Staffnet+ >
Diwrnod Rhyngwladol Rhagenwau 2021
Diwrnod Rhyngwladol Rhagenwau 2021
Nod Diwrnod Rhyngwladol Rhagenwau yw gwneud parchu, rhannu gwybodaeth, ac addysgu pobl am ragenwau yn rhywbeth cyffredin.
20 Hydref, 2021
Mae cyfeirio at bobl drwy ddefnyddio’r rhagenwau y maent wedi’u pennu ar gyfer eu hunain yn hanfodol i urddas dynol. Yn benodol, mae cyfeirio at bobl gyda’r rhagenwau anghywir yn cael effaith ar bobl trawsryweddol a phobl sy’n anghydffurfio o ran rhywedd.
Gyda’n gilydd gallwn drawsnewid cymdeithas i ddathlu hunaniaeth luosog pobl.
Dechreuodd Diwrnod Rhyngwladol Rhagenwau yn 2018 ac fe’i cynhelir ar y trydydd dydd Mercher ym mis Hydref bob blwyddyn.
Yn ddiweddar cytunodd ein Uwch Dîm Arwain ar adroddiad oedd yn annog defnyddio rhagenwau ar lofnodion e-bost ac mewn cyfarfodydd.
Beth ydych chi’n ei olygu pan fyddwch yn siarad am ragenwau?
Yn Saesneg, mae nifer o wahanol fathau o ragenwau. Yn benodol, mae Diwrnod Rhyngwladol Rhagenwau yn cyfeirio at ragenwau personol yn y trydydd person a gaiff eu defnyddio i ddisgrifio person pan fyddwch yn siarad amdano. Gallwch ddysgu mwy am rannu rhagenwau, holi am ragenwau a beth i’w wneud ar ôl defnyddio rhagenw anghywir trwy ddarllen Canllaw Rhywedd a Rhagenwau'r Canolfan Enfys.