Ysgol Gynradd Rhws yn arloesi mannau dysgu awyr agored 

Mae Ysgol Gynradd Rhws wedi meddwl yn greadigol i roi mannau awyr agored newydd i ddisgyblion ddysgu.

Mae pabell 100m2 wedi'i chodi gan roi lle newydd cyffrous i'r plant gael gwersi. 

Mae'r ysgol hefyd wedi ailwampio mannau eraill yn dilyn fandaliaeth yn gynharach yn y flwyddyn gyda chymorth y gymuned leol.  

Mae'r tîm yn Ysgol Gynradd Rhws wedi dadorchuddio eu mannau dysgu awyr agored newydd, ac mae prosiectau pellach ar y gweill, gan gynnwys pod anogaeth a phod maeth, gan greu 'pentref' lles i'r plant.  

Mae'r mannau awyr agored hyn yn cynnwys pabell fawr, sy'n darparu lle dysgu mawr ei angen, wedi'i awyru'n dda, sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys dysgu yn yr ystafell ddosbarth, perfformiadau ysgol a gwersi Addysg Gorfforol.  

Mae ardal Ceidwaid Rhws yn yr ysgol hefyd wedi cael ei hailwampio, yn dilyn fandaliaeth yn gynharach yn y flwyddyn.   

Nod y grŵp Ceidwaid yw helpu plant i feithrin gwydnwch, hyder ac annibyniaeth, a dysgu sgiliau newydd gan ddefnyddio mannau awyr agored. 

Gweithiodd y Prif Geidwad, Tara Williams, ynghyd â staff, rhieni a gwirfoddolwyr eraill yn ddiflino i glirio ardal awyr agored y grŵp cyn gosod mainc eistedd newydd a chyfleusterau coginio a chrefft awyr agored. 

Defnyddir yr ardal hon ar gyfer dysgu am natur a datblygu sgiliau crefft awyr agored ac adeiladu tîm.  

Cysylltodd Jacqui Pyer, Rheolwr Busnes Ysgol yn Ysgol Gynradd Rhws, i rannu'r newyddion.  Dywedodd:

"Mae COVID wedi newid y ffordd yr ydym yn gweithredu mewn cymaint o ffyrdd, ond gallwn gymryd llawer o bethau cadarnhaol ohono.  

"Rydym wedi cael ein gwneud i feddwl yn greadigol ac mae hynny wedi ein harwain i ddatblygu ardaloedd awyr agored ar gyfer dysgu ymhellach.  

"Mae lles plant wedi dioddef yn fawr yn ystod y cyfnod hwn o newid enfawr, maent wedi gorfod addasu, yn aml heb fawr o rybudd.

"Mae'r ardaloedd dysgu newydd hyn yn cyfoethogi profiad ysgol y plant ac yn codi eu hysbryd.   

"Mae'r plant wrth eu bodd yn dysgu yn yr ardal newydd.

"Mae Ceidwaid Rhws yn dysgu am blanhigion lleol a pha rai y gellir eu bwyta; roedden nhw hyd yn oed yn gwneud ffriterau dant y llew ar y tân agored!  

"Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb waith gwirfoddolwyr a haelioni'r gymuned leol."  

Mae'r ysgol hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu agor dau gynhwysydd llong newydd, gan ddarparu mannau newydd i'r plant ddysgu. 

Bydd y cyntaf o'r cynwysyddion, o'r enw y Pod Anogaeth, yn cael ei ddarparu ar gyfer lles y disgyblion, a bydd wedi'i addurno â deunyddiau naturiol, gan greu lle diogel a chysurus i weithio ynddo. 

Bydd cegin weithio lawn yn yr ail, y Pod Maeth, fel y gall plant ddysgu am faeth a iechyd a byddant yn dysgu sut i goginio a gweini bwyd.