Rob Message header summer update

Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

26 Tachwedd 2021

Annwyl gydweithwyr,

Mae angen i fi ddechrau neges yr wythnos hon gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa eithriadol o heriol sy'n wynebu ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd.

Social care recruitment

Mae Bro Morgannwg, fel gweddill y DU, ar hyn o bryd yn wynebu galw nas gwelwyd erioed o'r blaen am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cynnydd o 30% yn nifer y bobl sydd angen gofal gartref, o'i gymharu â chyn y pandemig.

Mae'r cynnydd enfawr hwn yn y galw ynghyd â phrinder cenedlaethol o weithwyr gofal yn arwain at oedi wrth ddarparu gofal ac yn atal cleifion rhag cael eu rhyddhau'n brydlon o ysbytai.

Mae ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud eu gorau glas i helpu pobl sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty ond sydd angen gofal parhaus. Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae pecynnau iechyd a gofal amgen yn cael eu cynnig fel mesur tymor byr. Mae mwy o ofalwyr yn cael eu recriwtio i gefnogi pobl mewn angen. Cyn bo hir, bydd rhaglen Llwybr Carlam i Ofalu i hyfforddi staff newydd ac i’w rhoi mewn swyddi yn gyflymach nag erioed o'r blaen yn cael eu lansio. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid i helpu pobl i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty yn y lle cyntaf fel bod gofal yn cael ei dderbyn yn nes at adref.

Mae maint y gwaith sydd ar y gweill i geisio lleihau effaith yr argyfwng hwn ar ein trigolion yn anhygoel.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd, rwy’n gwybod, yn gweithio rownd y rîl. 

Mae difrifoldeb y sefyllfa bresennol wedi gwneud Gwobrau Diogelu Rhanbarthol yr wythnos diwethaf yn fwy amserol nag erioed. Fel y soniais yn fy neges yr wythnos diwethaf, roedd nifer o dimau yn aros yn eiddgar am y canlyniadau. Mae'n bleser gennyf adrodd bod y Cyngor wedi cipio dwy wobr.

SafeGuarding awards programme cover

Enillwyd y categori Ymrwymiad Eithriadol i Ddiogelu Oedolion gan y Grŵp Aelodau 'Galwad i Weithredu', sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Cyngor, Tîm Ardal y Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Yn ogystal, roedd Sarah Collier o'r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn enillydd teilwng, gan gyrraedd y brig yn yr adran Diogelu Cymunedol Ehangach.

Mae Peter Williams, Uwch Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Gwasanaeth Ieuenctid, hefyd yn haeddu clod. Cafodd ganmoliaeth uchel yng nghategori Ymrwymiad Eithriadol i Ymarfer yn ystod Cyfyngiadau Covid.

Roedd y gwobrau'n gydnabyddiaeth gwbl haeddiannol o holl waith caled llawer o'n cydweithwyr sy'n cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.

Yr wythnos nesaf bydd ffordd wahanol iawn ar waith unwaith eto i gydnabod cyflawniadau ein staff.  Fel sy'n draddodiad bellach bydd ein calendr adfent staff yn dychwelyd ar 1 Rhagfyr. Bydd y calendr ychydig yn wahanol eleni, gydag ambell fideo yn ogystal â lluniau timau. Bydd y calendr hefyd yn tynnu sylw at ambell beth sy'n digwydd y tu hwnt i'r cyngor. Mae rhai drysau eto i'w dynodi felly os ydych chi'n gwybod am dîm neu gydweithiwr sy'n haeddu cydnabyddiaeth Nadoligaidd, cysylltwch â'r tîm Cyfathrebu. Eleni, byddwn hefyd yn cael tudalen cyfarchion Nadolig ar StaffNet+ i roi cyfle i bawb rannu ychydig o hwyl y Nadolig gyda'u cydweithwyr. Cadwch lygad amdani!

SLT White Ribbon Campaign

Hoffwn sôn yr wythnos hon am y gwaith pwysig iawn sy’n cael ei wneud gan gydweithwyr mewn llawer o dimau, ond yn fwyaf nodedig efallai yn y Fro Ddiogelach a Thai, i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben. Roedd ddoe yn Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, diwrnod pan fydd miloedd o bobl yn gweithredu ac yn codi ymwybyddiaeth, i atal trais cyn iddo ddechrau. Mae ein timau'n gweithio i'r perwyl hwn bob dydd ac roeddwn yn falch o allu nodi hyn gyda chydweithwyr o’r Uwch Dîm Arwain.  Os hoffech gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan, mynnwch bip ar y wybodaeth sydd wedi ei rhannu ar ein ffrwd Twitter.

Hoffwn gloi'r neges yr wythnos hon drwy ddiolch o galon a dymunol hwyl fawr i'n Pennaeth Cyllid, Carys Lord, sy’n ein gadael.

Mae Carys wedi gweithio mewn Llywodraeth Leol ers 1985 ac ymunodd â Chyngor Bro Morgannwg pan gafodd ei ffurfio ym 1996. Gweithiodd Carys mewn nifer o rolau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn y pen draw fel Pennaeth Rheoli Busnes ac Arloesi, cyn cael ei phenodi'n Bennaeth Cyllid y Cyngor yn 2015.

Prin fu'r cyfnodau mwy heriol i oruchwylio cyllid awdurdod lleol na'r chwe blynedd diwethaf. Mae gan Gyngor Bro Morgannwg enw da ledled Cymru am reolaeth ariannol ragorol. Dyma un o'r rhesymau pam rydyn ni wedi gallu trawsnewid y ffordd y darparwn lawer o wasanaethau i amddiffyn trigolion rhag effaith llymder. Mae gwaith Carys wedi cyfrannu’n fawr at hyn.  Mae Carys yn was cyhoeddus gwych. Byddwn yn gweld eisiau ei barn gadarn a'i thosturi yn fawr yn y Fro. Er yn golled fawr i ni, bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn sicr yn elwa’n fawr o waith Carys, a dymunaf y gorau iddi ym mhennod nesaf ei gyrfa. Diolch Carys a pob lwc.

Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos wrth eich bodd. 

Diolch yn fawr bawb.

Rob.