19 Mawrth 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod yn iawn ac wedi cael wythnos dda.  Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru Ddydd Gwener diwethaf, gwelsom lawer o ddisgyblion yn dychwelyd i'n hysgolion yr wythnos hon.  Rwy'n siŵr iddi fod yn wythnos brysur iawn i holl staff ein hysgolion, ac roedd yn wych gweld disgyblion a chydweithwyr yn Ysgol y Ddraig yr wythnos hon ar newyddion ITV yn sôn am ddychwelyd i'r ysgol gyda’r fath frwdfrydedd. Rwy'n gwybod y byddai hyn wedi cael ei deimlo ym mhob un o'n hysgolion ar draws y Fro sy'n edrych ymlaen at groesawu mwy o ddisgyblion yn ôl yn ystod yr wythnosau nesaf.  Fel bob amser, rwy'n ddiolchgar am eich holl waith caled, yn enwedig dros y 12 mis diwethaf gan fy mod yn gwybod ei bod wedi bod yn arbennig o heriol. 

Mae Gareth Davies, Pennaeth dros dro Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru wedi cymryd yr amser yr wythnos hon i ysgrifennu at Tracy Dickinson, Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, i ddiolch iddi hi a'i thîm am eu cefnogaeth drwy gydol y pandemig. Aeth Gareth ymlaen i ddweud

'Hoffwn fynegi fy niolchgarwch mwyaf i Karen Phillips a Kayleigh Lacey am eu cefnogaeth a'u cyngor ddi-ildio ar amrywiaeth o faterion - nid oes dim byd fyth yn ormod o drafferth iddynt ac mae eu hymatebion yn gyflym, yn gywir ac yn gefnogol iawn bob amser. Mae'r ddau ohonyn nhw'n arwyr absoliwt yn fy llygaid!

 'Cadwch yn ddiogel ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar y berthynas wych hon yn y dyfodol.'  

Fel y dywedais dro ar ôl tro drwy'r neges hon, mae negeseuon e-bost fel hyn bob amser yn bleser i'w darllen ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi Gareth, am roi o'ch amser i rannu eich adborth, ond hefyd i Karen a Kayleigh am eich gwaith rhagorol.  Diolch! 

Ddoe, lansiwyd dilyniant i arolwg lles staff y llynedd.  Hoffem ddefnyddio canlyniadau'r arolwg i lywio camau nesaf ein rhaglen Eich Llesiant, i ystyried ein ffyrdd o weithio yn y dyfodol ac i sicrhau ein bod yn parhau i'ch cefnogi wrth i ni barhau i ddygymod â'r heriau sydd o'n blaenau. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, cymerwch ychydig funudau i rannu eich barn gyda ni.  Mae eich barn yn bwysig a byddant yn helpu i lywio cyfeiriad y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo yn y dyfodol. 

Yr wythnos nesaf byddwn yn nodi pen-blwydd cyntaf y pandemig, gan dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi marw yn anffodus a'r rhai y mae digwyddiadau'r 12 mis diwethaf wedi effeithio ar eu bywydau. Yn unol â chynlluniau Llywodraeth Cymru, byddwn yn nodi 2 funud o dawelwch ddydd Mawrth 23 Mawrth am 12pm. I'r rheini ohonoch sy'n gweithio o bell, efallai y gallwch ddefnyddio'r amser hwn i oedi a myfyrio ar sut mae Coronafeirws wedi effeithio ar bob un o'n bywydau.  Byddwn yn nodi'r achlysur hwn mewn nifer o ffyrdd eraill drwy gydol yr wythnos, cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth a fydd yn cael ei rhannu o Ddydd Llun.

Yr wythnos nesaf byddwn hefyd yn ffarwelio â Pam Toms, Rheolwr Gweithredol yn y Gwasanaeth Tai, a fydd yn ymddeol ar ôl gweithio i Gyngor Bro Morgannwg am 31 mlynedd. Mae Pam wedi dal nifer o rolau o fewn y sefydliad ers dechrau fel Cynorthwy-ydd Budd-daliadau am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1989 a symud i'r gwasanaeth Tai ym mis Rhagfyr 2001. Gohiriodd Pam ei hymddeoliad am ein bod yng nghanol y pandemig.  Mae ei Phennaeth Gwasanaeth, Mike Ingram wedi dweud, 

Mae Pam wrth ei bodd gyda'i gwyliau a’i theithio ac mae'n bwriadu mynd ar fordaith hir pan fydd pethau'n gwella. Mae Pam yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda'i theulu ac yn enwedig ei hwyrion a'i hwyresau sy'n byw i ffwrdd ac nad yw wedi eu gweld yn bersonol ers peth amser. Mae ei gŵr yn ymddeol ar yr un pryd ac mae hi'n edrych ymlaen at ei hamser hamdden ac i ailgydio yn ei diddordebau niferus.

'Mae Pam wedi bod yn swyddog eithriadol a gwn y bydd colled ar ei hôl ymhlith ei chydweithwyr, aelodau a phartneriaid fel ei gilydd.

'Gweithiwr proffesiynol gwirioneddol sydd dros yrfa 30 mlynedd ym maes cyllid a thai yn y Fro wedi cyfrannu'n aruthrol at lwyddiant y Cyngor. Rwy'n hynod falch fy mod wedi gallu gweithio gyda Pam ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi'i rhoi i mi a'r uwch dîm Rheoli yn ystod ei gyrfa nodedig.'

Ers dechrau'r pandemig mae Pam a'i thîm wedi delio â 3,500 o ymholiadau digartrefedd ac wedi cefnogi 527 o bobl â llety dros dro ac wedi helpu i amddiffyn llawer o unigolion bregus rhag effeithiau gwaethaf yr argyfwng. Ar ran y Cyngor cyfan - diolch, Pam, am bopeth rydych chi wedi'i wneud dros y blynyddoedd. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda chi ac wedi gwerthfawrogi eich cyngor a'ch mewnbwn ar ystod eang o bynciau.  Yn gydweithiwr gwerthfawr, gobeithio y byddwch yn mwynhau ymddeoliad hir a hapus mawr ei haeddiant.  

Ddiwedd yr wythnos nesaf bydd y Prif Weinidog yn cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau presennol yng Nghymru, a disgwyliwn i rai cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach Ddydd Gwener.  Fel arfer, byddaf yn ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi cyn gynted â phosibl yn dilyn y cyhoeddiad hwn. 

Gobeithio y bydd pob un ohonoch yn cael penwythnos pleserus; dim ond un peth sydd ar ôl gen i i'w ddweud, CYM ON CYMRU! Croesi bysedd am Gamp Lawn dro y penwythnos.

Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel!

Diolch yn fawr,

Rob