Mehefin 22 yw Diwrnod Windrush
Mae'r diwrnod yn cydnabod cyfraniad y Genhedlaeth Windrush a'u disgynyddion at ddatblygu cymdeithas amlddiwylliannol yng ngwledydd Prydain.
Fe'i cyflwynwyd gan lywodraeth y DU yn 2018 ar 70 mlwyddiant glaniad y genhedlaeth gyntaf o ymfudwyr Caribïaidd ar yr SS Empire Windrush yn Nociau Tilbury, Essex ym 1948.
Fe'u gwahoddwyd gan y DU, a oedd angen help i ailadeiladu gwledydd Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Er gwaetha’r gwahoddiad, cawsant eu cyfarch yn aml â gelyniaeth, rhagfarn a hiliaeth, a gwnaethant ymladd yn galed i greu bywyd i’w hunain.
Bob blwyddyn, ar neu o gwmpas yr 22ain o Fehefin, cynhelir gweithgareddau, megis perfformiadau dawns, arddangosfeydd, sgyrsiau a thrafodaethau, ledled y DU. Mae'r diwrnod yn ein helpu i herio hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu, yn ogystal â dathlu cwmnïaeth a chymuned.
Mae'r diwrnod hefyd yn cyd-fynd â'r Sgandal Windrush mwy diweddar. Oherwydd y sgandal, mae llawer o'r genhedlaeth Windrush a'u teuluoedd wedi cael eu caethiwo, eu halltudio a chael gwrthod hawliau cyfreithiol. Mae llawer yn dal i ymladd dros gyfiawnder.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae gwefan Diwrnod Windrush yn cynnig gwybodaeth am y calendr o ddigwyddiadau, gan gynnwys digwyddiadau ar-lein.
Eleni, mae Mis Hanes Pobl Dduon y DU yn tynnu sylw at sut y gosododd cenhedlaeth Windrush y sylfeini ar gyfer Cymdeithas Pobl Dduon Gwledydd Prydain ac yn dathlu eu cyfraniadau, ddoe a heddiw. Gall pobl rannu eu straeon drwy amrywiaeth o gyfryngau. Gallwch ddarllen yr erthygl Why We Should Celebrate Windrush Day.
Darllenwch am hanes y bobl o Genhedlaeth Windrush a ymgartrefodd yng Nghymru: Windrush Cymru: dathlu bywydau a theithiau cenhedlaeth – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes.
Ymunwch â digwyddiad digidol Amgueddfa Cymru - Sgrinio Ffilm Ar-lein Diwrnod Windrush: Just ah likkle piece of Jamaica inna Port Talbot. Mae'r ffilm emosiynol a chalonogol hon yn dathlu straeon personol yr hynafiaid Jamaicaidd a ymgartrefodd ym Mhort Talbot yn y 1950au-60au. Dilynir y ffilm gan sesiwn holi ac ateb fyw gyda’r cyfarwyddwyr a’r actorion.
Tocynnau Diwrnod Windrush Ar-lein
Beth mae'r Cyngor yn gwneud?
Bydd y Cyngor yn codi banner yn Swyddfeydd y Civic ar fore Mehefin 22 i nodi'r diwrnod. Caiff y goleuadau yn nhwnnel Hood Road hefyd eu goleuo.