Llwyddiant y cynllun Kickstart
Dim ond llond llaw o enghreifftiau yw'r rhain o sut mae'r cynllun Kickstart wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn.
11 Tachwedd, 2021
Yn ystod y misoedd diwethaf mae 46 o bobl ifanc 16 - 24 oed wedi cymryd rhan yn y cynllun Kickstart gyda'r Cyngor. A disgwylir i 20 swydd wag newydd ychwanegol fynd yn fyw erbyn diwedd y flwyddyn.
Nod y cynllun yw cynnig lleoliadau gwaith i bobl ifanc, sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor, i'w helpu i ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i wneud cais am gyfleoedd cyflogaeth parhaol.
Yn ogystal â chynnig lleoliadau o fewn y sefydliad, mae'r Cyngor wedi cefnogi busnesau lleol eraill i gymryd rhan yn y cynllun drwy weithredu fel cyflogwr porth.
Mae tri unigolyn a gymerodd ran yn y cynllun Kickstart bellach wedi cael rolau parhaol gyda'r Cyngor. Mae Ethan Harris yn gweithio mewn rôl glercaidd yn ein hadran gyllid, cwblhaodd Alex Cheung leoliad Kickstart gyda'r tîm TGCh ysgolion ac mae bellach wedi cael swydd gyda'r un tîm a dechreuodd Rebecca Gibbs gyda’r tîm TGCh ysgolion mewn lleoliad Kickstart a bellach mae ganddi rôl glercaidd barhaol gyda'r Cyngor.
Mae lleoliadau dau berson ifanc arall a gymerodd ran yng Nghynllun Kickstart wedi’u hestyn.
Dyma’r hyn mae rhai o'r rheolwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun wedi'i ddweud;
"Mae'r rhaglen Kickstart wedi rhoi dau unigolyn brwdfrydig a galluog a oedd yn ddi-waith ac yn awyddus i symud eu gyrfaoedd yn eu blaenau i Ganolfan Monitro Arfordir Cymru. Mae'r adnodd ychwanegol wedi ein galluogi i brosesu data oedd wedi ôl-gronni ac i gynnal ymchwil newydd er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn ein gweithrediadau.
"Gwnaethon ni hefyd dargedu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt ennill profiad yn ystod eu lleoliadau a gobeithio y gallant gyfrannu'n ôl i'n sector." Gwyn Nelson – Rheolwr Rhaglen Canolfan Monitro Arfordir Cymru
“Mae cael person ifanc o’r cynllun Kickstart yn gweithio gyda ni’n wych; mae wir wedi helpu i gefnogi anghenion y tîm ac wedi ein galluogi i ryddhau adnoddau mewn meysydd eraill. Mae hefyd yn gyfle gwych i'r person ifanc hwnnw ddechrau yn y maes a dangos yr hyn y gall ei wneud - mae'n wych i'w CV gan ddangos ei fod wedi gweithio i ni ac rydym ni fel sefydliad yn cael ei helpu i ddatblygu sgiliau newydd, p'un a fydd yn aros gyda ni neu'n symud i'r cyfle nesaf." Lloyd Davies – Ymgynghorydd Datblygu Sefydliadol a Dysgu.
I gael gwybod mwy am y cynllun Kickstart, cysylltwch â Joanne Higgins yn ein tîm Datblygu Sefydliadol.