Staffnet+ >
Managing Director's weekly message
29 Hydref, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio’ch bod i gyd yn cadw’n iawn. Efallai bod rhai ohonoch yn darllen hwn ar fore Llun ar ôl dychwelyd o seibiant haeddiannol o'r gwaith, ac os felly gobeithio eich bod wedi mwynhau eich hanner tymor.
Rhaid i mi ddechrau fy neges drwy atgoffa pawb nad yw’r pandemig ar ben o bell ffordd ac nad yw’r coronafeirws wedi diflannu. Mae gan Gaerdydd a'r Fro rai o'r cyfraddau coronafeirws uchaf yng Nghymru, ac ar hyn o bryd Cymru sydd â'r cyfraddau uchaf yn y DU.
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw, er y bydd Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd sero, fod mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu iechyd pobl.
Yn bennaf, mae'r canllawiau ynghylch hunan-ynysu yn newid. Gofynnir i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant a phobl ifanc rhwng pump ac 17 oed hunanynysu nes eu bod wedi cael prawf PCR negatif os oes gan rywun yn eu haelwyd symptomau neu os oes rhywun ar eu haelwyd wedi cael prawf positif am Covid-19.
Bydd pobl nad ydynt wedi’u brechu yn dal i orfod hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif, gan gynnwys cysylltiadau agos y tu allan i'w haelwydydd.
Gwn fod effaith unrhyw newidiadau yn aml yn cael ei theimlo'n llym yn ein hysgolion. Dywedodd y Prif Weinidog heddiw y bydd penaethiaid yn cael cymorth ychwanegol i roi mesurau ar waith yn gyflym os yw eu cyfraddau achosion lleol yn uchel. Ochr yn ochr â hyn, bydd ein timau Dysgu a Sgiliau a'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol hefyd yn gweithio i gefnogi staff ysgol, disgyblion a'u teuluoedd.
Yr wythnos hon hoffwn dweud ddiolch i un o'n swyddogion gorfodi oedd yn gweithio ar Ynys y Barri ar 21 Hydref. Gwelodd preswylydd lleol ymwelydd yn ymddwyn yn ymosodol iawn tuag at y swyddog hwn. Yn anffodus, mae'n rhaid i lawer o'n staff rheng flaen ddelio â sefyllfaoedd gwrthdrawiadol yn rheolaidd ond y tro hwn roeddwn yn falch iawn o dderbyn e-bost gan aelod o'r cyhoedd yn rhoi gwybod i fi gymaint o argraff y creodd y swyddog gorfodi arno, gan ddweud:
"Dangosodd eich warden amynedd rhyfeddol o dan amgylchiadau bygythiol ac mae’n dwyn clod ar eich sefydliad cyfan."
Rwyf wedi cysylltu â fy nghydweithwyr yn y tîm Gorfodi Gwasanaethau Cymdogaeth ac mae David Mitchell wedi trosglwyddo fy niolch i'r swyddog dan sylw – Craig Handley. Hoffwn ddweud “da iawn” wrth Craig am y modd proffesiynol y gwnaethoch ymdrin â'r sefyllfa ac i'n holl dîm gorfodi am wneud gwaith y mae’n rhaid ei fod yn ddigon anodd mewn amgylchiadau heriol.
Hoffwn hefyd longyfarch cydweithwyr yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir sydd wedi cael eu cydnabod mewn dau ddigwyddiad gwobrwyo gwahanol yn ddiweddar. Llongyfarchiadau a da iawn i'r holl swyddogion sy'n rhan o'r gwasanaeth iechyd a lles anifeiliaid ar dderbyn tair gwobr Paw Prints gan yr RSPCA. A llongyfarchiadau pellach i Jemma Cox a dderbyniodd ddwy wobr gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig yn ddiweddar am ei pherfformiad rhagorol wrth ennill cymwysterau proffesiynol. Da iawn Jemma!
Efallai bod rhai ohonoch wedi treulio amser dros yr egwyl hanner tymor yn dewis neu addurno pwmpenni gyda'ch teuluoedd. Mae ymchwil wedi dangos bod 12.8 miliwn o bwmpenni a brynir yn y DU yn debygol o beidio â chael eu bwyta. Mae hynny'n cyfateb i 67% o holl deuluoedd yn y DU yn taflu bob o bwmpen. Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon, sy'n cynnwys ailgylchu a lleihau gwastraff, roeddwn yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol rhannu ambell syniad gyda chi o ran beth i'w wneud ag unrhyw bwmpenni dros ben. Mae Caru Bwyd, Casáu Gwastraff wedi cynnig ryseitiau hyfryd yn cynnwys pwmpenni ar eu gwefan:
Beth am gael y teulu at ei gilydd i goginio gyda'ch pwmpenni y penwythnos hwn?
I gloi, mae Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd, COP26, yn dechrau ddydd Sul, 31 Hydref, yn Glasgow, a bydd yn para pythefnos. Bydd arweinwyr y byd yn cyrraedd yr Alban, ynghyd â degau o filoedd o negodwyr, cynrychiolwyr llywodraethau, busnesau a dinasyddion am ddeuddeg diwrnod o drafod. Nod COP26 yw dod i gytundeb byd-eang i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau carbon i sero-net erbyn canol y ganrif.
Drwy ein Prosiect Sero, rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau i sero-net erbyn 2030, a byddaf yn neilltuo neges yr wythnos nesaf at dynnu sylw at rai o'r prosiectau, a’r timau, fydd yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn. Mae hyn yn ychwanegol at y negeseuon arferol yn ystod y pythefnos nesaf ynglŷn â’r hyn rydym ni fel sefydliad yn ei wneud i leihau ein hallyriadau a'n heffaith ar y blaned. Ddydd Llun, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru - Jeremy Miles - ar safle'r ysgol gynradd newydd ym Nhrwyn y Rhws, sy'n cael ei datblygu ac a fydd yn ysgol sero-net - y gyntaf o'i bath i gael ei datblygu yng Nghymru, gredwn ni. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ein holl weithgareddau - mawr a bach - ac ystyried sut y gallwn leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a'r hinsawdd.
Bydd gennyf ragor o enghreifftiau i'w rhannu gyda chi yr wythnos nesaf a than hynny, gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos pleserus.
Cofion,
Rob.