Dod i nabod GLAM
Y Mis Pride hwn roeddem am eich cyflwyno i rai o'r enwau a'r wynebau y tu ôl i'n rhwydwaith Cydweithwyr a Chynghreiriaid LHDT+, sef GLAM.
24 Mehefin 2021
Sefydlwyd GLAM ym mis Ionawr 2019 gyda'r nod cyffredinol o gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDT+ yn y gweithle.
Mae GLAM hefyd yn gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n wynebu'r gymuned LHDT+ ac i ddarparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i gydweithwyr fod yn nhw eu hunain.
Gall unrhyw un ymuno â GLAM a chyfrannu at ei waith. Yn ddiweddar fe wnaethon ni ddal i fyny gyda thri aelod er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r hyn mae GLAM yn ei olygu iddyn nhw, a pham maen nhw'n teimlo ei fod yn bwysig.
Y Cynghorydd Owen Griffiths, Pencampwr LHDT a Model Rôl
"Allwch chi ddim tanbrisio pa mor arwyddocaol oedd lansio GLAM yn 2019 fel Cynghorydd sy’n hoyw’n agored.
"Yn y lansiad hwnnw, siaradais am bwysigrwydd cael modelau rôl gweladwy, a dyna pam rwyf bob amser wedi bod yn falch o gefnogi GLAM, gan wybod am yr effaith y mae'n ei chael ar gydweithwyr LHDT+ a'r gymuned LHDT+ ehangach.
"Ers 2019, mae GLAM wedi caniatáu i gydweithwyr LHDT+ ddod at ei gilydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol, tra bod ei gefnogaeth i Pride y Barri, y digwyddiad balchder cyntaf erioed yn y Barri, wedi dangos i'r gymuned, ymrwymiad yr Awdurdod hwn i hyrwyddo cydraddoldeb a chynwysoldeb LHDT+.
"Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser bod yn Bencampwr LHDT+ a byddaf yn parhau i gefnogi a hyrwyddo GLAM.
"Byddwn yn annog pob cyd-Aelod, LHDT+ neu gynghreiriaid, i ymuno a chefnogi GLAM hefyd."
Chloe Jenkins, aelod GLAM
"Rwyf wedi bod yn aelod o GLAM ers iddo ddechrau gan fy mod am gwrdd â chydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ eraill a thrafod y materion sy'n effeithio ar grwpiau LHDT+.
"Doeddwn i erioed wedi teimlo fy mod wedi cael fy nghynnwys yn wirioneddol o fewn y gymuned LHDT+ brif ffrwd gan nad oeddwn i, fel llawer o bobl ddeurywiol, yn teimlo bod fy hunaniaeth yn cyfrif. Mae GLAM wedi fy helpu i deimlo bod fy hunaniaeth yn ddilys a'm bod yn rhan o gymuned.
"Rwyf wedi dysgu llawer am hanes LHDT+, yr heriau sydd wedi'u goresgyn, a ffyrdd o fynd i'r afael â'r materion sy'n parhau. Rwy'n gobeithio y bydd y rhwydwaith GLAM yn parhau i gryfhau a dod i fwy o gydweithwyr."
Delyth Miller, cynghreiriad GLAM
"Rwy'n credu bod fy rôl fel cynghreiriad LHDT+ yn helpu eraill i ddeall pwysigrwydd cydraddoldeb, tegwch, derbyn a pharch at ein gilydd. Un o'm gwerthoedd personol yw y dylai pawb allu mynegi pwy ydynt a theimlo'n gyfforddus fel eu hunain llawn, yn enwedig yn y gweithle.
"Mae bod yn aelod o GLAM yn fy ngalluogi i gefnogi fy nghydweithwyr LHDT+ er mwyn iddynt gael llais. Ond, mae hefyd yn fy helpu i ddysgu mwy am y materion a'r heriau y maent yn eu hwynebu a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i helpu i'w goresgyn."
Matt Curtis, Cadeirydd GLAM
"Roeddwn i'n ymwneud â datblygu GLAM oherwydd roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig i gydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ ddod at ei gilydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
"Rwyf bob amser wedi bod yn falch o weithio i Gyngor Bro Morgannwg ac rwyf bob amser wedi teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi fel aelod o'r gymuned LHDT+. Fodd bynnag, mae'r gymuned LHDT+ yn wynebu heriau unigryw ac mae GLAM yn chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth o'r heriau hyn, cynyddu cynrychiolaeth LHDT+ a darparu cefnogaeth rhwng cymheiriaid.
"Os ydych yn gydweithiwr LHDT+, neu'n gefnogol i'r gymuned LHDT+, mae croeso i chi ymuno â ni.
Os hoffech ddysgu mwy am GLAM neu ddod yn aelod, cysylltwch â: