Staffnet+ >
Sut ymatebodd ysgolion i bandemig COVID-19
Sut ymatebodd ysgolion i bandemig COVID-19
Mae ysgolion yn rhan ganolog o'n cymunedau ac yn chwarae rhan hanfodol wrth addysgu cenedlaethau'r dyfodol.
25 Mawrth
O 23 Mawrth 2020, er i'r rhan fwyaf o boblogaeth y DU ddechrau aros yn eu cartrefi dan reoliadau llym y cyfnod cloi, roedd ysgolion yn paratoi i weithredu fel hybiau gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol.
Sefydlwyd 14 o hybiau ar draws Bro Morgannwg o fewn wythnos o'r cyfnod cloi yn cael ei gyhoeddi.
Mae Sue Sibert, Pennaeth Ysgol Gynradd Cogan, wedi myfyrio ar y gwaith a wnaed i sefydlu Hyb Llandochau, a oedd ar gael i chwe ysgol yn ardal Penarth, gan gynnwys un ysgol uwchradd.
"Gweithiodd timau rheoli o Ysgol Gynradd Cogan, Ysgol Gynradd Llandochau ac Ysgol Uwchradd Sant Cyres yn dda iawn gyda'i gilydd i gynnig pecyn gofal i blant 3-15 oed ein hysgolion.
"Roedd yn anhygoel gweld pa mor dda roedd y plant yn cymysgu ac yn gwneud ffrindiau newydd. Roedd yn dda iawn ar gyfer pontio a chafodd llawer o blant gyfle i fondio â'u hathrawon yn y dyfodol. Trefnodd Mark Ellis, Pennaeth Llandochau, grant gan sefydliad Moondance a dalodd am flychau ffrwythau a llysiau rheolaidd, a gyflenwyd gan Windsor Fruits of Penarth, i'n teuluoedd agored i niwed. Cawson ni wyau Pasg gan Morrisons i’w rhoi i'r plant a’r staff.
"Rhaid i mi ddweud, mae’r trallod wedi ysgogi pethau da a ffyrdd gwell o weithio, gwnaethon ni ddatblygu teulu ehangach a gyda'n gilydd gwnaethon ni’r gorau o'r sefyllfa anodd. Dysgodd pob un ohonon ni sgiliau newydd a gwella ein sgiliau TG a thrwy weithio gyda'n cydweithwyr uwchradd, fe wnaethon ni feithrin cysylltiadau proffesiynol a dysgu gwybodaeth amrywiol, a fydd yn sicr o fudd i bob un ohonon ni yn y dyfodol ar ôl i hyn ddod i ben.
"Er bod penderfyniadau'n gyflym ac weithiau'n heriol, rwy'n ystyried fy hun yn bennaeth gwell er gwaethaf COVID-19.
"Mae'r plant wedi bod yn anhygoel, maen nhw wedi dangos llawer o wydnwch ac wedi dod yn fwy annibynnol. Maen nhw wedi cael eu cefnogi gan eu teuluoedd ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd."
Dywedodd Chris Britten, Pennaeth Ysgol y Deri, hefyd fod y ddarpariaeth hybiau wedi cael ei chynnal am 17 wythnos yn olynol, sef y tymor ysgol hiraf mewn hanes!
Ychwanegodd Vince Browne, Pennaeth Gweithredol Ysgolion Uwchradd Whitmore a Phencoedtre,
"Lle'r ydyn ni erbyn hyn, o gymharu â 12 mis yn ôl, wedi sefydlu hybiau, wedi gweithio'n agosach gyda'n gilydd, wedi gwella ein sgiliau a'n cynnig digidol; mae addysg yn sylweddol well."
Roedd ysgolion hefyd yn cyflawni rôl ehangach o ran arweinyddiaeth gymunedol yn ystod y pandemig, ac mae'r gwaith hwn yn parhau.
Roedd llawer o ysgolion yn cefnogi teuluoedd agored i niwed drwy roi parseli bwyd wythnosol iddynt, gydag eitemau'n cael eu rhoi o siopau ac archfarchnadoedd lleol.
Mae llawer o deuluoedd wedi cael trafferth drwy gydol y pandemig, am wahanol resymau, ac er clod iddynt, mae ein hysgolion wedi camu i’r adwy i'w cefnogi sut bynnag y gallant.
Mae’r Bocs Mawr Bwyd a Cadog’s Corner yn ddwy enghraifft gwych o sut mae ysgolion wedi gwneud mwy na’r gofyn i gefnogi eu disgyblion a'u teuluoedd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Paula Ham:
"Rwy'n hynod falch o'n holl ysgolion a'u staff am y ffordd y maen nhw wedi ymateb i sefyllfa eithriadol o anodd. Ers mis Mawrth diwethaf mae nifer o heriau gwahanol wedi codi ac mae’r ysgolion wedi eu hwynebu’n hyderus.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r staff yn ein hadran addysg, y tîm Adnoddau Dynol, y tîm cyfarpar diogelu personol, Big Fresh Catering a’r adran Glanhau a Diogelwch Adeiladau sydd i gyd wedi cefnogi ysgolion mewn gwahanol ffyrdd.
"Fel swyddogion ac arweinwyr ysgolion rydyn ni wedi dod drwy'r 12 mis diwethaf gyda gwell dealltwriaeth o sut i gefnogi ei gilydd, ac wedi gallu pwyso ar ein gilydd drwy gydol y pandemig – yr amseroedd da a'r amseroedd drwg. Rwy'n sicr y bydd rhai ysgolion ym Mro Morgannwg hyd yn oed yn fwy llwyddiannus yn y dyfodol o ganlyniad i'r gwersi rydyn ni i gyd wedi'u dysgu eleni."