Rob Message header summer update

Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

01 Hydref 2021

Annwyl gydweithwyr,

Gobeithio bod pob un ohonoch yn cadw’n iawn.

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn nodi Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant. Mae hyn yn rhywbeth, fel y soniais yn fy neges yr wythnos diwethaf, sy'n bwysig iawn i ni fel Cyngor. Rwy'n falch ein bod wedi gallu siarad yr wythnos hon am y camau yr ydym yn eu cymryd i wneud ein sefydliad yn fwy cynhwysol. Efallai eich bod wedi gweld y newyddion bod cydweithwyr UDA a minnau wedi cefnogi symud yn ddiweddar tuag at staff yn defnyddio rhagenwau ar lofnodion e-bost ac mewn cyfarfodydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud hyn ar gael ar Staffnet+.

Wrth i'r wythnos gynhwysiant ddirwyn i ben, rydym yn dechrau mis Hydref ac felly byddwn yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon sy'n dechrau heddiw. Cyfarfu ein Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff yr wythnos hon i ddatblygu eu nodau o hyrwyddo gweithle cynhwysol i bawb. Yn anffodus, nid oeddwn yn gallu mynd i’r cyfarfod fy hun, ond edrychaf ymlaen at weld y camau y bydd y grŵp yn eu cymryd wrth i'w gwaith fynd rhagddo. Cadwch olwg yma.

Efallai bod cydweithwyr wedi gweld apêl ar Staffnet ar ddechrau’r wythnos i'n cefnogi i geisio recriwtio mwy o staff i'n gwasanaethau gofal preswyl. Mae angen brys i lenwi swyddi gwag ar gyfer Cynorthwywyr Gofal, Cogyddion a Chynorthwywyr Cegin yn ein timau gofal preswyl. 

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan y rheiny sydd â phrofiad o weithio mewn cartrefi gofal neu yn y sector iechyd neu ofal. Os ydych yn adnabod unrhyw un sy'n chwilio am waith rhan-amser, llawn-amser neu hyblyg ac sydd â phrofiad o weithio yn y maes hwn, a fyddech cystal â'i annog i wneud cais am y swyddi gwag hyn drwy ein gwefan.

Mewn newyddion eraill, mae cynllun bancio amser newydd wedi lansio <https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/press_and_communications/latest_news/2021/September/Council-launches-timebanking-scheme.aspx> yr wythnos hon. Wedi'i sefydlu gan ein hadran Tai sy’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GGM) a Benthyg Cymru, mae'r cynllun Amser, Tyfu, Ennill yn rhoi i wirfoddolwyr docynnau y gallant eu defnyddio tuag at amrywiaeth o weithgareddau. Hoffwn longyfarch yr holl dimau sydd wedi gweithio ar y cynllun hwn yn y cyfnod cyn ei lansio ac yn dymuno pob lwc i chi, edrychaf ymlaen at glywed sut mae'n symud ymlaen.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r rheiny sydd wedi bod yn gweithio yr wythnos hon i sicrhau bod gennym gynlluniau wrth gefn effeithiol ar waith i ymateb i'r problemau cyflenwi tanwydd cenedlaethol sydd wedi'u dogfennu'n dda yn y cyfryngau. Mae ein tîm Cynllunio At Argyfwng wedi bod yn gweithio gyda thimau ar draws y sefydliad i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol. Mae'r sefyllfa'n gwella'n gyson ond rydym yn parhau’n barod am bob posibilrwydd. Yn ôl yr arfer, mae Debbie Spargo a'i chydweithwyr wedi sicrhau bod y Cyngor wedi'i baratoi'n llawn ar gyfer pob posibilrwydd a’i fod yn parhau’n gwbl barod am bob posibilrwydd. Diolch, Debbie!

Yn olaf, hoffwn atgoffa'r staff bod sesiwn cynnal a chadw beiciau am ddim yn cael ei chynnal yn y swyddfeydd Dinesig yfory, 2 Hydref, rhwng 10am a 1pm. Dyma sesiwn am ddim sy'n cael ei chynnal yn rhan o'n gwaith i hyrwyddo'r Siarter Teithio Iach ac mae'n gyfle i ddysgu mwy am ofalu am eich beic. Bydd dau e-feic ar y safle hefyd i chi roi cynnig arnynt. I unrhyw un sy'n dymuno prynu beic newydd, mae'r cynllun Cycle2Work ar waith eto am y pum wythnos nesaf. Ewch i'r hyb Cycle2Work i gael mwy o wybodaeth.

Gobeithio y cewch benwythnos dymunol. Cymerwch ofal. 

Diolch yn fawr,

Rob.