Annwyl gydweithwyr,

Yn dilyn cyhoeddiad a wnaed heddiw gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar y cynlluniau diweddaraf ar gyfer cyflwyno'r brechiadau COVID-19, roeddwn am roi diweddariad byr i chi ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu i'r awdurdod lleol.

Mae cyflwyno'r Rhaglen Brechu Torfol yn dechrau cyflymu, yn enwedig gyda chyflwyno brechlyn Astra Zeneca Rhydychen, a heddiw mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yr holl staff gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael eu brechu erbyn diwedd y mis. 

Er bod y newyddion diweddaraf am y rhaglen frechu yn sicr yn gadarnhaol, rhaid imi bwysleisio unwaith eto fod sefyllfa'r coronafeirws yng Nghaerdydd yn dal yn ddifrifol dros ben, a rhaid inni gofio bod Cymru'n aros ar Lefel Rhybudd 4, felly dylech barhau i ddilyn cyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

Yn y cyfamser, mae'r cyngor yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i lunio'r cynlluniau ar gyfer brechu staff gofal cymdeithasol, a byddaf mewn cysylltiad gyda rhagor o fanylion yn y dyddiau nesaf.

I'r rhai sy'n derbyn y brechlyn mae'n bwysig nodi, hyd yn oed ar ôl i staff dderbyn y brechiad, rhaid iddynt sicrhau eu bod yn gwisgo'r PPE priodol tra'u bod yn y gwaith a pharhau i ddilyn y canllawiau iechyd cyhoeddus cyfredol a golchi eu dwylo yn aml, cynnal pellter dau fetr oddi wrth eraill a gwisgo gorchuddion wyneb lle bynnag nad yw hynny'n bosibl.

Mae pawb, wrth gwrs, eisiau gwybod pryd y byddant yn derbyn eu brechiad. Yng Nghaerdydd a'r Fro, fel ym mhobman arall yn y DU, mae pobl yn cael eu brechu yn unol â chanllawiau JCVI. Nodir y drefn flaenoriaeth gyfredol isod: 

  1. preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn a'u gofalwyr
  2. pob un sydd yn 80 mlwydd oed a throsodd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  3. pob un sydd yn 75 mlwydd oed a throsodd
  4. pob un sydd yn 70 mlwydd oed a throsodd ac yn glinigol eithriadol o agored i niwed
  5. pob un sydd yn 65 oed a throsodd
  6. pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth
  7. pob un sydd yn 60 mlwydd oed a throsodd
  8. pob un sydd yn 55 mlwydd oed a throsodd
  9. pob un sydd yn 50 mlwydd oed a throsodd

Cysylltir â'r cyhoedd yn y grwpiau hyn, naill ai gan eu meddyg teulu, neu'r Bwrdd Iechyd maes o law.

Diolch i chi i gyd am eich amynedd a'ch cefnogaeth wrth i ni weithio trwy un o'r rhaglenni brechu mwyaf a gynhaliwyd erioed, ac fel bob amser am eich gwaith caled i gefnogi ein cymunedau.

Diolch yn fawr,

Rob Thomas.