Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gwella dysgu yn yr awyr agored i ysgolion

Yn ddiweddar, lluniodd tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif adroddiad ar ddysgu yn yr awyr agored ar gyfer Ysgol Gynradd y Wig a Marcroes, yn archwilio syniadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol ar dir yr ysgol.

Fel rhan o'r adroddiad, nododd ein tîm y camau gwych a oedd eisoes wedi'u cymryd yn yr ysgol i ddatblygu eu mannau gwyrdd a chefnogi dysgu disgyblion.

Hyd yn hyn, mae Ysgolion y Wig a Marcroes wedi sefydlu llawer o fannau dysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys prosiect gardd cynefinoedd gyda disgyblion Blwyddyn 3, prosiect chwarae yn yr awyr agored i blant meithrin ac Ardal Ysgol Goedwig.

At ei gilydd, mae'r prosiectau hyn wedi gosod gwelyau uchel sy'n cynnwys cymysgedd o rywogaethau i ddenu pryfed peillio, gwesty pryfed, tŷ draenogod a phwll bach.

Mae llu o rywogaethau bywyd gwyllt a phlanhigion yn yr holl gynefinoedd, gan gynnwys ceirios gwyllt, coed castan, coed ysgaw a phlanhigion llysieuol sy’n denu peillwyr. Plannwyd hadau blodau gwyllt a fydd yn datblygu dros y flwyddyn a ddaw.

Yn yr adroddiad, tynnodd ein tîm sylw hefyd at beth arall y gellid ei wneud i gefnogi bioamrywiaeth yn yr ardaloedd hyn, gan gynnwys:

Cyflwyno planhigion dŵr, gan gynnwys ocsigenwyr.

Creu mwy o flychau a gwestai adar.

Camera i'w osod yn y tŷ draenogod i fonitro sut caiff ei ddefnyddio.

Mwy o blannu, gan gynnwys coed.

Lleihau'r drefn torri gwair a gadael rhai rhannau heb eu torri er mwyn creu glaswellt a hydoedd amrywiol i annog amrywiaeth o bryfed.

Mae gwaith yr ysgol a'n tîm yn cyd-fynd â menter ehangach newid yn yr hinsawdd y Cyngor, sef Prosiect Diwastraff. Fel rhan o'r prosiect, mae’r Cyngor yn bwriadu cynyddu a gwella mannau gwyrdd ar draws y Fro. 

Yn ddiweddar, mae tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi cynhyrchu a dosbarthu adnoddau ar gyfer ysgolion i'w helpu i wella a defnyddio eu mannau awyr agored ar gyfer natur, dysgu a chwarae. Mae hyn yn cynnwys archwiliad ar gyfer ysgolion i dynnu sylw at ba gyfleusterau sydd ganddynt eisoes a pha gymorth y mae arnynt ei angen i greu a defnyddio mwy o ardaloedd natur.

Mae'r tîm hefyd yn gweithio gydag ysgolion Band B i arolygu'r ardaloedd cynefin sydd newydd eu creu fel rhan o fonitro bioamrywiaeth parhaus ac annog ymgysylltu â natur. 

Mae ysgolion cynradd eraill hefyd wedi gwneud gwaith yn unol â Phrosiect Diwastraff, gan gynnwys Ysgol Gynradd Ynys y Barri, a gymerodd ran mewn Wythnos Gyfoethogi yn ddiweddar.

Rydym yn awyddus i hyrwyddo a rhannu gwaith ein hysgolion ac atgoffa ysgolion eraill bod darpariaeth ar gael i'r rhai sydd am wella eu mannau gwyrdd a datblygu cyfleusterau dysgu yn yr awyr agored.

Cysylltwch:

Cyngor ar wella a defnyddio tir yr ysgol - chloejenkins@valeofglamorgan.gov.uk

Cyngor ar gyfleoedd grant Partneriaethau Natur Lleol sydd ar y gweill – eshaw@valeofglamorgan.gov.uk