MD message header

05 Chwefror 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Ysgrifennaf atoch ar ddiwedd wythnos brysur arall, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd yr wythnos hon ym Mro Morgannwg. Rwyf yn falch o allu dweud bod pethau'n symud i’r cyfeiriad iawn. Mae nifer yr achosion yn parhau i ostwng, ac mae'r rhaglen frechu dorfol yn dod ymlaen yn dda.  Dyma'r darlun ledled Cymru, sy'n dangos bod yr hyn yr ydym i gyd wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf yn dechrau cael effaith. Ond fel y mae Llywodraeth Cymru wedi ail-adrodd, nid ydym mewn sefyllfa lle gellir llacio'r cyfyngiadau eto.   

Mae'r graffig isod yn dangos darlun cyfredol o sut mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 yn mynd rhagddi yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

vaccine update 5 Feb

Mae'r ganolfan frechu dorfol yng nghanolfan hamdden Holm View ar Skomer Road yn y Barri i fod i ddechrau gweithredu o ddydd Llun. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y ffordd y mae'r broses gyflwyno honno wedi datblygu yr wythnos nesaf. 

Yn y neges yr wythnos hon hoffwn dynnu sylw at ychydig o enghreifftiau o negeseuon o ganmoliaeth a diolch i amryw staff yr wyf wedi'u derbyn dros yr wythnos ddiwethaf. Mae'r rhain yn dangos gwerth y gwaith yr ydym yn parhau i'w gyflawni er gwaethaf amgylchiadau anodd a heriol iawn, a lle mae ein staff yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.  

Yn gyntaf, mae un o'n tiwtoriaid dysgu oedolion Sian Lloyd wedi cael ei chanmol gan fyfyriwr o Ganolfan Dysgu Cymunedol Palmerston. Helpodd Sian yr unigolyn hwn i ailymuno â'r gweithle drwy ei gefnogi i oresgyn ei ofn o dechnoleg. Dywedodd y dysgwr:

"Mae'r cyrsiau'n addysgu ac yn gwella sgiliau, ond hefyd yn cael effaith ar agwedd a lles y myfyrwyr. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Sian, sy'n ased gwirioneddol i'ch tîm."

Enghreifftiau fel hyn, lle gallwch wir werthfawrogi'r gwahaniaeth y mae ein staff yn ei wneud i fywydau unigolion, sy'n gwneud i chi deimlo'n falch. Diolch yn fawr Sian am eich rôl yn #TimyFro. 

Roeddwn hefyd yn falch o dderbyn e-bost yr wythnos hon gan yrrwr tacsi lleol, a ganmolodd Jill Gorin a'i thîm am eu gwaith yn cefnogi busnesau lleol gyda'u ceisiadau am grant dewisol. Yn ei e-bost dywedodd:  

"Mae'r tîm yng nghyngor y Fro yn gwneud gwaith gwych, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rwyf wedi siarad â Jill droeon ac mae wedi bod yn gwrtais iawn, yn barchus ac mae’n siarad yn dda iawn. Mae Jill a'i thîm yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf."

Roedd yn wych darllen canmoliaeth mor uchel ar gyfer ein swyddogion sy'n cefnogi proses sy'n newid yn barhaus, a gwn fod hynny wedi bod yn heriol iawn. Da iawn Jill ac Adrienne ac eraill yn y tîm ac ar draws y Cyngor sydd wedi bod ar flaen y gad o ran cefnogi busnesau yn ystod y pandemig.  

Mae cydweithwyr POD hefyd wedi derbyn llythyr o ddiolch yr wythnos hon gan y Cyfarwyddwyr olrhain cysylltiadau yn Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Gweithredu GIG Cymru. Nododd y llythyr a lofnodwyd ar y cyd eu bod am fynegi eu diolch yn bersonol am yr ymdrechion aruthrol y mae ein Swyddogion Olrhain Cysylltiadau wedi'u gwneud yn eu rolau. Hoffwn ailadrodd y diolchiadau hyn. Mae Swyddogion Olrhain Cysylltiadau yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu ein cymunedau a chadw Cymru'n ddiogel ac rydym wir yn gwerthfawrogi eich holl ymdrechion. 

Yn olaf, mae ein Prif Swyddog Diogelu Sifil, Debbie Spargo, unwaith eto wedi cael ei chanmol gan ei chydweithwyr am y rôl y mae wedi'i chwarae o ran ymateb y Cyngor i COVID-19. Mae Debbie wedi cydlynu ein hymateb nid yn unig i Covid, sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers dros 10 mis bellach, ond mae hefyd wedi delio ag argyfyngau eraill fel yr achos o lifogydd a ddigwyddodd ddiwedd mis Rhagfyr. Mae Debbie wedi cael ei chanmol gan ei chydweithwyr yn Cynllunio Argyfyngau, ac mae un ohonynt wedi dweud: 

Mae hi wedi bod yn fentor a rheolwr ardderchog i mi.  Pan fydd materion neu broblemau'n codi fel y maent yn digwydd mor aml yn ein byd, mae ganddi'r sgil anhygoel hon o gynnig atebion neu amrywiaeth o opsiynau. Nid oes arni ofn dweud pan fydd pethau wedi mynd o chwith ond mae hefyd yn ceisio chwilio am ddewisiadau eraill.'

Y math hwn o gefnogaeth sydd ei hangen arnom i'n llywio drwy'r problemau amrywiol sydd wedi codi dros y 10 mis diwethaf. Bob wythnos mae angen gwneud penderfyniadau newydd ar sut i ddelio â'r argyfwng ac mae Debbie bob amser wrth law i wneud awgrymiadau. Rwy'n ddiolchgar iawn iddi hi a'i thîm gwych am eu gwaith. Diolch yn fawr.

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r gwaith gwych sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf. Maent yn achosion sydd wedi'u codi'n uniongyrchol gyda mi ac rwyf yn hynod falch o'u rhannu â chi i gyd drwy'r neges hon.  Rwy'n gwybod bod llawer mwy o enghreifftiau tebyg o gydweithwyr a thimau ar draws y sefydliad ac os oes gennych gydweithiwr neu dîm yr hoffech ei amlygu, cofiwch am ein tudalen ar Staffnet+.  Rwy'n mwynhau darllen y rhain ac yn gwybod bod gweithredoedd bach o gydnabyddiaeth gan eraill yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol pan fyddwn i gyd yn gweithio mor galed i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Gan obeithio y caiff pob un ohonoch benwythnos da. Cadwch yn ddiogel.

Diolch yn fawr,

Rob