Staffnet+ >
Memorial space dedicated to staff affected by COVID
Man coffa wedi'i neilltuo ar gyfer staff sydd wedi colli eu bywydau a'r rhai y mai COVID wedi effeithio ar eu bywydau
Plannwyd perllan fach o goed ceirios, eirin ac afal yn ddiweddar ger Bwthyn Nightingale ym Mharc Gwledig Porthceri.
22 Mawrth 2021
Mae mainc goffa hefyd wedi'i gosod yn y gofod i bobl ymweld â hi a myfyrio ar y pandemig.
Bydd coed hefyd yn cael eu rhoi i gynghorau tref a chymuned yn y Fro pan fydd y tymor plannu yn ailddechrau yn yr hydref, fel y gallant lunio eu cofebion eu hunain.
Ers mis Mawrth 2020, yn anffodus mae dau aelod o staff wedi marw o Covid-19.
Roedd Keith Hayes yn gynorthwyydd gofal a oedd yn gweithio yng Nghanolfan Ddydd Tŷ Rondel. Roedd Keith wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â Chyngor Bro Morgannwg yn 2016.
Yn ei rôl gyda'r Cyngor, cefnogodd Keith ddwsinau o bobl â Dementia i fyw bywydau hapusach a mwy annibynnol. Gwnaeth ei waith wahaniaeth enfawr i'w llesiant ac ansawdd eu bywydau.
Fe'i cofir yn annwyl gan gyd-weithwyr a defnyddwyr Tŷ Rondel am fod yn berson go iawn, a fyddai bob amser yn cymryd yr amser i feithrin pertynas go iawn. Y cyntaf bob amser i groesawu defnyddwyr newydd, chwaraeodd y berthynas y byddai Keith yn ei meithrin ran enfawr yn llwyddiant y gwasanaeth dydd. Bydd gweld colled ar ôl ei jôcs, ei straeon a'i gwisiau enwog.
Bu farw Keith ym mis Ionawr 2021 ar ôl profi'n bositif am Covid ym mis Rhagfyr. Goroeswyd ef gan ei wraig Liz, ei blant Bethan ac Owen a dau ŵyr ifanc. Mae Keith wedi cael ei ddisgrifio gan ei gydweithwyr fel dyn teulu go iawn a oedd bob amser yn edrych ymlaen at ei wyliau a'i amser gyda'i deulu. Mae'n dal i gael ei golli'n fawr gan gydweithwyr.
Roedd Barrie (Baz) Hopkins yn yrrwr poblogaidd a oedd yn gweithio ym maes rheoli gwastraff. Fe'i disgrifiwyd fel cymeriad llawn bywyd a mawr ei barch ymhlith y gweithlu yn depo'r Alpau. Roedd Baz wedi gweithio'n gyrru am y rhan fwyaf o'i yrfa ac wedi treulio dros 20 mlynedd ar y bysiau cyn ymuno â'r Cyngor 9 mlynedd yn ôl.
Roedd Baz wrth ei fodd yn gyrru i'r Cyngor ac roedd yn ymroddedig iawn i'w swydd, ar y rheng flaen, yn casglu gwastraff bagiau du. Roedd bob amser yn yrrwr dibynadwy, yn fedrus iawn ac yn gyrru cerbyd 26t bob dydd yn gwneud gwaith yr oedd yn ei fwynhau'n fawr. Roedd i’w weld yn rheolaidd hefyd ar wasanaeth cynnal a chadw'r gaeaf hefyd, gan weithio bob awr yn sicrhau bod y ffyrdd yn cael eu graeanu ac yn ddiogel i'r cyhoedd eu defnyddio. Roedd yn falch o'i waith ar y gwasanaeth hwn ac yn aml yn sôn am gadw'r Fro'n ddiogel a'r ffyrdd yn glir i'r cyhoedd, yn ystod tywydd garw.
Roedd Baz yn briod â Tessa ac roedd ganddynt dri o blant, dwy ferch Shauna a Becky, a mab o'r enw Dave. Roedd Baz wrth ei fodd gyda'i deulu ac yn gefn cadarn i bawb.
Yn ei amser hamdden, roedd Baz wrth ei fodd â rygbi, yn enwedig gwylio Cymru'n chwarae yn ei ystafell haul lle byddai yn aml yn yfed ei hoff ddiod ond dim ond os byddent yn ennill, gan ei fod yn enwog am gerdded mas nawr ac yn y man, yn enwedig pan oeddent yn colli!
Roedd Baz yn ŵr bonheddig o’r iawn ryw, efallai nad yw e yma mwyach ond chaiff e fyth mo’i anghofio.
Bydd distawrwydd dwy funud yn cael ei arsylwi yfory, dydd Mawrth 23 Mawrth, am 12pm i gofio pob bywyd a gollwyd i'r firws ac i dalu parch i ddioddefwyr a'u teuluoedd.