Staffnet+ >
Neges wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

12 Tachwedd, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio’ch bod i gyd yn iawn.
Wrth i COP26 ddirwyn i ben, roeddwn am ddechrau'r wythnos hon drwy ehangu ar fy neges yr wythnos ddiwethaf drwy dynnu sylw at un neu ddau o brosiectau eraill a fydd yn ein helpu i fwrw ein targed carbon sero-net.
Yn gyntaf, gwahoddwyd ein cydweithiwr Emma Reed i siarad am deithio llesol yn un o ddigwyddiadau Sioe Deithiol Ranbarthol COPCymru yr wythnos hon. Roedd y sesiwn yn ymwneud â strategaethau i gefnogi newid mewn arferion teithio. Rhoddodd Emma drosolwg cynhwysfawr o'r cynllun llogi beiciau trydan a lansiwyd ym Mhenarth flwyddyn yn ôl.
Un o elfennau allweddol y cynllun llogi beiciau trydan yw lleoliad y gorsafoedd docio, gan alluogi cymudwyr i gasglu beiciau trydan o orsaf drenau Penarth, er enghraifft, er mwyn parhau â'u taith mewn ffordd gynaliadwy. Gellir defnyddio'r beiciau hefyd ar gyfer gweithgareddau hamdden, gan fod gorsafoedd docio ar Esplanâd Penarth ac ym Mharc Gwledig Cosmeston.
Ers lansio'r cynllun yn y Fro mae’r beiciau wedi’u llogi 11,963 o weithiau (tua 1,000 o weithiau y mis). Yn anffodus, bu rhai problemau yn ardal Caerdydd gyda'r cynllun yn ddiweddar ac mae hyn wedi golygu bod y darparwr, Ovo, wedi atal y cynllun e-feiciau dros dro ym Mhenarth. Fodd bynnag, eu bwriad yw dychwelyd i
Benarth ac ehangu nifer y gorsafoedd ar ddechrau 2022, gyda dociau wedi'u lleoli yn Sili a Dinas Powys. Da iawn Emma am eich cyfraniad i'r drafodaeth ynghylch dulliau cynaliadwy o deithio, am annog newid mewn ymddygiad ac am roi cyfle arall i Gyngor Bro Morgannwg rannu ei ddulliau arloesol o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Adran arall sy'n cyfrannu at ein nodau carbon sero-net yw’r adran dai. Mae'r 11 uned llety dros dro ar gyfer y digartref a adeiladwyd yn Court Road yn rhai carbon sero-net. Mae miliynau o bunnoedd wedi’u buddsoddi hefyd i inswleiddio waliau allanol cartrefi'r Cyngor i'w gwneud yn fwy ynni-effeithlon. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob cartref newydd y Cyngor yn y dyfodol yn un carbon sero-net.
Rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod COP26, a thynnwyd sylw at brosiect Court Road yr wythnos hon. Rwy'n falch o ddweud bod yr ymgyrch yn gyffredinol, a’r enghraifft hon yn benodol, wedi cael croeso. Diolch i'r holl swyddogion sydd wedi bod yn rhan o sicrhau llwyddiant y prosiectau hyn hyd yma.
Ddoe, cynhalion ni wasanaeth coffa ar gyfer Diwrnod y Cadoediad yn y Swyddfeydd Dinesig. Rhag ofn i chi ei fethu, cafodd y gwasanaeth ei ffrydio'n fyw drwy ein tudalen Facebook a gallwch ei wylio yma.
Yn olaf, roeddwn am rannu stori ddiweddar iawn gyda chi am sut y cymerodd y Cyngor ran mewn mater na fyddai fel arfer yn rhan o'i fusnes o ddydd i ddydd. Yn ddiweddar, cysylltodd preswylydd (Moira) sy'n byw yn Durham â ni i roi ei thocynnau rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd i Dale Leach, cyn-filwr o'r Barri a ddioddefodd anafiadau i fygwth bywyd tra'n gwasanaethu yn Affganistan gyda Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn 2009. Cysylltodd Moira â ni ar ôl gweld Dale yn ymddangos ar bennod ddiweddar o Love my Garden a chafodd ei chymell i wneud rhywbeth caredig iddo fel diolch am bopeth y mae wedi'i aberthu. Yn ffodus, drwy ein Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, Abigail Warburton, roeddem yn gallu cysylltu â Dale a chynnig y tocynnau iddo, a dderbyniwyd yn ddiolchgar ganddo. Yn anffodus, nid oedd canlyniad y gêm mor gadarnhaol i Gymru, ond rwy’n falch ein bod wedi gallu helpu drwy ein gwasanaeth cynghori i gyn-filwyr. Da iawn bawb a fu’n rhan o hynny.
Gobeithio y cewch chi benwythnos braf ac y caiff Cymru well canlyniad yn erbyn Fiji Ddydd Sul!
Cymerwch ofal a phob hwyl,
Rob.