hefyd.
Glyn: "Roeddem yn gweithredu fel y cyswllt rhwng timau unigol a’r TRhC. Roedd hyn yn ein harwain i fod yn rhan o sesiynau Croeso i'r Fro gyda dechreuwyr newydd. Roeddem yn gweld bod staff newydd, yn benodol, yn ymateb yn dda iawn i glywed am y math o sefydliad yr oedd Cyngor Bro Morgannwg a'r gwahanol grwpiau sydd ar waith, fel GLAM. Ar yr un pryd, roedd y Tîm Dysgu a Datblygu Sefydliadol yn edrych ar ffyrdd newydd o ymgorffori gwerthoedd y Cyngor ac roedd yr adborth hwn yn un o nifer o ffactorau a'n harweiniodd at y syniad o lyfr diwylliant."
Delyth: "Ym mis Chwefror 2020 ychydig cyn dechrau’r pandemig, roeddem yn cynnal un o'n Sesiynau Datblygu Rheoli ar gyfer Prif Swyddogion ac yn siarad am straeon a sut maen nhw wir yn dod â diwylliant cwmni'n fyw.
"Ar yr un pryd, roeddem yn edrych ar sut y gallem ni, fel Grŵp Ymgysylltu ac Arloesi, ddatblygu'r Siarter Staff; ac ar ôl trafod â Rob Thomas, cafwyd y syniad o Lyfr Diwylliant oedd yn adeiladu ar y Siarter Staff ac yn dod â'n straeon yn fyw."
"Nesaf daeth y grŵp Ymgysylltu ac Arloesi, a fu'n gweithio ar gynnwys y llyfr, gan ganolbwyntio ar eu meysydd nhw a gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad i sicrhau bod y llyfr yn cynrychioli pob rhan o'n sefydliad amrywiol."
Natalie: "Ar ôl i'r cynnwys gael ei wneud, dyma fi’n casglu'r wybodaeth ynghyd ac yn rhoi bywyd iddi, er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchiad cywir o'n diwylliant.
"Roedd sicrhau bod y Llyfr Diwylliant yn gynrychioliadol o'r Cyngor yr ydym heddiw yn bwysig, gan gyd-fynd â'n hagenda ddigidol a'n strategaeth Prosiect Sero. Am y rheswm hwnnw, crëwyd Llyfr Diwylliant digidol, sy'n hygyrch i bawb ar unrhyw ddyfais. Mae’r llyfr hwn yn adrodd ein Stori Ddiwylliant, a straeon ein pobl.
"Trwy gydol y broses ddylunio rydym wedi gweithio gyda grwpiau amrywiol yn y sefydliad a rhai sy’n gysylltiedig ag ef i sicrhau bod y llyfr yn parhau i gynrychioli ein staff a'n gwerthoedd. Rydym wedi gweithio ar y cyd â'n rhwydweithiau Amrywiaeth, Hyrwyddwyr Lles, Bwrdd Mewnwelediad, yr Uwch Dîm Arwain ac aelodau'r Cabinet i gael eu sylwadau a'u mewnbwn i sicrhau bod y llyfr yn cyflawni ei ddiben ar gyfer y Cyngor."
Kath: "Diben y Siarter Staff yw bod yn llawlyfr i reolwyr a staff i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at werthoedd y Cyngor a’n bod yn gyson yn y ffordd rydym yn gwneud hyn. Mewn sawl ffordd mae'r Llyfr Diwylliant yn mynd â'r syniad hwn gam ymhellach. Mae'n dangos i staff a'r cyhoedd sut rydym i gyd yn gweithredu'r gwerthoedd hyn yn ein gwaith."
Glyn: "Rwy'n falch iawn y bues i’n rhan o'r ddwy fenter. Yn union fel gyda’r Siarter Staff, ni fydd y gwaith yn gorffen pan gaiff Llyfr Diwylliant y Fro ei lansio, felly mae digon o gyfle o hyd i bobl gymryd rhan. Byddwn yn annog unrhyw un i gofrestru."
Delyth: "Rydym wrth ein boddau bod y Grŵp Ymgysylltu ac Arloesi a'r Uwch Dîm Arwain wedi rhoi eu llofnodion terfynol ac rydym yn paratoi i lansio'r llyfr ddydd Llun 6 Medi 2021. Bydd yn gyffrous gweld a yw ein staff yn teimlo'r un ffordd â phob un ohonom ni am yr hyn sydd yn y llyfr a sut mae'n cynrychioli'r Cyngor, ein Gwerthoedd a'r gwaith yr ydym i gyd yn ei wneud bob dydd."
"Mae'r Llyfr Diwylliant yn ddogfen fyw sy'n datblygu gyda ni ac rydym yn bwriadu diweddaru'r Llyfr Diwylliant yn rheolaidd. Ein llyfr ni yw hwn, a byddwn yn chwilio amdanoch chi, ein staff, i rannu eich straeon am sut rydych chi'n rhoi'r Gwerthoedd ar waith yn y swyddi rydych chi'n eu gwneud bob dydd. Felly, daliwch ati i rannu â ni ac edrych ar y Llyfr yn rheolaidd."
Cadwch lygad am y Llyfr Diwylliant ddydd Llun 06 Medi i weld y cynnyrch terfynol a chael cyfle i ennill Te Prynhawn i Ddau yn y Big Fresh fel rhan o'n menter Lansio.