Staffnet+ >
Mis cydweithio yn ysgogi cydweithio yn y Fro
Mis cydweithio yn ysgogi cydweithio yn y Fro
Nod prosiect cydweithio Cymunedau Gwledig Creadigol yw sbarduno datblygiad cymdeithasol ac economaidd yn y Fro drwy newid ffyrdd o weithio a meithrin ysbryd o gydweithio.
15 Mehefin, 2021
Yn dilyn llwyddiant 'Cowork-Local' ym mis Mai fe siaradon ni â Rhys Burton, Uwch Swyddog Adfywio Gwledig, i gael gwybod mwy.
Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich Gŵyl Cydweithio? A yw wedi bod yn llwyddiant?
"Cowork-Local oedd ein ffordd o ddathlu a hyrwyddo'r defnydd o fannau cydweithio yn nhrefi a chymunedau gwledig y Fro am fis, gan ddechrau ym mis Mai. Mae'n rhan o brosiect Ewropeaidd ehangach sy'n gobeithio casglu a lansio mannau amrywiol lle gall pobl weithio'n agosach i'w cartrefi, gan leihau'r angen i breswylwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gymudo.
"Ar ddechrau'r mis fe wnaethon ni lansio llwyfan ar-lein oedd yn caniatáu i bobl gymharu'r mannau oedd ar gael i weithio ohonyn nhw ac archebu desg yn uniongyrchol. Roedd hon yn foment fawr i'r tîm ar ôl bron i ddwy flynedd yn gweithio ar y prosiect hwn.
"Ein nod yw adeiladu arfer newydd i bobl wrth iddyn nhw ystyried eu harddull o weithio ar ôl Covid ac roedd yn teimlo fel yr amser perffaith i roi’r hwb mawr hwn. Cyn y pandemig roedd 60,000 o bobl yn cymudo allan o'r Fro bob dydd. Mae effaith amgylcheddol hyn yn enfawr. Nawr mae'n teimlo fel yr amser i herio pobl i beidio â mynd yn ôl i'r ffordd honno o weithio."
Sut ydych chi a'ch tîm wedi bod yn gweithio i gefnogi busnesau a mentrau cymunedol yn y Fro wledig?
"Yn bennaf oll, rwy'n hoffi meddwl ein bod yn eu helpu i feithrin dealltwriaeth o'r prosiect. Rydym yn gweithio gyda'r rhanddeiliaid ar y naill ochr a'r llall i'r mater. I'r rhai sy'n ystyried sefydlu eu hunain fel lleoliadau cydweithio, rydym yn eu helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen. Rydym wedi siarad â thafarndai, lleoliadau cymunedol, clybiau chwaraeon yn ogystal â safleoedd busnes sy'n bodoli eisoes gyda mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio. Rydym wedi eu helpu gydag agweddau ymarferol fel cymryd archebion, trefnu mynediad cyflym i'r rhyngrwyd a glanhau, a'u rhoi mewn cysylltiad â rhai o'r busnesau ac entrepreneuriaid llai yn y Fro a fyddai'n ffurfio eu grŵp cleientiaid.
"Mewn rhai achosion, ar gyfer yr Ŵyl, fe wnaethon ni helpu i ariannu gwelliannau i'r lleoliadau fel systemau mynediad drysau, neu offer cydymffurfio â Covid gyda grantiau bach. Mewn achosion eraill, gallwn fenthyg dodrefn er mwyn gallu sefydlu’r mannau hyn.
"Mae'r fforwm cydweithio misol a sefydlwyd gennym ar-lein hefyd wedi bod yn llwyddiant mawr. Yr hyn sy'n wych yn y Fro yw nad yw ein lleoliadau presennol yn gweld ei gilydd fel cystadleuwyr. Maent i gyd yn fannau unigryw ac maent yn cydnabod bod pobl eisiau amrywiaeth o leoedd i weithio ohonynt ac felly mae o fudd i bob un ohonynt fod yn llwyddiannus. Mae hyn yn arwain at rannu awgrymiadau ar y fforwm ar sefydlu mannau, cynhyrchu pecynnau croeso ac yn y blaen. Mae hyn yn dweud cyfrolau am y diwylliant rydym yn ei greu.
