Staffnet+ >
Looking ahead at the end of a week of reflection

26 March 2021
Annwyl gydweithwyr,
Yr wythnos hon rydym wedi bod yn myfyrio ar ba mor bell rydym wedi dod fel sefydliad dros y 12 mis diwethaf. Roedd dydd Mawrth yn nodi blwyddyn ers cyhoeddi'r cyfnod cloi cenedlaethol cyntaf ac rwy'n credu y bydd llawer ohonoch yn cytuno mai dyma'r 12 mis cyflymaf, ond hefyd y 12 mis hiraf y gallaf eu cofio.
Rydym wedi wynebu heriau fel sefydliad ac fel unigolion, ond wrth fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf mae’n amlwg ein bod yn gyson wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gallai unrhyw un ohonom fod wedi'i ddychmygu cyn bod Coronafeirws yn dod yn derm bob dydd.
Rydym wedi dysgu bod gennym y gallu aruthrol i arloesi a dyna y mae angen i ni ei gofio wrth i ni edrych ymlaen tuag at fywyd a gwaith ôl Covid.
Mae nifer o brosiectau newydd cyffrous eisoes ar y gweill. Mae’n bosibl eich bod yn cofio i mi sôn ychydig wythnosau’n ôl bod y Cyngor wedi cymryd dros y gwaith o reoli Pafiliwn Pier Penarth. Ac yn y cyfnod byr hwnnw rydym wedi dechrau ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Cafwyd bron i 700 o ymatebion gan y cyhoedd sydd wedi rhannu eu dyheadau ar gyfer dyfodol y Pafiliwn. Mae hwn yn ymateb gwych a hefyd yn ein hatgoffa o sut mae pobl yn gwerthfawrogi'r cyfleusterau y mae'r Cyngor yn eu rheoli.
Mae tîm o staff o adrannau amrywiol wedi’i ddwyn ynghyd i weithio i agor y Pafiliwn i'r cyhoedd eto cyn gynted â phosibl. Gwnaed gwelliannau cychwynnol eisoes i sicrhau bod y Pafiliwn yn adlewyrchu'r math o gyrchfan rydym am i Bier a Phromenâd Penarth fod. Ac rwy'n falch o allu dweud y bydd Big Fresh Catering yn agor y drysau i'w gaffi yn y Pafiliwn ar gyfer cludfwyd o heddiw ymlaen.
Os ydych yn mynd am dro ym Mhenarth, byddwn yn eich annog i gefnogi'r fenter hon gan fod yr holl elw'n cael ei ail-fuddsoddi yn ein gwasanaeth prydau ysgol. Diolch i bawb ynghlwm am yr holl waith y maen nhw wedi’i wneud mewn cyfnod mor fyr.
Rydym wedi lansio prosiect arall yr wythnos hon sy'n flaenoriaeth fawr dan raglen Ail-lunio'r Cyngor. Prosiect Sero yw ymateb y Cyngor i'r newid yn yr hinsawdd, sydd â'r nod cyffredinol o gyrraedd allyriadau carbon sero-net yn y Cyngor erbyn 2030. Bydd y prosiect hwn yn gofyn am newidiadau pellach i'r ffordd yr ydym i gyd yn gweithio, ond nid oes amheuaeth na allwn weithredu a chyflawni'r addewid hwn ac annog ein cymunedau i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd yn ein rôl fel arweinydd cymunedol.
Rwyf wedi derbyn dwy neges o ddiolch am waith aelodau unigol o staff yr wythnos hon. Mae’r cyntaf ar gyfer gwaith gwych Carolyn Tapscott a'i chefnogaeth i'n hysgolion.
"Mae Carolyn wedi parhau'n gadarnhaol ac yn gymwynasgar drwyddi draw ac mae'n dyst gwirioneddol i chi a'ch tîm. Diolch i chi gyd eto am bopeth rydych chi'n ei wneud i wneud ein swyddi ni'n haws."
Mae Carolyn yn gweithio fel rhan o'n tîm cyllid ysgolion. Rwy'n gwybod bod y tîm wedi gweithio'n eithriadol o galed i gefnogi ysgolion. Mae diwedd y flwyddyn ariannol yn aml yn gyfnod heriol i'n timau cyllid a chyfrifeg ac yn sicr nid yw eleni'n wahanol. Hoffwn ychwanegu fy niolch fy hun i Carolyn a phawb sy'n gysylltiedig.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Becky Quinn am ei rôl yn cefnogi Canolfan Brechu Torfol Glannau’r Bae ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd wrth i’r Ganolfan ddechrau brechu. Ysgrifennodd rheolwr y rhaglen, Adam, atom yr wythnos diwethaf i ddweud pa mor ddiolchgar ydyw am fewnbwn Becky.
"Yn benodol, hoffwn gydnabod bod Becky wedi bod yn aelod gwych o dîm PMO yng Nglannau’r Bae ac mae'r tîm cyfan wedi gwerthfawrogi ei chyfraniadau a'i dealltwriaeth… sydd wedi galluogi Becky i roi sicrwydd i ni ar faterion trafnidiaeth mewn perthynas â'r rhaglen.
"Mae wedi teimlo (i mi o leiaf!) bod tîm y PMO wedi bod yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth rhwng Q5, y Bwrdd Iechyd, a Chyngor Bro Morgannwg, yn gweithredu fel un tîm er gwaethaf ein gwahanol gefndiroedd a dulliau gweithredu – felly unwaith eto, diolch i Gyngor Bro Morgannwg ac i chi am ein cefnogi drwy roi Becky i ni. Mae wedi bod yn bleser ei chael hi ar y tîm."
Da iawn Becky, mae'n wych darllen adborth mor gadarnhaol am ein staff a'u rôl mewn tîm partneriaeth rhanbarthol. Diolch yn fawr.
Yn olaf, addewais yr wythnos diwethaf y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r cyfyngiadau symud. Rwy'n falch o allu dweud, yn dilyn wythnos o fyfyrio ar y 12 mis diwethaf, fod y Prif Weinidog heddiw wedi cyhoeddi y bydd yn llacio cyfyngiadau pellach sy'n ein galluogi i edrych ymlaen at y misoedd nesaf gyda rhywfaint o sicrwydd.
Mae'r cyfyngiad aros yn lleol bellach wedi'i godi, ac felly’n caniatáu i drigolion Cymru deithio ledled Cymru. A bydd llety hunanarlwyo hefyd yn ailagor mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Pasg. Bydd chwaraeon wedi'u trefnu yn dychwelyd i’r rhai dan 18 oed, rhywbeth rwy'n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o bobl ifanc, a byddwn yn gallu croesawu defnyddwyr yn ôl i'n llyfrgelloedd ac ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb yn ein derbynfeydd o'r wythnos nesaf ymlaen.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn ein timau Dysgu a Sgiliau, Cysylltiadau Cwsmeriaid, Cyllid, Tai ac Eiddo yn gweithio'n galed heddiw, ochr yn ochr â llawer o rai eraill, i sicrhau y bydd trefniadau ar waith iddynt wneud hynny'n ddiogel. Diolch i bawb sydd ynghlwm.
Gyda hynny mewn golwg, gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos da neu hoe i ymlacio os ydych yn cymryd mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith dros yr wythnosau nesaf.
Cadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr,
Rob.