Neges o'r Rheolwr Gyfarwyddwr
Tachwedd 05, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gan fod COP26 ar y gweill hoffwn ddefnyddio’r neges hon i dynnu sylw at rai o'n llwyddiannau hyd yma o ran lleihau ein hallyriadau carbon a chyfrannu at y nodau cenedlaethol o gyflawni carbon sero-net erbyn 2050.
Yn gyntaf, mae ein Gwasanaethau Cymdogaeth a’n Gwasanaeth Trafnidiaeth wedi llwyddo i drosi 93% o'n goleuadau i rai LED. Mae hyn nid yn unig wedi lleihau allyriadau Co2 ond hefyd ein costau ynni, oherwydd am yr un faint o olau a'r un faint o amser mae bylbiau LED yn defnyddio llawer llai o bŵer. Maent hefyd yn para'n hirach na bylbiau traddodiadol, sy'n golygu bod angen eu hadnewyddu’n llai aml ac felly cynhyrchir llai o fylbiau. Mae'r holl ffactorau hyn yn lleihau ein hôl troed carbon.
Ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cynllun rhentu beiciau trydan. Mae hyn yn cynnig dewis amgen ymarferol i lawer mwy o drigolion yn lle cymudo mewn car. Gan ddefnyddio cyfraniadau trafnidiaeth gynaliadwy Adran 106, lansiwyd y cynllun peilot ym Mhenarth gyda chwe gorsaf ddocio i ddechrau. Mae mwy o orsafoedd docio bellach yn cael eu cynnig ar gyfer Gorsaf Drenau Cogan ac Ysgol Stanwell a bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys gorsafoedd yn Sili a Dinas Powys. Caiff y rhain eu hariannu'n llawn drwy gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Rydym hefyd yn un o'r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran ailgylchu. O ganlyniad i ymdrechion gwych ein trigolion, gallwn ailgylchu tua 71% o'r gwastraff a gasglwn, gan ragori ar darged statudol Llywodraeth Cymru o 70% nad oes angen i ni ei fwrw tan 2025.
Yn ogystal, rydym yn bwriadu agor siop ailddefnyddio yn ein Canolfan Ailgylchu a Gwastraff y Cartref yn Atlantic Way, Y Barri yn y dyfodol agos. Bydd y cyfleuster hwn yn gwerthu eitemau sydd wedi dod i’r ganolfan ailgylchu y bernir y gellir eu hailddefnyddio. Yn ogystal â helpu i leihau swm y gwastraff sy'n cael ei adael yn y cyfleuster hwn, bydd y siop ailddefnyddio yn sicrhau manteision eraill fel lleihau costau rheoli gwastraff, cynhyrchu incwm a chreu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli, a bydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd a thlodi drwy gynnig nwyddau cost isel.
Mae agor siop ailddefnyddio ym Mro Morgannwg yn cyd-fynd yn gryf â dyheadau economi gylchol a datgarboneiddio drwy gefnogi mentrau cymunedol fel caffis trwsio. Bydd yn rhoi adnoddau a sgiliau ymarferol i aelodau'r gymuned ac yn cynnig lle i ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau a fyddai fel arall wedi mynd i wastraff.
Soniais ar ddechrau’r wythnos hon am yr ymweliad ag Ysgol Gynradd Llancarfan, yr ysgol gynradd sero-net arloesol yng Nghymru. Mae penderfyniad polisi Llywodraeth Cymru, sydd â'n model wrth ei wraidd, wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau yr wythnos hon. Rwy'n falch ein bod wedi cael y gydnabyddiaeth yr ydym yn ei haeddu am ein rôl yn y cam hwn ymlaen ac mae’n wych iddo gael ei nodi’n arfer gorau gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe ar ddechrau’r wythnos.
Yn ogystal â'n prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau wedi sefydlu gweithgor i ystyried sut y gall weithio gyda'n hysgolion i gefnogi datgarboneiddio. Dyma rai enghreifftiau o'r camau sydd wedi'u cynllunio neu eu cymryd hyd yn hyn:
- Caiff mannau gwefru cerbydau trydan eu gosod mewn 7 ysgol.