"Ac i'r rhai sy'n meddwl am gydweithio rydym yn eu helpu i ddeall beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'n fwy na desgiau poeth. Mae'n ymwneud â thyfu cymunedau. Y mannau gorau yw rhai lle mae busnesau annibynnol yn cydweithio i'w galluogi i ymgymryd â phrosiectau mwy. Yn ogystal â dod â llwyddiant iddynt, mae hyn yn helpu i wella sylfaen economaidd y Fro."
Pa effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar eich gwaith?
"Mae wedi cael effaith fawr. Mae'r prosiect hwn wedi bod ar waith ers cyn i mi ymuno yn 2019. Y bwriad oedd canolbwyntio i ddechrau ar un lleoliad cydweithio, yn Llanilltud Fawr, ac ar ôl cynnal rhai sesiynau gyda'r nos yno yn gynnar y llynedd roeddem yn gweithio tuag at y diwrnodau llawn cyntaf ym mis Mai 2020. Yna daeth Covid a newid cwmpas y prosiect yn llwyr.
"Yr ethos o fewn CGC yw ceisio cysylltu pobl o fewn cymunedau. Yr hyn a welsom ar ôl i Covid daro oedd newid llwyr yn y ffordd yr oedd y cymunedau hyn yn gweithredu pan oedd pawb yn gweithio gartref. Nid ydym yn gweld pobl byth yn dychwelyd yn llawn i'w hen drefn ddyddiol. Mae pobl nawr yn gweld 'Gallwn weithio ychydig oriau rhywle’n agos i gartref yn y bore, colli’r traffig, a mynd i'r swyddfa ar ôl hynny'. Dyma'r amser i edrych yn greadigol ar sut y dylai ein dyfodol fod. Felly fe wnaethon ni ymestyn ein cynllun ac yn 2021 ei lansio gyda naw lleoliad cydweithio ar draws y Fro."
A beth sydd nesaf ar gyfer y prosiect?
"Ar ôl covid rydym yn credu y bydd llawer o sefydliadau'n ailfeddwl eu gofod swyddfa. Efallai bydd rhai lleoliadau'n cael eu defnyddio ar gyfer amser tîm yn unig yn hytrach na lle i weithio drwy'r dydd. Efallai y bydd rhai yn dewis cau eu swyddfeydd yn gyfan gwbl. Os bydd hyn yn digwydd, bydd gennym hyd yn oed mwy o gleientiaid posibl ar gyfer lleoliadau yn y Fro.
"I lawer o bobl mae gweithio gartref yn wych, hyd at bwynt. Mae ar y rhan fwyaf ohonom o bryd i'w gilydd angen y cysylltedd cymdeithasol sy'n dod o weithio o gwmpas eraill. Mae hefyd yn bwysig i'n lles meddyliol a chorfforol fynd allan o'r tŷ. I lawer, mae'r opsiwn i weithio rywle i ffwrdd o'u cartref ond nid yn eu prif swyddfa yn opsiwn da. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried.
"Efallai fod cyfle hefyd nawr i drafod perthnasedd cydweithio i ni fel awdurdod arloesol fel y gallwn ystyried y gwersi a'r arferion y gellid eu mabwysiadu'n fewnol ac i ni lunio'r diwylliant gwaith 'normal newydd' a'n diwylliant gwaith sy'n esblygu.
"Mae darparu mwy o wybodaeth i gyflogwyr hefyd yn mynd i fod yn ffocws i ni. Mae eu dealltwriaeth nhw o sut mae cydweithio'n gweithio yr un mor bwysig ag ydyw i weithwyr, yn fwy felly efallai. Mae arnom angen cyflogwyr mawr i roi caniatâd i'w staff weithio fel hyn, ac i wneud hynny mae angen i ni eu helpu i weld y manteision a'r potensial ehangach ar gyfer cydweithredu sy'n dod gydag ef.
"Ac yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda mwy o fentrau cymdeithasol a busnesau lleol fel ein rhanddeiliaid. Cyn i mi fod yn y rôl hon roeddwn i'n gwybod daearyddiaeth y Fro ond nid y cymunedau sy'n ei greu. Mae'r prosiect wedi fy ngalluogi i ddod i adnabod y cymunedau a'r bobl allweddol mewn nifer o sefydliadau a phwy yw ein partneriaid cymunedol. Rwy’n frwd dros helpu pobl i dreialu pethau newydd ac arloesi. Mae gallu gwneud hyn ar lefel gymunedol yn rhoi boddhad mawr i mi."
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gydweithio yn y Fro a rhai o'r lleoedd sydd ar gael ar wefan Cowork Local - https://www.coworklocal.co.uk/