MD message header

04 Mehefin 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio bod y rheiny ohonoch sydd wedi cael amser i ffwrdd dros y gwyliau hanner tymor wedi cael seibiant da ac wedi mwynhau'r tywydd braf. 

Hoffwn ddechrau'r neges hon gan ddiolch yn fawr i'r holl dimau rheng flaen a barhaodd i weithio'n galed dros benwythnos gŵyl y banc – rwy'n gwybod fod y parciau gwledig a chyrchfannau yn arbennig o brysur oherwydd y tywydd braf felly diolch am gynnal ein safonau uchel fel bob amser. Hoffwn ddiolch hefyd i'r criwiau rheoli gwastraff y gwn eu bod wedi cael wythnos brysur yr wythnos hon gyda gwastraff ychwanegol i'w gasglu, rwy'n gobeithio eich bod chi i gyd yn gwybod faint mae eich gwaith yn cael ei werthfawrogi.

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau camau nesaf y broses o lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru. Daw'r canlynol i rym Ddydd Llun 7 Mehefin:

  • Gall swigen aelwyd bellach gynnwys hyd at dri chartref, yn ogystal  â swigod cymorth sy’n bodoli eisoes.
  • Gellir bellach gynnal digwyddiadau awyr agored i hyd at 30 o bobl, cyn hyn dim ond digwyddiadau wedi’u trefnu ac wedi’u rheoleiddio y gellid eu cynnal i 30 o bobl yn yr awyr agored.
  • Digwyddiadau wedi eu rheoleiddio yn yr awyr agored: hyd at 4,000 o bobl ar gyfer digwyddiadau sefyll a 10,000 o bobl ar gyfer digwyddiadau eistedd. Bydd un set o reolau yn berthnasol i bob digwyddiad.

Un o'r ffyrdd y gallwn wneud hyn yw drwy sicrhau ein bod yn cael ein brechlynnau COVID-19. Yr wythnos hon rhoddwyd y 500,000fed pigiad yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae hyn yn gyflawniad enfawr ac yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod mewn ychydig fisoedd byr. I unrhyw un a allai fod wedi colli ei apwyntiad am ei ddos cyntaf, mae canolfan brechu torfol y Bae yng Nghaerdydd yn cynnig apwyntiadau galw heibio tan ddydd Sul yr wythnos hon.

Yr wythnos nesaf byddwn yn nodi Wythnos Gofalwyr. Mae hwn yn achlysur pwysig i’w ddathlu bob blwyddyn, ond mae eleni yn arbennig wedi bod yn heriol dros ben. Ni fydd llawer o ofalwyr wedi cael llawer o seibiant ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd eiliad i werthfawrogi'r hyn a wnânt dros eu hanwyliaid. 

Pride Month Rainbow Flag Civic June 2021Cynhelir Mis Pride, digwyddiad rhyngwladol sy’n dathlu’r gymuned LHDT+, hefyd ym mis Mehefin. Byddwn yn dangos ein cefnogaeth mewn nifer o ffyrdd drwy ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol a bydd ein cydweithwyr LHDT+ a'n rhwydwaith cynghreiriaid, GLAM, hefyd yn nodi'r achlysur pwysig hwn. Byddaf yn tynnu sylw at fwy o'r gwaith hwn wrth i Fis Pride fynd yn ei flaen.     

Yn olaf, y dyddiad cau i Ddinasyddion yr UE a'u teuluoedd wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yw 30 Mehefin. Amcangyfrifir bod tua 3,000 o ddinasyddion yr UE yn byw ym Mro Morgannwg. Mae data diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod 1,870 o geisiadau wedi'u gwneud i'r Cynllun hyd at fis Mawrth 2021 ar gyfer y rheiny sy'n byw ym Mro Morgannwg. Mae hyn yn awgrymu, er bod ychydig dros hanner dinasyddion cymwys yr UE wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, bod nifer eto i wneud cais. Os oes angen i chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod wneud cais, ewch i https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families.  

Diolch i chi i gyd am eich ymroddiad parhaus i'n wasanaethau cyhoeddus. Gobeithio y cewch benwythnos da. Cymerwch ofal.  

Diolch yn fawr,

Rob