Mis Hanes Pobl Dduon a thu hwnt 

Wrth i Fis Hanes Pobl Dduon ddirwyn i ben, gallwn fyfyrio ar yr hyn rydym wedi'i wneud i ddysgu am gyfraniad a chyflawniadau'r rhai sydd â threftadaeth Affricanaidd neu Garibïaidd ac wrth symud ymlaen, sut y gallwn herio hiliaeth a stereoteipiau negyddol.

26 Hydref, 2021

Darparodd ein rhwydwaith staff Amrywiol restr o ffilmiau, llyfrau a cherddoriaeth a argymhellir i ni eu gwylio, eu darllen neu wrando arnynt. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, edrychwch i weld beth sydd o ddiddordeb i chi. 

Yn ôl yn 2018, lluniwyd rhestr o 100 o  ‘Bobl Dduon, Gwych a Chymreig’. Edrychwch ar hwn i weld y cyfraniadau gwych y mae'r bobl hyn wedi'u gwneud i gymdeithas a diwylliant Cymru.  Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Abby Farah MBE (rhif 64), arweinydd cymunedol yn y Barri, tad Abdulrahman Abby Farah (rhif 65), y 'bachgen o'r Barri a helpodd i ryddhau Mandela', a thad-cu i Abdirahman Abby Farah MBE (rhif 66) a fu’n dal y swyddi uchaf yng nghabinet llywodraeth Somalia.
  • Y teulu Hinds o'r Barri – Leonard Hinds (rhif 88) a’i linach chwe chenhedlaeth o blant Cymreig  a oedd yn cynnwys John Darwin Hinds, (rhif 89) y Maer Du Caribïaidd a Mwslimaidd cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol a Chynghorydd Du cyntaf Cymru ac yn un o ddim ond tri a siaradai Gymraeg pan ymunodd â Chyngor y Barri a Gwenllian Hinds Cynghorydd benywaidd du cyntaf Cymru.
  • Menyw ifanc, Mercy Ngulube (rhif 2), a aned gyda HIV, sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl ifanc sy'n byw gyda HIV.
  • Roy Grant (rhif 14), a gollodd ei olwg mewn un llygad mewn damwain yn blentyn a flynyddoedd yn ddiweddarach a gollodd olwg dros dro yn y llall pan fu’n gwbl ddall am 11 mis.  Trodd at ysgrifennu fel therapi i ymdopi â dallineb ac aeth ymlaen i gyhoeddi llawer o lyfrau.  

Mae'n bwysig ein bod i gyd yn chwarae rhan wrth sicrhau bod pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael cyfle teg a chyfartal i gyflawni eu potensial.   Mae hynny'n golygu bod yn wrth-hiliol - mynd ati i adnabod a gwrthwynebu hiliaeth.   

Fel Cyngor, byddwn yn edrych ar ddulliau lle gallwn weithredu a byddwn yn gweithio ar hyn yn ystod y misoedd nesaf.