Awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd i hybu'r nifer o ofalwyr maeth yng nghymru

Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dod ynghyd heddiw i ddod yn 'Maethu Cymru', wrth i dimau ledled y wlad gyfuno eu hymdrechion ac arbenigedd i gynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn sylweddol. 

15 Gorffennaf, 2021

Er bod dros draean (39%) o oedolion Cymru yn honni eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae yna dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn i gadw i fyny gyda'r nifer o blant sydd angen gofal a chefnogaeth, ac i ddod o hyd i ofalwyr newydd i ddisodli’r rhai sy'n ymddeol neu sy'n gallu darparu cartref parhaol i blant. 

Mae'r rhwydwaith cenedlaethol newydd, 'Maethu Cymru', yn dwyn ynghyd y 22 o dimau maethu nid-er-elw mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gyda degawdau o brofiad, maent yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd i gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc. 

Yn lansio Maethu Cymru, dywedodd Julie Morgan MS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae'n ffantastig i fod yn lansio Maethu Cymru. Rwy'n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall faethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal a chaniatáu timau maethu a recriwtio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol."  

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau'r nifer o blant mewn gofal, gan roi gwell canlyniadau i blant sydd wedi profi gofal ac, yn bwysig, cael gwared ar yr elfen elw mewn perthynas â phlant mewn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o'r broses o gyflawni'r addewid hwn a bydd yn creu mwy o gyfle i blant aros yn eu cymuned ac yn diwallu anghenion esblygiadol plant maeth a'r bobl sy'n eu maethu." 

Ledled Cymru, mae pob plentyn y mae angen gofalwr maeth arno yng ngofal ei awdurdod lleol, felly bydd ffurfio perthnasau yn barhaus o fewn eu cymunedau lleol yn helpu Maethu Cymru i alluogi plant i aros yn eu hardal leol pan dyna’r peth iawn ar eu cyfer. 

Mae timau awdurdodau lleol eisoes yn rhannu gwybodaeth drwy gyswllt rheolaidd, ond mae ychydig dros chwarter (26%) o oedolion yng Nghymru yn camgymryd nad yw gwasanaethau maethu a ddarperir gan gynghorau yn debygol o fod wedi'u cysylltu’n dda â'i gilydd ledled y wlad.  Mae'r penderfyniad i uno'r 22 o wasanaethau maethu mewn awdurdodau lleol o dan yr enw Maethu Cymru felly yn ceisio sicrhau a gwneud chwarae teg i'r gwaith Cymru gyfan sy'n cael ei gynnal.

Dywedodd Rachel Evans, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ym Mro Morgannwg, “Bydd cynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth sy'n cael eu recriwtio'n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn sylweddol yn ein galluogi i gael mwy o ddewis wrth baru plentyn, ac mae dod o hyd i'r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn yn allweddol i'n nod terfynol o adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant yn ein gofal. 


"Yn y mwyafrif o achosion, mae dod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy'n eu cadw yn eu hardal leol o fudd mawr. Mae'n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a'u synnwyr o hunaniaeth. Mae'n adeiladu hyder ac yn lleihau straen. Mae gweithio gyda Maethu Cymru yn golygu cynnig y cartref lleol iawn i blentyn sydd angen y cyfle hwnnw a chael y cymorth a hyfforddiant arbenigol lleol sydd eu hangen i roi'r sgiliau i ofalwyr maeth ar gyfer y daith o'u blaenau." 

Am fwy o wybodaeth am faethu mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru