Staffnet+ >
Message from the Managing Director

21 Mai 2021
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau neges yr wythnos hon i chi i gyd drwy ddiolch i bawb yn ein timau Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gwasanaethau Cymdogaeth ac Adfywio a'r rhai o adrannau eraill sydd wedi helpu i gefnogi ailagor gwasanaethau lletygarwch dan do, llawer o wasanaethau hamdden, a dychweliad mwy o ddigwyddiadau a drefnwyd. Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch hefyd wedi cael cyfle i ddychwelyd at wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau wrth i ni barhau i weithio drwy leddfu'r cyfyngiadau.
Os ydych yn cynllunio diwrnod allan yn ystod y penwythnos hwn, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gwybod mai Mis Mai yw Mis Cerdded Cenedlaethol, a chydag wythnos o'r mis yn weddill mae'n amser perffaith i fod yn egnïol.
Argymhellir taith gerdded ddyddiol gyflym fel ffordd hawdd, am ddim o wella eich iechyd ac fel rhan o'r rhaglen Symud Mwy Bwyta’n Dda mae'r Cyngor yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd y Brifysgol ac eraill i annog pobl i wneud addewid i gerdded ym mis Mai ac i gadw'n heini mewn ffordd ddiogel. Gallwch ddod o hyd i lawer o awgrymiadau ac ysbrydoliaeth cerdded drwy ddilyn Symud Mwy Bwyta’n Dda ar Twitter a phrofi'r rhain ar un o'r teithiau lles a grëwyd yn arbennig, gan gynnwys teithiau cerdded ger yr arfordir, realiti estynedig a theithiau cerdded natur, sydd ar gael ar ein gwefan.
Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch eisoes yn ymwybodol bod carreg filltir bwysig iawn wedi'i phasio yr wythnos hon gyda'r cyhoeddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod pob oedolyn yn y rhanbarth bellach wedi cael cynnig apwyntiad ar gyfer eu brechiad cyntaf a bydd y rhai sydd wedi derbyn wedi cael eu dos cyntaf erbyn diwedd mis Mai. Mae hyn yn gyflawniad aruthrol ac rwy'n falch bod y Cyngor wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r broses o gyflwyno'r brechiad hwn.
Mae'r brechlynnau a gymeradwywyd i'w defnyddio yn y DU wedi bodloni safonau diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd llym a gallant helpu i'ch atal rhag mynd yn ddifrifol wael neu farw o COVID-19. Os ydych wedi'ch colli, neu os na wnaethoch chi gymryd eich brechiad pan gafodd ei gynnig gyntaf, gallwch gwblhau'r ffurflen Gadael Neb Ar Ôl neu ffonio’r llinell archebu ar 02921 841234 i gael apwyntiad arall.
Efallai mai cynnydd cyflym y rhaglen frechu yw'r dangosydd gorau o ba mor gyflym yr ydym yn symud tuag at yr hyn a fydd, gobeithio, yn fywyd ar ôl y pandemig. Fel y gwyddoch i gyd ar hyn o bryd a ninnau ar rybudd lefel 2 mae'r canllawiau yng Nghymru’n dal annog gweithio gartref lle bynnag y bo modd a dyma safbwynt y Cyngor o hyd.
Er ein bod, mi gredaf, dipyn i ffwrdd o newid y safbwynt hwn, rwyf wrthi’n gweithio gydag Uwch Dîm Arwain y Cyngor i ystyried yn ofalus sut y byddai unrhyw ddychwelyd posibl i weithio yn y swyddfa, neu symud i gymysgedd o weithio gartref a swyddfa, yn gweithio'n ymarferol.
Gwn fod llawer ohonoch yn awyddus i wybod beth fydd yn digwydd. Ar hyn o bryd credaf ei bod yn deg dweud bod y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu darparu wedi newid yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Efallai na fydd llawer byth yn dychwelyd i weithio fel y gwnaethant o'r blaen a gallai'r un peth fod yn wir am sut rydym i gyd yn gweithio i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Wrth symud ymlaen bydd angen i ni ystyried llawer o bethau, ac ar flaen ein meddyliau bydd anghenion ein cwsmeriaid. Yn ogystal, ac o'r adborth a roddwyd gennych fel rhan o'r arolygon lles, gwn fod llawer o gydweithwyr am gael cyfuniad o weithio gartref a swyddfa yn y dyfodol ac mae’r buddsoddiad sylweddol sydd wedi bod mewn cysylltedd digidol a dyfeisiau yn sicr yn gwneud hyn yn bosibl. Rwy'n gobeithio gallu cwblhau cynigion cychwynnol ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol dros yr wythnosau nesaf a byddaf yn rhannu holl fanylion y rhain gyda chi cyn gynted â phosibl. Fel bob amser, os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, trafodwch y rhain gyda'ch rheolwr.
Hoffwn orffen wrth ddiolch eto, y tro hwn i dîm sydd wedi dychwelyd i'w weithle cyn y pandemig. Ailagorodd staff Tŷ Rondel ddrysau'r ganolfan i ddefnyddwyr gwasanaeth fis diwethaf a gan mai Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia yw hon roeddwn am gydnabod eu gwaith yn gyhoeddus.
Mae'r tîm yn cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, y bydd llawer ohonynt wedi cael trafferth dros y flwyddyn ddiwethaf gyda straen gofalwyr, allgáu cymdeithasol ac unigrwydd, yn ogystal ag yn anffodus i rai, dirywiad o ran eu dementia, gallu meddyliol a chorfforol.
Gwn nad yw eu rolau’n hawdd. Mae 52% ohonom yn adnabod rhywun sy'n byw gyda dementia ac mae cefnogi'r rhai sy'n byw gydag ef yn faes gwaith enfawr i'n tîm Gwasanaethau Oedolion. Diolch i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn am y cyfraniad enfawr a wnewch.
A diolch fel bob amser i bob un ohonoch am ddarllen y neges hon. Diolch yn fawr iawn.
Rob.