Rob Message header summer update

Annwyl gydweithwyr,

Gobeithio’ch bod i gyd yn iawn.  Wrth i fisoedd y gaeaf nesáu, rwy’n ymwybodol bod llwythi gwaith yn cynyddu, fel y mae adroddiadau am annwyd ac achosion Coronafeirws.  Felly, hoffwn ddechrau'r neges hon drwy ddweud, er bod y gwaith a wnawn yn bwysig, mae hefyd yn bwysig ein bod yn gofalu am ein hiechyd a'n lles. Wrth inni nesáu at wythnos hanner tymor, rwy'n gobeithio bod rhai ohonoch wedi trefnu amser i ymlacio a chael seibiant o'r gwaith.

O ran ysgolion a'r hanner tymor sy’n agosáu, mae gennyf ychydig o eitemau cysylltiedig sydd wedi'u dwyn i'm sylw yr wythnos hon. Mae'r cyntaf yn llythyr diolch diffuant iawn gan Bennaeth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, o ddiwedd y tymor diwethaf, at Mandy a'i thîm o staff glanhau. Bydd geiriau Mr Angell-Jones yn taro tant â nifer ohonoch, rwy'n siŵr, felly roeddwn am dynnu sylw at y canlynol:

Mr Angell Jones letter snip

Diolch i Lynne Armstrong am rannu hyn gyda mi a hoffwn ddiolch hefyd i'n holl staff glanhau am eu gwaith a'u hymroddiad eithriadol dros y 18 mis diwethaf.  

Tîm arall sydd wedi perfformio'n eithriadol yw Big Fresh Catering, ac fe'n hatgoffwyd eto yr wythnos hon mai'r rôl bwysicaf y maent yn ei chwarae yw sicrhau y darperir ar gyfer disgyblion ein hysgol. Doedd gan Ysgol Y Deri ddim staff cegin ddydd Mercher, oherwydd achosion coronafeirws positif, a doedd dim staff cyflenwi ar gael felly camodd prif swyddogion Big Fresh Carole Tyley a Symon Dovey i'r adwy, a llwyddo i baratoi'r gegin cyn darparu gwasanaeth cinio llawn i ddisgyblion ar fyr rybudd. Ac, yn garedig iawn, diolchodd pennaeth Ysgol Y Deri, Chris Britten, iddyn nhw ar Twitter. Diolch Carole, Symon a'r tîm am ddangos gwerthoedd #TîmYFro, am dorchi llewys a chydweithio i sicrhau gwasanaeth parhaus i ddisgyblion y Fro.

Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol bod Wales and West Utilities yn gwneud gwaith nwy hanfodol yn Park Crescent yn y Barri ar hyn o bryd. Gallai'r gwaith hwn, sydd mor agos at Ysgol Gynradd Romilly, un o ysgolion cynradd mwyaf y Fro, fod wedi achosi aflonyddwch sylweddol. Ond roeddwn yn falch o gael gwybod gan gydweithwyr yr wythnos hon fod y gwaith yn mynd rhagddo a bod y mesurau rheoli traffig dros dro hefyd yn gweithio'n dda. Mae ymgysylltu'n gynnar â'r ysgol, rhieni a masnachwyr cyfagos wedi golygu na chafwyd unrhyw broblemau mawr hyd yma. Rwy'n gobeithio y bydd yr wythnosau sydd ar ôl lawn cystal.  Gyda diolch i gydweithwyr priffyrdd, ac yn arbennig Nathan Thomas, am hwyluso'r gwaith hwn.

Cefais e-bost i dwymo’r galon yr wythnos hon hefyd yn canmol un o’n haelodau staff llyfrgell, Gethin Shepperd. Yn ddiweddar mae Gethin wedi helpu preswylydd lleol a oedd yn ymchwilio i hanes gofidus teuluol ac mae wedi cael canmoliaeth fawr am ei ymdrechion. Dywed yr e-bost:

"Mae ymatebion prydlon, effeithlon a llawn Gethin wedi creu argraff fawr arna i, ac roeddwn am roi gwybod i chi cymaint o ofal, caredigrwydd a phroffesiynoldeb mae wedi eu dangos. Rhaid ei fod yn gydweithiwr gwych."

Dydw i ddim yn siŵr y gallwn i ei fynegi’n well na hynny, felly dyma adleisio’r teimladau hynny wrth ddiolch i chi, Gethin.

Hoffwn hefyd, yr wythnos hon, longyfarch tîm mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, sydd wedi cyfrannu at bodlediad arobryn. Enillodd 'Dweud y gwir yn Blaen', y wobr AUR am 'Y Defnydd Gorau o Gynnwys' yng Ngwobrau Pride CIPR yn ddiweddar.  Dywedodd y beirniaid: 

"Daeth yr ymgyrch hon â dull newydd iawn o ymdrin â mater cymhleth a sensitif, gan ganolbwyntio ar adrodd straeon a phrofiadau bywyd go iawn. Roedd dull manwl o ymchwilio a chynnwys grwpiau teuluol amrywiol o'r cychwyn cyntaf wedi creu podlediad gafaelgar ac arloesol a ysbrydolodd ymgysylltiad newydd a chynhyrchiol i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol."

Da iawn i bawb a fu ynghlwm wrtho.   Hoffwn hefyd ddefnyddio'r neges hon i helpu un o'n partneriaid, Menter Bro Morgannwg, drwy sôn am eu cwis tafarn ddydd Mawrth nesaf, 19 Hydref, yn y Tynewydd yn y Barri. Bydd y cwis yn ddwyieithog felly'n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a'r di-Gymraeg. Mae ein perthynas â’r Fenter yn un gref a gwerthfawr iawn a gobeithio y bydd rhai ohonoch yn mynd draw i'w cefnogi a mwynhau noson allan. Pob lwc os gwnewch chi! 

I gloi, ychydig wythnosau'n ôl, roeddwn yn falch o gyhoeddi enillydd Te Prynhawn Big Ffres a ddewiswyd ar hap o'r ceisiadau a dderbyniwyd yn dilyn lansio ein Llyfr Diwylliant.  Nodais hefyd y byddai 20 arall yn cael 'gwobr gysur' yr un o £5 o dalebau i'w defnyddio ym Mhafiliwn y Pier.  Mae'r enwau hynny bellach wedi'u dewis a bydd yr 20 lwcus yn derbyn hysbysiad ddechrau wythnos nesaf.  Mwynhewch!

Gobeithio y caiff pawb ohonoch benwythnos da, beth bynnag sydd gennych ar y gweill.  Pob hwyl a gofalwch amdanoch eich hunain.