Staffnet+ >
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr i holl staff

05 Mawrth 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Mae hi wedi bod yn wythnos brysur arall i bob un ohonom ym Mro Morgannwg, ond fe gymerom ni gamau cadarnhaol ymlaen o ran rheoli ein hymateb parhaus i'r pandemig ac wrth wneud cynlluniau at y dyfodol.
Yn gyntaf, efallai eich bod wedi gweld y newyddion y bydd y Cyngor yn cymryd awenau gweithredu Pafiliwn Pier Penarth. Rwy'n edrych ymlaen at ddyfodol y cyfleuster cymunedol rhagorol hwn a'r amrywiaeth o gynlluniau rydym wedi dechrau eu rhoi ar waith i sicrhau dyfodol hir i’r adeilad eiconig. Bydd mwy o fanylion am hyn yn cael eu datgelu maes o law.
Adroddwyd hefyd yr wythnos hon y bydd pob disgybl ysgol yn cael cyfle i ddychwelyd i'r ysgol, ar ryw ffurf, cyn gwyliau'r Pasg. Disgwylir y bydd disgyblion ysgolion cynradd yn dychwelyd o 15 Fawrth tan ddiwedd y tymor. Yn ogystal, disgwylir i ddisgyblion yn y blynyddoedd arholiadau ddychwelyd o'r 15. A bydd pob oedran arall, blynyddoedd 7, 8 a 9, yn cael cyfle i weld eu hathrawon wyneb yn wyneb cyn y Pasg, mewn ffordd debyg i ddiwedd tymor y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Gobeithio y bydd rhieni a disgyblion yn croesawu'r newyddion hyn. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion i gefnogi'r broses hon.
Yn ystod fy sesiwn holi ac ateb y caffi dysgu yr wythnos hon gofynnwyd i mi am y trefniadau ar gyfer staff sy'n gweithio gartref ar hyn o bryd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y sesiwn ac rwy'n gobeithio y bu’n ddefnyddiol. Hoffwn hefyd ail-ategu’r hyn a ddywedais ddydd Mercher, sef mai safbwynt presennol Llywodraeth Cymru yw y dylai unrhyw un sy'n gallu gweithio gartref wneud hynny am y tro.
Rydym yn cydnabod ein bod yn sefydliad amrywiol, ac yn anffodus nid yw’r hyblygrwydd o weithio gartref yn bosibl ym mhob rôl. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol a gwneud ein mannau gweithio mor hyblyg â phosibl, er mwyn diwallu anghenion ein timau. Rydym yn edrych ar gynlluniau ar gyfer sut i wneud ein gweithleoedd yn llawer mwy hyblyg a byddwn yn cynnwys timau yn y dylunio ac yn ystyried sut y gall y rhain weithio orau mewn ffordd sy'n addas i wahanol anghenion ein hadrannau amrywiol. Rydym yn edrych ar hyn yn rheolaidd fel Tîm Arwain Strategol, a phan fydd y cyfyngiadau'n caniatáu i ni wneud hynny, byddwn yn rhannu ein cynlluniau a'n cynigion i staff ddychwelyd i'r gwaith yn ein swyddfeydd.
Yn gysylltiedig â'r gwaith hwn ar ein swyddfeydd, bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad ddydd Llun ar adnewyddu'r Rhaglen Ail-lunio, a fydd yn canolbwyntio ar dri maes newydd o weithgarwch trawsnewidiol, sef:
- Cyfleoedd i weithredu ar faterion cymunedol mawr. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd, trechu tlodi, adeiladu a grymuso cymunedau drwy weithio gyda chymunedau ac ynddynt, a manteisio i'r eithaf ar botensial partneriaethau.
- Cyfleoedd i newid sut rydyn ni'n gweithio. Mae hyn yn cynnwys bod yn arloesol yn y ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau, datblygu gweithio ystwyth/hybrid ymhellach, ystyried sut rydym yn gwneud penderfyniadau a chroesawu modelau newydd o ddarparu gwasanaethau.
- Cyfleoedd i ddefnyddio ein hadnoddau'n wahanol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ein hasedau'n fwy effeithiol ac effeithlon, codi incwm, gwneud buddsoddiadau a dulliau masnachol eraill.
Mae'r rhaglen ddiwygiedig hon yn gosod y naws ar gyfer dyfodol ein sefydliad ac yn adeiladu ar ein profiadau o brosiectau ail-lunio blaenorol a'r pethau rydym wedi'u dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd cyfle i gymryd rhan yn y gwaith hwn a phan fo gennym ragor o wybodaeth am brosiectau sy'n gysylltiedig â'r rhaglen ail-lunio, fe roddaf yr wybodaeth berthnasol i chi.
Rwy'n ymwybodol y bu’r misoedd diweddaraf yn anodd i ni i gyd, ac fel rheolwyr rydym wedi bod yn ymwybodol o les staff, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll mewn nifer o'm negeseuon atoch chi. Hoffwn ail-ddweud bod eich lles yn flaenoriaeth barhaus gennym ni.
Er mwyn i ni allu parhau i wella'r ffyrdd rydym yn cefnogi staff, byddwn yn gofyn yn fuan am eich adborth ar y gweithgareddau lles sydd wedi eu cynnig hyd yma, yn ogystal â rhai materion eraill sy'n gysylltiedig â'ch lles. Mae hwn yn ddilyniant i'r arolwg a gynhaliom y llynedd a bydd eich ymatebion yn helpu'r hyrwyddwyr Lles i allu cynllunio gweithgareddau yn y dyfodol gyda'ch mewnbwn. Bydd hefyd yn fy helpu i a'm cydweithwyr yn yr Uwch Dîm Arwain wrth i ni barhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddaf yn rhannu'r arolwg hwn â chi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd yr adolygiad nesaf ar gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal ddydd Gwener nesaf a rhagwelir y bydd newidiadau pellach i'r cyfyngiadau rydym i gyd yn byw oddi tanynt. Y rheswm am hyn yw bod y lefelau heintio yn parhau i ostwng, er fod hynny o bwynt uchel iawn. Mae'n bwysig ein bod, am y tro, yn parhau i wneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud, sef aros gartref ac aros yn ddiogel.
Gan obeithio y caiff pob un ohonoch benwythnos da.
Diolch yn fawr,
Rob