Staffnet+ >
Neges gan Gyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau

23 Gorffennaf, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Fel y soniodd Rob yn ei neges yr wythnos diwethaf, mae wedi gofyn i fi ysgrifennu atoch i roi diweddariad yr wythnos i chi heddiw gan ei fod yn cymryd seibiant – mae e’n sicr wedi bod yn ffodus gyda’r tywydd! Gobeithio eich bod wedi bod yn ymdopi â'r tywydd poeth yr wythnos hon ac yn mwynhau'r heulwen.
Yn gyntaf, hoffwn sôn am raglen Haf o Hwyl sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, ond sy’n cael ei threfnu a’i hwyluso gan ein Tîm Byw'n Iach. Creodd Llywodraeth Cymru’r rhaglen Haf o Hwyl mewn ymateb i effaith pandemig Covid ar blant a phobl ifanc. Nod y rhaglen yw cynnwys plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol hygyrch am ddim i helpu i wella eu lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol, a'u cefnogi wrth adfer o’r effaith y cafodd cyfyngiadau Covid ar eu bywyd bob dydd. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno bod hyn yn waith hanfodol ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar blant a phobl ifanc.
Dyma enghraifft arall o gydweithwyr ar draws y Cyngor yn gweithio fel Tîm y Fro. Yn ogystal â'r Tîm Byw'n Iach, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r bobl eraill sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o drefnu’r rhaglen hon ar fyr rybudd, gan gynnwys, Dave Knevett, Debbie Maule, Joanne Jones, Karen Davies, Kathryn Clarke, Mark Davies, Phil Southard, Rhys Jones a Tara Reddy. Diolch o galon hefyd i'r Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, am ei chefnogaeth i'r rhaglen.
Yn ogystal â'r rhaglen Haf o Hwyl, mae mwy ar gael i'n plant a'n pobl ifanc yr haf hwn. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi llunio rhaglen gweithgareddau haf, sy'n cael ei diweddaru drwy gydol yr haf wrth i fwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau gael eu cadarnhau. Cymerwch olwg ar ein gwefan am fwy o wybodaeth a rhywfaint o ysbrydoliaeth! Diolch i Becky Wickett a'r tîm GGiD cyfan am gydlynu'r gwaith hwn.
Ddydd Mawrth cynhaliodd y Gwasanaeth Dysgu Oedolion ei seremoni Gwobrau Ysbrydoli flynyddol. Eleni cynhaliwyd y digwyddiad yn yr awyr agored ar dir Canolfan Dysgu Oedolion Palmerston, lle daeth nifer gyfyngedig o bobl ynghyd i ddathlu cyflawniadau’r dysgwyr a’r tiwtoriaid yn y flwyddyn academaidd heriol iawn ddiwethaf. Cafodd sawl dysgwr eu cydnabod am eu cyflawniadau ar ôl cael eu henwebu gan eu tiwtoriaid am fynd yr ail filltir wrth wneud cynnydd gyda’u hastudiaethau. Ac enwebwyd sawl tiwtor yn ei dro gan eu dysgwyr diolchgar i gydnabod y gefnogaeth a'r ymrwymiad a roesant i'w dosbarthiadau yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr teilwng ac yn enwedig diolch i'r tiwtoriaid ymroddedig am eu cyfraniad parhaus i addysg oedolion.
A sôn am Dîm y Fro, mae’n bleser gennyf rannu'r newyddion bod ysgolion wedi elwa o'u cyfran gyntaf o'r elw a wnaed gan Big Fresh Catering yn eu blwyddyn gyntaf o fasnachu. Dyrannwyd cyfran o £250,000 i bob ysgol sy'n gweithio gyda Big Fresh. Mae cyllid grant ychwanegol o £60,000 ar gael hefyd i ysgolion wneud cais am gyfran ohono ar gyfer prosiectau eraill. Wrth rannu'r newyddion gydag ysgolion dywedodd fy nghydweithiwr Trevor Baker:
"Roedd yn 15 mis cymysg iawn i'r cwmni newydd, ond gyda chefnogaeth lwyr holl staff Big Fresh a'n hysgolion fe lwyddon ni. Roedden ni wedi gwneud addewid yn ein Cynllun Busnes y byddai ysgolion yn elwa ar elw’r cwmni ac rwy'n hapus i ddweud ein bod wedi gallu cadw at yr addewid hwnnw."
