Allech chi wneud gwahaniaeth i blentyn sydd angen lle i’w alw’n gartref?

Mae Maethu Cymru yn barod i'ch cefnogi i fod yn ofalwr maeth gwych ac i wneud gwahaniaeth i blant mewn angen ym Mro Morgannwg.

24 September, 2021

Yng Nghymru, mae cannoedd o blant yn chwilio am deuluoedd maeth a lle i’w alw’n gartref.  Wrth i chi ddarllen hwn, ym Mro Morgannwg yn unig, mae gennym hyd at dau-ddeg tri o blant sydd angen gofal maeth.

Gyda dros draean (39%) o oedolion Cymru yn dweud eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae ymgyrch newydd wedi lansio ledled Cymru yr wythnos hon gyda'r nod o gynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth yn sylweddol mewn Awdurdodau Lleol. 

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith ymbarél o wasanaethau maethu’r 22 Awdurdod Lleol. Fe'i sefydlwyd ym mis Gorffennaf gyda'r nod o gael effaith sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru.  

Nod yr ymgyrch benodol hon yw cynyddu nifer y rhieni maeth sydd eu hangen i alluogi plant i aros yn eu hardaloedd lleol, pan fydd hynny'n iawn iddynt.   

LA-FOSTERCARER-WELSHGall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr a golygu'r byd i blentyn. Nid yn unig y mae'n eu cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu hysgol a'u hymdeimlad o hunaniaeth, ond mae hefyd yn magu hyder ac yn lleihau straen. 

Dywedodd Rachel Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, "Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun i wrando arnynt. I gredu ynddynt. Plant sydd angen rhywun ar eu hochr nhw, rhywun i'w ofalu amdanyn nhw.

"Mae'n benderfyniad i weithio gyda phobl sy'n rhannu'r nodau hynny, pobl fel ein tîm maethu yma ym Mro Morgannwg. Mae dal angen recriwtio tua 20 o ofalwyr maeth a theuluoedd newydd ar draws Bro Morgannwg bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn diwallu’r angen gan blant am ofal a chymorth, a llenwi’r bylchau wrth i ofalwyr ymddeol neu er mwyn cynnig cartref parhaol i blant.

“Mae unrhyw un sy'n maethu gyda'n tîm Maethu Cymru yn gwneud hynny gan wybod, i ba le bynnag y bydd eu dyfodol maethu yn mynd â nhw, y byddwn ni wrth law bob cam o'r ffordd gyda'r holl arbenigedd, cyngor a hyfforddiant ymroddedig sydd eu hangen arnynt i’w cefnogi ar eu taith faethu. “Mae gan bob plentyn yr hawl i ffynnu. Y cyfan sydd ei angen arnom yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a'u croesawu nhw.” 

I gael gwybod mwy am faethu ym Mro Morgannwg, ewch i https://bromorgannwg.maethucymru.llyw.cymru/ neu cysylltwch ag aelod o’n tîm: 

  • 01446 729600