Cynllun plannu coed yn cychwyn ym Mhenarth

Mae ein Tîm Parciau wedi bod yn brysur yr wythnos hon yn dechrau rhaglen waith i blannu dros 100 o goed ar draws naw man agored gwyrdd ym Mhenarth.

29 Ionawr 2021

Mewn cam i gynyddu bioamrywiaeth ar draws y Sir a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae adran parciau'r Cyngor wedi ymrwymo i'r cynllun i blannu coed ar draws y parciau canlynol:Phase 1 trees at CRD 2021

  • Archer Terrace;
  • Parc Cliff Top;
  • Tir Hamdden Cogan;;
  • Golden Gates;
  • Sgwâr Plassey;
  • Queens Road;
  • Stanwell Crescent;
  • Y Pant; a
  • Pharc Wordsworth.

Mae'r cynllun hwn yn un enghraifft fach o ymrwymiadau a wnaed gan y Cyngor i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd fel rhan o Gynllun Gweithredu ehangach ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Ymgynghorwyd â sefydliadau cymunedol lleol gan gynnwys Cymdeithas Ddinesig Penarth, Fforwm Coed Penarth, GPG Penarth Greening, a grwpiau cyfeillion y parciau wrth gynllunio'r prosiect hwn. 

Dechreuodd y gwaith plannu yr wythnos hon ym Mharc Golden Gates gyda 15 o goed ceirios o dri math gwahanol yn cael eu plannu. 

Yn siarad am y cynllun, dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth

‘Rwy'n croesawu'r cynlluniau cyffrous hyn sy'n rhan o raglen ehangach i leihau lefelau CO2 a darparu cynefinoedd ychwanegol i fywyd gwyllt. Gobeithio y bydd trigolion Penarth yn falch o weld y canopi coed yn eu mannau agored gwyrdd yn gwella.’

Dywedodd Cyfeillion Parc Golden Gates:

'Mae'n wych gweld yr holl goed newydd yn y parc. Allwn ni ddim aros i weld y dail yn tyfu yn y Gwanwyn. Maent yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol enfawr ac rwy'n siŵr y bydd pob ymwelydd â'r parc yn eu gwerthfawrogi ac yn mwynhau'r cysgod y byddant yn ei ddarparu yn yr haf. 

Gyda diolch i'r tîm plannu; Mike Parsons, Tim Neil, Tom Kirk, Nick Silva a Nathan Hicks.

Dyluniwyd y cynllun hwn gan y Pensaer Tirwedd Christine Smith.