MD message header

12 Chwefror 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Yn neges yr wythnos hon hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y rhaglen brechu torfol, yn dilyn agor canolfan Holm View ddydd Llun, yn ogystal â diweddariad cyffredinol ar ein hymateb i COVID-19 a rhoi clod ar rai o'n prentisiaid ar ddiwedd yr Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol.

O ran brechiadau, mae'n bleser gennyf adrodd bod ein cydweithwyr yn y bwrdd iechyd bellach wedi brechu dros 90,000 o bobl mewn grwpiau blaenoriaeth un i bedwar ar draws y rhanbarth. Mae'r Ganolfan Frechu newydd yn Holm View, yn y Barri wedi bod ar waith ers dydd Llun ac mae dros 90,000 o bobl wedi bod am eu dos cyntaf o frechlyn Pfizer.

Mae Cymru bellach yn symud ymlaen yn gyflymach na'r gwledydd eraill Prydain yn ei rhaglen frechu. Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru nos Fercher mai ni yw'r genedl gyntaf i frechu 20% o'r boblogaeth. Mae hyn, ynghyd â'r gostyngiad yn nifer yr achosion positif, yn newyddion calonogol ac mae'n bosibl y caiff y cyfyngiadau eu lleddfu rywfaint dros yr wythnosau nesaf. Cadarnhawyd 151 o achosion o’r Coronafeirws ym Mro Morgannwg fesul 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf. Mae nifer yr achosion cadarnhaol bellach yn 113 fesul 100,000 o'r boblogaeth ac mae cyfran y profion sy’n bositif bellach yn 9.8%.

Er bod y newyddion hyn yn galonogol, mae'r ffigurau'n parhau'n gymharol uchel ac am y tro mae'n rhaid i ni barhau fel yr ydym wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf. Mae cyfyngiadau’r cyfnod cloi yn parhau ledled Cymru a rhaid i ni i gyd gofio hyn a chadw at y cyfyngiadau wrth i ni nesáu at yr hanner tymor.Fodd bynnag, mae’r hanner tymor yn dod â rhywfaint o newid gyda'r paratoadau at ddychwelyd ein carfan ieuengaf i’r ysgol o 22 Chwefror.

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda phenaethiaid yr wythnos hon i gefnogi'r gwaith paratoi a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion dros yr wythnosau nesaf wrth i ddisgyblion ddychwelyd. Gwyddom i gyd fod ein hysgolion wedi gorfod symud at ddysgu rhithwir a datblygu eu dulliau o ran hynny drwy gydol y pandemig ac rwyf wedi sôn o'r blaen am rywfaint o'r gwaith rhagorol y mae ein hysgolion yn ei wneud i sicrhau y gellir addysgu plant yn rhithiwr yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Mae ein Tîm Cymorth TGCh Ysgolion wedi bod yn ganolog i'r gwaith hwn yn ogystal â'r gwaith o gefnogi rhai o'n disgyblion a'n hysgolion sydd wynebu rhwystrau o ran mynediad digidol gyda dyfeisiau newydd. Roeddwn yn falch o glywed gan Christopher Thomas, o'r Tîm Cymorth TGCh i Ysgolion yn gynharach yr wythnos hon a ddisgrifiodd yr heriau y mae'r tîm wedi eu hateb ers dechrau'r pandemig, gan ymdrin yn gyntaf â chyflwyno cymorth TGCh i alluogi symud yn gyflym tuag at weithio a dysgu rhithwir. 

Ers diwedd mis Medi mae dros 4,000 o ddyfeisiau wedi cael eu cludo i ysgolion ar draws y Fro.

Dywedodd Christopher y bu’n “dipyn brofiad o ddarparu'r offer mawr ei angen hwn i ysgolion, ac roedden nhw’n hynod ddiolchgar a gwerthfawrogol o waith y tîm yn y prosiect. Rwy’n hynod falch o gyflawniad y tîm, drwy'r amseroedd heriol hyn ac mae hyn i gyd wedi'i gyflawni wrth barhau â'r cymorth arferol a ddarparwn o ddydd i ddydd”.

Diolch i'r tîm, Sean Granville, Christopher Thomas, Ross Fraser a Pietro Pucella. Rwy'n siŵr y byddai staff ein hysgolion yn ategu’r diolch hwn. Diolch! 

Ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol rydym wedi bod yn cynnwys rhai o'r prentisiaid sy'n gweithio ar ein  Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Y thema ar gyfer eleni yw #AdeiladurDyfodol ac roedd yn wych gweld rhai o'r enghreifftiau o sut rydym wedi gallu cefnogi, mewn partneriaeth â'n contractwyr, yn cyflwyno pobl ifanc i yrfa bosibl ym maes adeiladu.

Dim ond un enghraifft yw hon o fanteision ehangach y rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif a hoffwn ddiolch i'r tîm am eu gwaith rhagorol ar y prosiect hwn. Hoffwn hefyd estyn dymuniadau gorau i Jane O'Leary, rheolwr rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif ar ran y Cyngor, sy'n gadael y Cyngor wythnos nesaf.

Mae Jane wedi bod yn gaffaeliad i'n sefydliad wrth lywio'r rhaglen drwy fuddsoddiad enfawr yn ein hystadau ysgol.  Diolch, Jane – pob lwc. 

Hefyd, mae Ein Bro, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro wedi lansio Siarter Argyfwng Hinsawdd. Mae'n nodi cyfres o gamau gweithredu allweddol ar gyfer partneriaid y BGC, yn eu sefydliadau eu hunain ac i weithredu mewn partneriaeth, gyda'r nod o reoli a chyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae’r camau gweithredu yn cynnwys:  

  • Lleihau allyriadau i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd gan addasu i'w effeithiau.
  • Bod yn fwy caredig wrth ein hamgylchedd
  • Bod yn iachach.
  • Dod yn Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030.

Gallwch ddarllen rhagor am y Siarter a'r hyn y mae'n ei olygu ar ein gwefan. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Helen Moses a'i thîm am eu gwaith yn cefnogi'r BGC ac yn gyrru'r gwaith pwysig hwn yn ei flaen. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cymryd amser haeddiannol i ffwrdd o'r gwaith yr wythnos nesaf dros yr egwyl hanner tymor, hoffwn ddymuno penwythnos braf i chi a gobeithio y mwynhewch eich amser i ffwrdd. 

Diolch yn fawr. Cadwch yn ddiogel.Rob