Pansexual Pride FlagDiwrnod Ymwybyddiaeth Pan

Mai 24 yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Pan. Mae'n ddiwrnod i ddathlu a chydnabod y rhai sy'n uniaethu fel panrywiol

Dydd Llun, 24 Mai 2021

Ystyr pan yw 'pawb' ac mae'n dod o’r iaith Groeg yn wreiddiol. Mae pobl banrywiol yn cael eu hatynnu at bobl o bob rhyw.   

Mae hyn yn wahanol i gael eich atynnu at bawb. Nid yw menyw heterorywiol yn cael ei hatynnu at bob dyn ac nid yw menyw lesbiaidd yn cael ei hatynnu at bob menyw, ac yn yr un modd mae pobl banrywiol yn cael eu hatynnu at bobl benodol. Mae panrywioldeb yn wahanol i ddeurywioldeb ond nid yw'r ddau yn gorfod bod ar wahân. 

Mae bod yn ddeurywiol yn golygu cael eich atynnu at fwy nag un rhyw, tra bod panrywioldeb yn golygu cael eich atynnu at bobl waeth beth fo'u rhyw. Nid yw panrywioldeb a deurywioldeb yn gwrthdaro. 

Yn wir, mae rhai pobl ddeurywiol hefyd yn uniaethu fel panrywiol, ac i'r gwrthwyneb.  Mae panrywioldeb wedi'i gynnwys o dan yr ymbarél deurywioldeb, sy'n cynnwys unrhyw un sy'n profi atyniad rhywiol neu ramantus at fwy nag un rhyw. Dim ond un rhan o’r person yw panrywioldeb. 

Gall person panrywiol hefyd fod yn draws, neu'n anabl, neu'n berson o liw, neu'r tri. 

Ar ddiwrnod ymwybyddiaeth panrywioldeb mae'n bwysig cofio ein bod yn dathlu pobl banrywiol o bob cefndir. 

Yn 2018, cyhoeddodd y Sefydliad LHDT restr o 5 peth y dylech eu gwybod ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Panrywioldeb.

Mae gan y Cyngor Rwydwaith Cynghreiriaid LGBT +, GLAM, y mae croeso i unrhyw aelod o staff ymuno ag ef. I ddarganfod mwy neu ddod yn aelod, cysylltwch â GLAM@valeofglamorgan.gov.uk