Mae'n Wythnos Therapi Galwedigaethol 2021 - ac rydym yn galw am degwch iechyd

Eleni, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol yn lansio eu hymgyrch tegwch iechyd newydd #OTsForEquity ar gyfer Wythnos Therapi Galwedigaethol.

Fel proffesiwn, mae therapyddion galwedigaethol ar y rheng flaen o ran tegwch iechyd ac maent mewn sefyllfa unigryw i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. 

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweld anghydraddoldebau iechyd bob dydd, gan gefnogi a helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf. 

Mae'r Tîm Therapi Galwedigaethol yn y Cyngor yn cynnal asesiadau ar gyfer pobl yn eu cartrefi eu hunain. 

Mae ganddynt arbenigedd mewn dylunio ac addasu cartrefi a all alluogi pobl i aros yn annibynnol ac yn ddiogel, yn enwedig y rhai ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. 

Mae addasu cartrefi pobl yn eu cadw yn eu cymunedau, sy’n rhan bwysig o ddiwallu eu hanghenion cymdeithasol, diwylliannol a chymorth. Mae addasiadau yn y cartref yn werthfawr o ran goresgyn rhwystrau amgylcheddol sy'n deillio nid yn unig o anableddau corfforol, ond hefyd o anghenion gwybyddol, niwroddatblygiadol, synhwyraidd a seicolegol.

Gallai rhai enghreifftiau o addasiadau yn y cartref gynnwys gosod lifft i fynd i fyny'r grisiau, darparu offer ar gyfer y bath neu addasu’r ystafell ymolchi, neu wneud yr eiddo'n fwy hygyrch gyda rampiau neu risiau bas.

Mae'r tîm yn gweithio gyda phobl mewn unrhyw ddeiliadaeth eiddo ac yn cysylltu ag asiantaethau eraill y gallai fod angen iddynt wneud gwaith. Mae hyn yn sicrhau bod y rhai sydd ei angen, yn gallu manteisio ar yr offer neu'r addasiadau.

Mae'r Coleg yn galw ar lywodraethau, arweinwyr gofal iechyd a chomisiynwyr i gydnabod gwaith amhrisiadwy ein Therapyddion Galwedigaethol, ac i ddarparu strategaeth hirdymor.