Staffnet+ >
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr i holl staff

26 Chwefror 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Rwy'n falch o fod yn ysgrifennu atoch ar ddiwrnod heulog sy'n teimlo fel petai’r gwanwyn wedi cyrraedd. Mae'n sicr wedi bod yn aeaf hir a heriol a chredaf y byddwn i gyd yn croesawu dechrau tymor newydd.
Yr wythnos diwethaf soniais am y paratoadau a oedd ar y gweill i rai disgyblion ddechrau dychwelyd i ysgolion ac rwy'n falch o ddweud bod y broses honno wedi bod yn llwyddiant ledled y Fro yr wythnos hon.
Rwy'n falch iawn o'n holl gydweithwyr sy'n gweithio ym mhob un o'n hysgolion sy'n parhau i fynd y filltir ychwanegol i gefnogi ein disgyblion. Diolch.
Roedd yn braf iawn gweld gwaith ysgolion y Fro yn cael ei amlygu ar y llwyfan cenedlaethol eto'r wythnos hon i gydnabod eu hymdrechion. Hoffwn ddiolch i'r penaethiaid a'r staff yn Ysgol Gynradd Llandochau ac Ysgol Gwaun y Nant a oedd yn hapus i hwyluso darllediadau cenedlaethol rhagorol o'r garreg filltir hon yn y cyfryngau.
Ymwelodd y BBC ag Ysgol Gynradd Llandochau ben bore dydd Llun i gynnal cyfweliadau â staff a ddarlledwyd yn fyw i dros 5 miliwn o bobl ledled y DU ar eu rhaglen Breakfast. Ar yr un pryd ymwelodd Wales Online ag Ysgol Gwaun y Nant yn y Barri i weld eu carfan ieuengaf o ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol. Rwy'n falch ein bod wedi meithrin perthynas â'r cyfryngau hyn sy'n galluogi’r gwaith gwych sy'n digwydd ym Mro Morgannwg gael ei weld ar lwyfan cenedlaethol. Diolch yn fawr i bawb a fu'n rhan o hyn, boed hynny yn ein hysgolion a hefyd yn ein tîm datganiadau gwasg a chyfathrebu.
Yn yr un modd, hoffwn hefyd ddweud da iawn wrth Anthony Cannon-Jones, athro yn Ysgol Gynradd Holltwn, a gadwodd ei ben wrth ddelio â sefyllfa frys a dysgu ei ddosbarth dros Zoom yr wythnos hon. Cafodd ei gamp arwrol sylw yn y penawdau cenedlaethol hefyd, gyda darn ar wefan y BBC oedd yn adrodd am ei ymdrechion.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld yn fwy nag erioed y rôl bwysig a chwaraeir gan ysgolion ym mhob cymuned ledled y Fro. Hoffwn gydnabod Caroline a'i thîm yn Ysgol Gynradd Gladstone sy'n parhau i baratoi a darparu parseli bwyd i deuluoedd sydd angen cymorth. Rwy'n gwybod mai dim ond un enghraifft yw hon o'r ffyrdd y mae ein hysgolion yn mynd y filltir ychwanegol a byddwn yn talu teyrnged i bob un ohonoch. Mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud mor bwysig i gefnogi ein cymunedau wrth gadw at gyfyngiadau lefel pedwar.
Rydym yn parhau i weld tuedd gadarnhaol yn y gostyngiad yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o COVID-19. Dengys data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 84 o achosion wedi'u cadarnhau ym Mro Morgannwg dros y 7 niwrnod diwethaf a 62.9 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth. Gwnaed 1,300 o brofion yr wythnos hon yn y Fro ac o'r rheini roedd 6.5% yn bositif. Mae'r rhain yn arwyddion calonogol, ond mae gwaith eto i'w wneud.
Yn cyfrannu at y sefyllfa wella hon mae'r rhaglen frechu. Mae ein cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bellach yn gwahodd grwpiau blaenoriaeth 5 (y rhai 65-69 oed) i'w practis meddyg teulu am eu dos cyntaf o'r brechlyn a grŵp blaenoriaeth 6 (y rhai rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol) i ganolfan frechu dorfol. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd yr wythnos hon y bydd y rhaglen frechu dorfol yn cael ei chyflymu ymhellach a bydd pob oedolyn yn cael cynnig brechlyn cyn diwedd mis Gorffennaf. Rydym yn parhau i weithio gyda'n cydweithwyr yn y bwrdd iechyd i gynorthwyo gyda'r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno'n gyflym ac yn ddiogel.
Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i drafod yr hyn y gellid ei gynnwys yn yr adolygiad nesaf ar 15 Mawrth. Byddaf yn cwrdd yn rheolaidd â chydweithwyr ledled Cymru ac yn Llywodraeth Cymru i roi barn a thystiolaeth a all lywio eu syniadau wrth i ni lacio’r cyfyngiadau symud.
Byddaf yn cynnal sesiwn Hawl i Holi Caffi Dysgu ddydd Mercher nesaf, 3 Mawrth. Os hoffech chi ofyn cwestiwn am y camau nesaf i ni fel sefydliad, cadwch eich lle a gallwch gyflwyno'ch cwestiwn yn ddienw. Bydd recordiad o'r sesiwn ar gael i unrhyw un nad yw'n gallu bod yn bresennol.
Er bod pethau'n edrych yn gadarnhaol, rhaid i mi ofyn i chi barhau i gadw at gyfyngiadau lefel 4 a chadw at y canllawiau presennol. Dymunaf benwythnos hyfryd i chi – ac i'r rhai ohonoch sy'n mwynhau chwaraeon, gobeithio y bydd canlyniad da yn y rygbi!
Cadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr,
Rob.