- Mae 7 ysgol wedi'u nodi i gael goleuadau LED.
- 1,260 o goed ifanc gan Coed Cadw i’w plannu mewn ysgolion.
- Mae 120 o goed ffrwythau gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u plannu mewn ysgolion.
- Mae 1,125m2 o flodau gwyllt gan Gastell Ffŵl-y-mwn a Wild Wales Seeds wedi’u hau mewn ysgolion.
- Mae 99% o wastraff o safleoedd adeiladu Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi'i ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi.
Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion a thimau sy'n rhan o'r prosiectau yr wyf wedi sôn amdanynt yn y neges yr wythnos hon. Yr hyn sy'n gadarnhaol iawn yw’r ffaith ein bod yn arwain y ffordd yn gyson o ran sawl menter, ac mae hyn yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd ac rwy’n ymwybodol bod nifer o brosiectau eraill ar y gweill neu’n cael eu cynllunio a fydd yn cyfrannu at ein nod cyffredin o leihau ein hallyriadau carbon. Rwy'n siŵr y gallwn gynnwys y rheiny mewn negeseuon yn y dyfodol hefyd. Gwerthfawrogir eich ymrwymiad a'ch ymdrechion yn fawr a byddant yn gwneud gwahaniaeth i'r Fro gyfan.
Yr hyn sy'n glir i mi, fodd bynnag, yw’r ffaith bod gennym lawer mwy i'w wneud, ac mae angen i ni gynyddu ein hymdrechion os ydym am wneud gwahaniaeth sylweddol a chynaliadwy o ran lleihau ein heffaith amgylcheddol. Rydym wedi dechrau'n dda ac mae angen i ni’n awr adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes wedi'i gyflawni, a bydd angen ymrwymiad parhaus i wneud hyn. Mae gennyf bob ffydd, y byddwn, fel bob amser, yn derbyn yr her.
Mae'r newyddion yr wythnos hon o COP26 wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol, gyda gwledydd ledled y byd yn ymrwymo i gymryd camau ychwanegol i ddiogelu'r amgylchedd a cheisio atal cynhesu byd-eang rhag mynd y tu hwnt i 1.5 gradd. Er enghraifft, mae dros 100 o wledydd wedi addo gwrthdroi datgoedwigo erbyn 2030, gan gynnwys gwledydd yn Ne America lle mae rhannau o fforest law’r Amazon wedi colli mwy na 30% o’u coed ers 2001. Mae'r rhain yn ganlyniadau addawol o wythnos gyntaf y trafodaethau. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn y gynhadledd ar y wefan.
Mae COP26 yn parhau tan 12 Tachwedd. Yr wythnos nesaf, bydd Caerdydd yn cynnal digwyddiad Cymreig ac rwy'n falch y bydd ein sefydliad yn cyflwyno ei waith yno, gydag Emma Reed yn rhannu ein profiad a'n harbenigedd wrth gyflwyno'r cynllun beiciau trydan. Diolch Emma.
Gobeithio y bydd pob un ohonoch yn cael penwythnos braf, a gobeithio bod y neges hon a'r sylw a roddwyd i’r newid yn yr hinsawdd yn y newyddion wedi eich ysbrydoli i gymryd camau ychwanegol i leihau eich ôl troed carbon lle gallwch.
Yn fy neges nesaf, byddaf yn rhannu gyda chi'r datblygiadau diweddaraf o COP26, yn myfyrio ar y digwyddiad Cymreig a gynhelir yr wythnos nesaf ac yn rhannu rhai awgrymiadau ar yr hyn y gallwn i gyd ei wneud yn ein hymdrechion i gyflawni'r uchelgais gyfunol yr ydym wedi'i gosod i ni ein hunain a'n cymunedau yn Prosiect Sero.
Byddaf hefyd yn nodi rhai o'r uchelgeisiau sydd gennym yn y rhan hon o'n gwaith ar gyfer y dyfodol. Os oes gennych unrhyw syniadau i'w rhannu, fel bob amser, byddwn wrth fy modd yn eu derbyn.
Diolch yn fawr,
Rob.