Hoffwn longyfarch a diolch o waelod calon i Carole Tyley, Symon Dovey a holl staff Big Fresh am wireddu'r addewid hwn drwy eich gwaith caled a'ch penderfyniad. Dymunaf bob llwyddiant i Big Fresh yn y dyfodol ac edrychaf ymlaen at weld beth sydd nesaf ar y gorwel i'n cwmni arlwyo yn ogystal ag ymweld â'u caffi ym Mhafiliwn Pier Penarth am goffi blasus a darn o gacen!
Soniodd Rob yn ei neges yr wythnos diwethaf fod Carole Tyley hefyd wedi chwarae rhan annatod yn llwyddiant y Big Fresh Café ym Mhafiliwn Pier Penarth. Roedd Carole a'i thîm wedi bod yn gweithio'n galed hefyd i sefydlu bar yn y Pafiliwn mewn pryd ar gyfer y briodas gyntaf i ni ei chynnal ar y Pier y penwythnos diwethaf. Gan weithio'n agos gyda Jo Lewis, Phil Southard a Rachel Protheroe gwireddodd ‘y tîm perffaith’ freuddwydion un pâr hapus ar eu diwrnod mawr ar y Pier. Gallwch ddarllen mwy am sut cydweithiodd y pedwar i gyflawni hyn. Roedd yn edrych yn wirioneddol hyfryd.
Ddydd Llun, cafodd taliadau parcio ceir eu cyflwyno ym Mharciau Gwledig Cosmeston a Phorthceri, yn ogystal â pharthau trwyddedau preswyl mewn ardaloedd o amgylch Cosmeston ac Ynys y Barri. Hoffai Miles Punter, Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Amgylchedd a Thai, dweud:
"ddiolch yn fawr i staff y Priffyrdd am eu hymdrechion i gyflawni'r prosiect hwn mewn pryd ar gyfer gwyliau haf yr ysgol. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i Jo Lewis a'i thîm am brosesu a chyhoeddi dros 1,000 o drwyddedau parcio preswyl mewn 10 diwrnod ac i'n swyddog gorfodi newydd a gyflwynodd 90 o lythyrau rhybuddio am barcio mewn un prynhawn i gerbydau oedd wedi'u parcio mewn dim ond dau o'r parthau parcio preswyl heb arddangos trwydded ddilys."
Mae’n wych gweld cydweithwyr yn datblygu eu sgiliau.
Hoffwn longyfarch cydweithwyr o'r Gwasanaethau Tai sydd wedi llwyddo yn eu hastudiaethau tai yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Hedd Wyn John wedi graddio gyda Rhagoriaeth yn ei Ddiploma Astudiaethau Tai ac mae hefyd bellach yn Aelod o'r Sefydliad Tai Siartredig. Mae Dawn Bailey wedi ennill Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Tai gyda Theilyngdod. Ac mae Maria Low wedi llwyddo i basio blwyddyn gyntaf y Dystysgrif Genedlaethol Uwch gyda phroffil marcio ardderchog. Llongyfarchiadau i chi i gyd, gobeithio y cewch chi gyfle i ddathlu dros y penwythnos.
Dymuniadau gorau hefyd i Dîm Prydain wrth i’r Gemau Olympaidd 2021 yn Tokyo gychwyn heddiw. Rwy’n siŵr y cewn nhw lwyddiant er gwaethaf yr amgylchiadau eithriadol o heriol. Gobeithio y caiff pawb benwythnos dymunol.
Diolch i chi gyd, ac i Rob am adael i mi gymryd dros ei neges wythnosol yr wythnos hon!
Paula