22 Ionawr 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Wrth inni symud yn gyflym drwy fis cyntaf 2021, mae'n hawdd anghofio'r ffaith ein bod i gyd wedi bod yn gweithio mewn amgylchiadau anarferol iawn ac wedi bod yn wynebu llawer o heriau sylweddol ers cryn amser bellach. Yn hyn o beth, mae'n werth myfyrio ar y daith rydyn ni wedi bod arni ers cyhoeddi'r cyfnod cloi cyntaf ym mis Mawrth y llynedd. Amlinellir isod rai o'r heriau rydyn ni wedi gorfod eu hwynebu a'r cerrig milltir allweddol rydyn ni wedi'u goresgyn ers dechrau COVID-19. 

covid restrictions timeline v2

Fel sefydliad, rydyn ni wedi gwneud llawer ers cyhoeddi'r cyfnod cloi cyntaf ledled y DU ar 23 Mawrth ac rwy'n hynod falch o'r ffordd rydyn ni wedi ymateb i'r hyn a fu'n flwyddyn ddigynsail a'r ffordd rydyn ni’n parhau i ymateb ac addasu wrth inni symud i flwyddyn newydd.  Rwy'n falch o ddweud ein bod yn canolbwyntio ar gamau nesaf y llwybr, lle byddwn yn parhau i ymateb i'r pandemig ond hefyd yn addasu at ffurf ar normalrwydd nad ydyn ni wedi'i weld ers sawl mis. 

Mae’r gwaith o gyflwyno brechlyn COVID-19 yn parhau ar raddfa gadarn ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Hyd yn hyn mae 32,331 o bobl ledled y rhanbarth wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn. Mae'r ffeithlun isod yn dangos dadansoddiad yn ôl yr ychydig grwpiau blaenoriaeth cyntaf. 

COVID-19 vaccine update 22 Jan 2021

Hoffwn ddiolch i'r holl staff sydd unwaith eto wedi mynd yr ail filltir i helpu i amddiffyn ein staff. Er enghraifft, mae Sharon Miller a'i thîm wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod ein staff â blaenoriaeth yn derbyn apwyntiadau ar gyfer eu brechu.  Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth fy nghydweithwyr i gyd sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol.  Rydyn ni i gyd wedi ymrwymo'n llwyr i symud yn ein blaen gyda'r rhaglen frechu cyn gynted ag sy'n bosibl, a gwn fod hon yn farn a rennir gyda chydweithwyr o fewn y Bwrdd Iechyd.  Mae'r gwaith partneriaeth parhaus rhwng y Bwrdd Iechyd Prifysgol, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn mynd o nerth i nerth wrth i ni weithio gyda'n gilydd i amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed. 

Yn ogystal â brechu ein staff, rwy'n falch o allu rhannu newyddion y Bwrdd Iechyd bod pob practis meddyg teulu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg bellach yn gwahodd trigolion 75 oed a throsodd i gael brechiad COVID-19 yn eu practis lleol a chysylltir â phreswylwyr 70-74 yn fuan iawn i drefnu mynychu canolfan frechu dorfol. 

Mae'n newyddion calonogol bod nifer achosion cadarnhaol coronafeirws Bro Morgannwg yn dechrau gostwng. Mae hyn yn dangos bod ein haberth dros yr wythnosau diwethaf yn dechrau dwyn ffrwyth. Fodd bynnag, rhaid imi bwysleisio bod y niferoedd yn dal yn eithriadol o uchel, a rhaid inni beidio â dadwneud yr holl waith da sydd wedi'i wneud.  Mae Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd 4 a rhaid i bob un ohonon ni gadw at y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd.

Bydd ein swyddogion gorfodi yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru unwaith eto y penwythnos hwn mewn safleoedd allweddol ar hyd a lled y Sir. Gyda nifer cynyddol o ymwelwyr yn teithio i wneud ymarfer corff, bydd swyddogion yr heddlu wrth fynedfeydd Parc Gwledig Cosmeston, Aberogwr, Ynys y Barri ac Esblanad Penarth, ymhlith ardaloedd eraill. Bydd swyddogion yn atal rhai sy'n teithio mewn ceir ac yn rhoi dirwyon yn y fan a'r lle pan fo angen. Er y caniateir i breswylwyr ymweld â'r safleoedd hyn i wneud ymarfer corff, rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref, oni bai bod gennych esgus rhesymol dros deithio. 

Cadwch eich hunain a'ch gilydd yn ddiogel drwy aros gartref, oni bai eich bod yn siopa am hanfodion neu'n ymarfer corff, golchi eich dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen. 

Diolch am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad parhaus. 

Rob