
09 Gorffennaf, 2021
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio bod pob un ohonoch yn cadw’n iawn. Er bod ein sylw yn parhau o ran rheoli'r pandemig parhaus a'r effaith ar ein cymunedau a'n trigolion, cytunwyd ar un neu ddau o eitemau gan y Cabinet yr wythnos hon, sy'n bwysig i gydweithwyr fod yn ymwybodol ohonynt.
Yn gyntaf, ystyriwyd ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei Gynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol drafft ar gyfer Cymru Wrth-hiliol. Yn y Cynllun, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei hamcanion i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol a gwneud i Lywodraeth Cymru a phob corff cyhoeddus ddod yn sefydliadau gwrth-hiliol erbyn 2030.
Mae adroddiad y Cabinet yn datgan bod y 'Sector llywodraeth leol wedi ymrwymo i wrth-hiliaeth a’i fod wedi ymateb i'r materion sy'n codi o COVID-19 a mudiad Black Lives Matter. Ynghyd â'r holl awdurdodau lleol eraill, llofnododd y Cyngor addewid #DimHiliaethCymru yn 2020. Mae gwaith hefyd wedi dechrau i adolygu enwau strydoedd, cerfluniau a henebion ym Mro Morgannwg. Mae'r Cyngor yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer staff. Fodd bynnag, bydd Cynllun Llywodraeth Cymru yn gofyn am ymdrech hyd yn oed yn fwy unedig i ddod yn wrth-hiliol o fewn amserlen gymharol fyr.'
Mae'r Cyngor hwn yn falch ac yn daer wrth-hiliol. Yn yr Uwch Dîm Arwain yr wythnos hon, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf gan Martine Coles, Cadeirydd ar y Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig. Fel UDA rydym wedi ymrwymo i ddarparu ein cefnogaeth i'r Rhwydwaith ac os yw hwn yn faes gwaith yr hoffech ei gefnogi, yna byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn darllen yr adroddiad i'r Cabinet am ragor o wybodaeth ac ystyried ymuno â'n Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig. Cysylltwch â ethicminoritynetwork@valeofglamorgan.gov.uk i gael gwybod mwy.
Cytunodd y Cabinet hefyd ar ein Cynllun Her Newid yn yr Hinsawdd, sy'n rhan o'r Prosiect Sero ehangach. Bydd hyn nawr yn cael ei gyfeirio at y Cyngor llawn i'w ystyried yn ddiweddarach y mis hwn. Hoffwn ddiolch i'r holl staff sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn at brosiect sero, naill ai yn ystod y cyfnod ymgynghori neu yn dilyn hynny wrth gyflwyno gweithdai gyda disgyblion ysgol a phobl ifanc. Bydd llawer iawn i'w wneud os ydym am ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 ac annog eraill i leihau eu hallyriadau carbon. Fodd bynnag, fe'm calonogir gan hyd a lled uchelgais y cynllun ac mae'n bleser gennyf weld cynnydd mewn llawer o feysydd. Fodd bynnag, fel gyda'r Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol, mae mwy i'w wneud.
Mae'r ddau gynllun yn hynod bwysig wrth lunio dyfodol y sefydliad hwn a'n cyfraniad ehangach i gymdeithas.
Rhywbeth arall sy'n ein siapio fel sefydliad yw ein staff a'r adeg honno o'r flwyddyn eto pan fydd y broses #maeamdanafi a #maeamdanomni wedi dechrau. Eleni, mae wedi cyd-fynd yn bwrpasol â'r broses ar gyfer cwblhau cynlluniau tîmau, fel y gall rheolwyr gynllunio'r 12 mis nesaf gyda'u timau a gosod nodau i anelu atynt. Mae'r broses #maeamdanafi a #maeamdanomni yn un bwysig oherwydd gwyddom, pan gaiff staff eu cydnabod a'u gwerthfawrogi am eu cyfraniad a'u bod yn glir ynglŷn â'r disgwyliadau arnynt, eu bod yn ymgysylltu mwy ac yn eu tro yn fwy cynhyrchiol.
Mae sgyrsiau perfformiad rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, ynghyd ag #maeamdanafi, yn darparu mecanwaith adolygu a chefnogi parhaus a ddylai sbarduno llwyddiant pob aelod o'r tîm. Mae hyn wedi dod yn bwysicach fyth dros y 12 - 18 mis diwethaf, gyda gweithio gartref, ynysu, llosgi mas ac iechyd meddwl i gyd yn faterion sydd wedi effeithio ar staff. Mae darparu eglurder, cefnogaeth a chyfeiriad i aelodau ein tîm yn hanfodol ac #maeamdanafi yn ffordd o wneud hynny.
Yr wythnos hon, mynychodd yr Arweinydd a minnau gyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, i siarad am y cam nesaf tuag at ysgafnhau’r cyfyngiadau yng Nghymru. Er nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto, mae'n ddigon posibl y bydd ysgafnhau ar y cyfyngiadau'n mynd rhagddynt, er gwaethaf y niferoedd cynyddol o achosion positif o Coronafeirws, oherwydd mae'r data'n dangos, er bod niferoedd yma’n cynyddu, bod nifer y bobl sydd angen triniaeth yn yr ysbyty yn parhau'n isel. Mae hyn yn sgil nifer y bobl sydd wedi derbyn y ddau ddos o'r brechlyn yng Nghymru.
Er na fydd y brechlyn yn eich atal rhag cael coronafeirws, mae'n lleihau'r tebygolrwydd y byddwch yn mynd yn ddifrifol wael. I'r rheini ohonom sydd ag aelodau hŷn a mwy agored i niwed o'r teulu, dylid ystyried hyn yn newyddion cadarnhaol. Byddwn yn eich annog i gael eich brechu os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Mae'r ganolfan frechu dorfol yn y Barri bellach yn cynnig apwyntiadau galw heibio i'r rhai nad ydynt eto wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn.
Yn olaf, hoffwn ddweud da iawn wrth y tîm Cofrestru Etholiadol. Adroddwyd yr wythnos hon bod dros 3,000 o bobl ifanc rhwng 14 a 17 oed wedi ymuno â'r gofrestr etholiadol yn y Fro. Mae bron i 2,000 ohonynt yn 16 a 17 oed, sy’n meddwl eu fod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd, a gynhaliwyd ym mis Mai, a’r etholiadau Llywodraeth Leol, a gynhelir ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Cymerodd y tîm ran mewn ymgyrch genedlaethol i annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio ac yn ddiweddar maent wedi rhoi iPads i bump o bobl ifanc, a gynigiwyd fel cymhelliad i gofrestru. Da iawn i chi gyd! Mae mor bwysig i bobl ifanc gael y cyfle i bleidleisio a dylanwadu ar benderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt yn y blynyddoedd i ddod.
Gobeithio y caiff pawb benwythnos dymunol. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel!
Diolch yn fawr,
Rob.