Staffnet+ >
Y Cynghorydd Kathryn McCaffer yn siarad ag CLlLC am fod yn Gynghorydd
Y Cynghorydd Kathryn McCaffer yn siarad ag CLlLC am fod yn Gynghorydd
Cyfwelwyd â'r Cynghorydd McCaffer yn ddiweddar gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr hyn a'i hysgogodd i sefyll mewn etholiad lleol
07 Mehefin 2021
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac mae hefyd yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.
Mae'r ymgyrch 'Byddwch yn Gynghorydd, Byddwch y Newid', a gynhelir gan CLlLC, yn annog mwy o bobl o wahanol gefndiroedd i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Mae eu gwefan yn nodi:
"Mae angen ar Gymru fwy o fenywod, pobl o gymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, pobl LHDTC+, pobl anabl a phobl ifanc i sefyll mewn etholiadau."
Etholwyd y Cynghorydd McCaffer yn 2017 i gynrychioli ward Plymouth ym Mhenarth. Ac yn 2019 daeth yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant
Yn ei sgwrs ag CLlLC mae'r Cynghorydd McCaffer yn esbonio pam y penderfynodd ymgeisio i gael ei hethol yn 2017:
"Roeddwn i eisiau sefyll fel cynghorydd am sawl rheswm. Roeddwn i'n bryderus iawn am y byd yn gyffredinol ond roeddwn i'n gwybod y byddai terfyn o ran faint y gallwn innau ei wneud i wneud gwahaniaeth. Roeddwn i'n gwybod y byddai cyfle i’m llais gael ei glywed yn lleol. Yn ogystal, roeddwn i'n teimlo bod menywod yn cael eu tangynrychioli'n aruthrol, ac roeddwn am i'n barn a'n pryderon gael eu cynrychioli."
Wrth siarad am y sgwrs, mae'r Cynghorydd McCaffer yn esbonio sut roedd yn teimlo pan ofynnwyd iddi fod yn rhan o’r ymgyrch hon:
"Roeddwn yn falch iawn y gofynnwyd i mi fod yn rhan o'r lansiad "Byddwch yn Gynghorydd" gan fy mod yn credu y dylai cynifer o bobl â phosibl ystyried bod yn rhan o lywodraethu lleol. Hoffwn i gynghorau fod yn fwy cynrychioliadol o'n poblogaeth amrywiol.
"Rydym i gyd yn defnyddio gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu a dylem i gyd gael y cyfle i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau am y gwasanaethau hynny. Rwy'n credu y gall y cysyniad neu'r broses fod yn fygythiol i rai pobl, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi helpu i chwalu'r ystrydeb sydd gan bobl yn eu meddyliau o ran pa fath o bobl sy’n gynghorwyr.
"Ie, gall fod yn brofiad dysgu mawr, mae llawer o ddarllen i’w wneud a gwybodaeth i'w hennill ac ie, gall gymryd dros eich bywyd... ond mae manteision helpu a bod yn rhan o'ch cymuned yn drech na'r holl bwyntiau hynny. Rwy'n mwynhau bod yn gynghorydd yn fawr iawn, does dim swydd debyg iddo."
Gallwch ddarllen y proffil llawn ar y wefan Byddwch yn Gynghorydd.