Staffnet+ >
Eich neges wythnsol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

22 Hydref, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Efallai y bydd rhai ohonoch yn edrych ymlaen at seibiant haeddiannol dros yr wythnos hanner tymor yr wythnos nesaf. Os felly, gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser i ffwrdd.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ein mannau awyr agored wedi dod yn bwysicach nag erioed. Hoffwn ddechrau'r neges yr wythnos hon drwy longyfarch yr holl gydweithwyr a grwpiau cymunedol sy'n ymwneud â’r gwaith cynnal a chadw yn ein parciau Baner Werdd. Unwaith eto, mae'r Fro wedi cadw ei 10 baner werdd. Ac, fel y dywed yn y datganiad i'r wasg, dim ond y brifddinas lawer mwy, Caerdydd, sydd wedi ennill mwy o wobrau ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn dyst i waith caled ac arbenigedd ein timau. Yn ogystal â darparu mannau hamdden rhagorol, mae'r ardaloedd hyn yn cyfrannu at ein bioamrywiaeth a nodau Prosiect Sero. Maen nhw'n rhan o'r Fro y gallwn ni i gyd fod yn falch ohonynt. Da iawn pawb.
Cafodd un arall o'n gwasanaethau hanfodol ganmoliaeth yr wythnos hon. Ysgrifennodd preswylydd at yr Arweinydd am ein tîm ailgylchu, gan ddweud:
"Hoffwn ddweud pa mor wych yw eich tîm ailgylchu a gwastraff gwyrdd. Mae'r gwasanaeth yn rhagorol. Ar ôl byw mewn mannau eraill lle nad oedd gwastraff bwyd yn cael ei gasglu, rwy’n credu eich bod yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr iawn. Rwy'n byw yn y Bont-faen ac rwyf bob amser yn falch o weld eich tîm yn gweithio gyda gwên ar eu hwyneb ac agwedd gyfeillgar a gweithgar. A fyddech gystal â dweud diolch iddyn nhw ac i’ch tîm yn y swyddfa. Gwaith gwych.”
Rwy'n gwybod bod criwiau wedi bod yn gweithio oriau ychwanegol i ddal i fyny ar gasgliadau gwastraff gwyrdd dros y penwythnosau ac rwy'n siŵr bod eu goruchwylwyr wedi cael gwaith ychwanegol i'w wneud i drefnu hyn, felly diolch yn fawr iawn i chi gyd am eich gwaith caled parhaus. Cawsoch lawer o ganmoliaeth am eich gwaith yn ystod y pandemig ac rwy'n falch o weld bod preswylwyr yn dal i werthfawrogi'r hyn yr ydych yn ei wneud, ym mhob tywydd. Diolch yn fawr.
Fe wnaethon ni ddathlu wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol fel sefydliad yn ddiweddar, ac rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am fy ymrwymiad i wneud y Cyngor yn weithle hyd yn oed yn fwy cynhwysol. Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, rydym am sicrhau bod pawb yn gallu bod pwy ydynt yn y gwaith, beth bynnag fo'u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd. Un ffordd y gallwn gael ein cydnabod fel cyflogwr cynhwysol LHDT+ yw drwy gymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Un elfen o hyn yw arolwg blynyddol, a reolir gan Stonewall, ond a gwblheir gan staff y Cyngor. Bydd y wybodaeth a rennir gan gydweithwyr fel rhan o'r arolwg hwn yn cyfrannu at ein hasesiad cyffredinol gan Stonewall. Cawsom ein rhestru yn y 200 cyflogwr gorau yn 2020 ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn ei weld yn parhau, neu ei wella, pan gyhoeddir y cylch nesaf o ganlyniadau ym mis Ionawr 2022. Felly, gofynnaf i chi gymryd eiliad er mwyn cwblhau'r arolwg cyn y dyddiad cau, sef 5 Tachwedd. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu rhannu gyda ni, yn ddienw, fel y gallwn weithio ar unrhyw feysydd i wella arnynt gyda chefnogaeth ein rhwydwaith LHDT+, GLAM.
Ni allaf ddod â’r neges hon i ben heb sôn am y nifer cynyddol o achosion Coronafeirws ym Mro Morgannwg, sydd ymhlith yr uchaf yn y DU ar hyn o bryd. Er nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn mynd yn ddifrifol wael, mae perygl o hyd i'r rhai sy'n fwy agored i niwed os bydd y feirws yn parhau i ledaenu. Rydym i gyd yn gwybod y rhagofalon y mae angen i ni eu cymryd i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel:
- cael y ddau bigiad (a phigiad atgyfnerthu os caiff ei gynnig)
- cael prawf a hunanynysu os oes gennych symptomau
- mae'r awyr agored yn fwy diogel na dan do
- cadw eich pellter pan allwch
- golchi eich dwylo'n aml
- gwisgo gorchudd wyneb
Cymerwch ofal, bawb. Diolch yn fawr,
Rob.