Staffnet+ >
Neges wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

19 Chwefror 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Rwy'n falch o allu ysgrifennu atoch heddiw a rhannu newyddion cymharol gadarnhaol, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog yn gynharach. Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru yn dechrau cael eu llacio mewn modd diogel a rheoledig wrth i achosion o Covid-19 barhau i ostwng. O yfory ymlaen, caiff hyd at pedwar person o dwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored ar gyfer ymarfer corff. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio nad yw'r rheolau ar gyfer teithio ac ymarfer corff wedi newid, a bod mesurau ymbellhau cymdeithasol yn parhau.
Yn ystod yr wythnos nesaf byddwn yn croesawu disgyblion, o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 2, yn ôl i'n hysgolion. A bydd yr adolygiad nesaf ymhen 3 wythnos yn ystyried a fydd yn ddiogel i ddisgyblion hŷn ddychwelyd i'r ysgol hefyd.
Ar bwnc ysgolion hoffwn dalu teyrnged i holl staff ein hysgolion am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y pandemig. Fel yr holl waith a wnawn, mae rhedeg ein hysgolion yn cael ei wneud fel tîm ac rwy'n falch o'r ystod gyfan o staff sy'n ymwneud â lleoliadau ysgolion, o athrawon i gynorthwywyr cymorth busnes a chymorth dysgu, yn ogystal â'r timau cyfleusterau sy'n cadw'r adeiladau'n lân ac yn ddiogel. Cefais e-bost mewn ymateb i fy neges ddiwethaf yn amlinellu'r gwaith rhagorol y mae Cynorthwywyr Cymorth Dysgu wedi'i wneud drwy gydol y pandemig i ddarparu gofal a chymorth i blant mewn ysgolion. Mae pobl wedi sylwi ar y gwaith gwych hwn. Rwy'n ddiolchgar i bob un ohonoch am eich ymrwymiad i'ch rôl ac i'n disgyblion yn ystod cyfnod eithriadol o heriol. Diolch yn fawr.
Roeddwn hefyd yn falch o dderbyn e-bost yr wythnos diwethaf gan aelod o staff a oedd wedi derbyn eu brechlyn. Yn eu e-bost dywedon nhw eu bod wedi bod ychydig yn bryderus ynghylch cael y brechlyn, oherwydd ofn nodwyddau, ond bod y profiad wedi bod yn un cadarnhaol ac fe aethon nhw i’r drafferth i ysgrifennu gair o ddiolch i'r staff sy'n gweithio yng nghanolfan frechu Holm View. Dywedon nhw hefyd, 'Roedd y broses yn effeithlon iawn ac roedd y staff i gyd yn hynod gymwynasgar a chwrtais, o’r dechrau i’r diwedd.' Roeddwn yn falch o glywed hyn, a gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn hwb i eraill.
Mae'r rhaglen frechu dorfol yn parhau'n gyflym. Yr wythnos diwethaf, cyrhaeddodd ein partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro garreg filltir enfawr, o ran bod dros 100,000 o frechiadau wedi eu rhoi. Cyhoeddir y ffigurau'n ddyddiol ar wefan y BIP. Ac ers yr wythnos diwethaf mae dros 20,000 o frechlynnau ychwanegol wedi'u rhoi ledled y rhanbarth. d since last week almost 20,000 additional vaccines have been administered across the region.
Mae canmoliaeth i'n staff yn cael ei chroesawu bob amser ac rwyf wedi cael gwybod yr wythnos hon bod cydweithiwr sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol, Morgan Holland, wedi cael ei chydnabod unwaith eto am fynd y tu hwnt i'r disgwyliadau. Cwrddais â Morgan ychydig flynyddoedd yn ôl ar ôl iddi gael adroddiad yn ei chanmol i’r cymylau gan ferch un o'i chleientiaid. Roedd yr e-bost diweddaraf a welais yr wythnos hon yn canu clodydd Morgan yn mynegi teimladau tebyg iawn. Yn ei e-bost, dywedodd perthynas y mae Morgan wedi bod yn gweithio gyda nhw eleni,
'Mae eich proffesiynoldeb a'ch caredigrwydd wedi creu argraff fawr arnaf. Doeddwn i erioed wedi defnyddio'r gwasanaethau cymdeithasol o'r blaen a doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond mae'r cymorth rydych wedi'i drefnu yn gwbl amhrisiadwy. Rwyf wedi bod yn dweud wrth fy nheulu a'm ffrindiau i gyd mor wych rydych chi a'r gwasanaethau cymdeithasol wedi bod ar adeg pan oedd gwir angen help arnom. Rydych chi’n ein helpu'n aruthrol a byddaf yn hynod ddiolchgar am byth.'
Roedd yn wych darllen hyn a gwnaeth i fi deimlo'n falch o'r gwaith rydyn ni fel sefydliad yn ei wneud. Dylai Morgan ac eraill fel hi fod yn hynod falch o'r gwasanaeth gwerthfawr sy'n cael ei ddarparu i'n trigolion a'n cymunedau. Mae canmoliaeth o'r fath yn haeddiannol iawn ac yn amlygu'r gwahaniaeth y mae ein cydweithwyr o bob rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol a thimau eraill yn ei wneud bob dydd. Da iawn. e when we really need help.
Yn olaf, hoffwn rannu enghraifft o waith disgyblion Ysgol Gynradd Sain Nicolas, a dalodd deyrnged i'r Capten Syr Tom Moore, a fu farw'n ddiweddar gyda COVID ac a gododd dros £33miliwn i'r GIG y llynedd.
Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos da. cadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr,
Rob