Covid-19:  Ymateb mewn Partneriaeth 

Drwy gydol y pandemig mae staff y Cyngor wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gwasanaethau yn y Fro yn dal i redeg.  

24 Mawrth 2021

Mae ein cydweithwyr wedi sicrhau bod gwasanaethau gwerthfawr a ddarperir i'r holl drigolion, fel casglu gwastraff, wedi parhau i redeg, ochr yn ochr â'r rhai sy'n rhoi ansawdd bywyd gwell i bobl fel parciau a llyfrgelloedd, a'r rhai a all fod yn llai gweladwy ond sydd o bwys hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau fel y rhai a ddarperir gan wasanaethau oedolion a phlant.  

Yn ogystal â'r gwaith hwn i gefnogi ein gwasanaethau ein hunain, mae llawer o'n cydweithwyr hefyd wedi bod yn ymwneud yn helaeth â sefydlu gwasanaethau newydd ar lefel ranbarthol a chenedlaethol fel rhan o ymateb ehangach y sector cyhoeddus. Er nad yw'r gwaith hwn efallai wedi dangos logo'r Cyngor, mae'n aml wedi dangos y gorau o'r hyn a wnawn yma yn y Fro. 

Yn nodweddiadol, nid oedd y gwasanaethau y mae'r Cyngor wedi bod yn eu cefnogi yn bodoli ar yr adeg hon y llynedd, gan symud o'r tabl cynllunio i’w rhoi ar waith ymhen ychydig wythnosau ar adegau allweddol yn ystod y pandemig.  

06616 - TTP with LogosEr enghraifft, mae'r Fro yn un o'r partneriaid allweddol yn y Tîm Rheoli Digwyddiadau rhanbarthol sy'n gweithio i fonitro lefelau Covid-19 ledled Caerdydd a'r Fro, cynghori Llywodraeth Cymru ar weithredu a chodi cyfyngiadau a gwneud trefniadau ar gyfer profi a gorfodi rheoliadau Covid. Mae'r Cyngor yn bartner allweddol yn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu sydd ers mis Mehefin 2020 wedi prosesu degau o filoedd o achosion posibl.  

Mae cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor wedi chwarae llawer o rolau o ran gwneud i hyn ddigwydd.  Mae nifer o staff wedi cael eu hadleoli i rolau fel ymgynghorwyr a swyddogion olrhain Profi, Olrhain, Diogelu. Mae llawer mwy wedi bod yn gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni. 

Mae aelodau ein timau Adnoddau Dynol a Chynllunio at Argyfwng wedi bod wrth wraidd y tîm profi rhanbarthol, yn sicrhau y gallai'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal ac ysgolion gael eu profion a'u canlyniadau wedi'u prosesu fel blaenoriaeth. 

Mae rhai yn ein tîm Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi bod yn rhoi cymorth hanfodol i fusnesau a gweithleoedd i'w gwneud yn ddiogel i'r cyhoedd a'u gweithwyr. Tra bod eraill nawr yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru fel rhan o Dimau Gorfodi ar y Cyd.  

Mae ein Tîm Cyfathrebu wedi chwarae rhan fawr, gan gydlynu negeseuon iechyd y cyhoedd pwysig, helpu'r rhai sydd â symptomau i gael gafael ar brofion yn hawdd, ac yn fwy diweddar annog pobl i fanteisio ar y brechlyn. 

Hefyd, gweithiodd ein cydweithwyr mewn Gwasanaethau Eiddo a Gwasanaethau Cymdogaeth gyda'i gilydd ar anterth y pandemig i helpu i adeiladu cyfleuster profi dros dro ac yna tymor hwy yn y Barri yn gyntaf.  Yna aeth yr un timau ati i atgyfodi’r rolau hyn i gefnogi’r gwaith o agor y ganolfan frechu dorfol gyntaf yn y Fro, hefyd yn y Barri.   

Peggy Nicholls vaccinationAc ar hyn o bryd, mae gennym lawer o gydweithwyr yn gweithio i gefnogi’r gwaith o gyflwyno'r brechlyn. Mae ein tîm Gwella Busnes, er enghraifft, ar hyn o bryd yn gweithio i helpu i'w gwneud yn gyflymach ac yn haws i bobl gael brechlyn yn un o'r canolfannau brechu torfol.  Wrth fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf hon, dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr:  

"Dros y deuddeg mis diwethaf, mae Tîm y Fro wedi gwneud i ni ymfalchïo ynddynt. Maen nhw wedi dangos rhai o’n cryfderau gorau - arloesi, parodrwydd i gydweithio, a balchder mawr yn yr hyn a wnawn - a hyrwyddo'r ymateb i Covid-19. Wrth wneud hynny maen nhw wedi helpu i’n tywys i ddechrau’r llwybr i adferiad."