Rob Message header summer update

Annwyl gydweithwyr,

Dros y dyddiau diwethaf, roedd yn bosibl i mi dreulio peth amser yn gwneud y rhan o'm swydd rwy'n ei mwynhau fwyaf, gan gwrdd â rhai o'r bobl y tu ôl i'n llwyddiant.

Soniais yn fy neges yr wythnos diwethaf i’n tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ennill gwobr yng nghynhadledd Ystadau Cymru eleni. Ddydd Iau roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Cynghorydd Lis Burnett i gyflwyno’r tlws i Kelly Williams a Nathan Slater o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor.

Yn ddiweddarach yr un diwrnod, ymunais â chydweithwyr o'n tîm Tai (yn ogystal â Big Fresh mewn rôl gefnogol) yn natblygiad newydd llety dros dro yn Court Road yn y Barri. Roeddwn i yno i siarad â BBC Cymru a fydd yn cynnwys y cynllun mewn nifer o raglenni yn nes ymlaen yn y mis fel astudiaeth achos o ran sut mae cynghorau'n mynd i'r afael â digartrefedd. Rwyf wedi ysgrifennu atoch o'r blaen i sôn bod mynd i'r afael â digartrefedd yn un o'n hamcanion wrth ddysgu o'r pandemig. Cefais fy narostwng ac rwy’n falch o'r gwaith a wneir gan gydweithwyr sy'n cael effaith mor uniongyrchol ar fywydau pobl. Roedd yn dda cymryd peth amser i fyfyrio ar lwyddiant y fenter hon a hefyd gwrdd â thenantiaid ar y safle i ddeall sut mae gwaith ein cydweithwyr yn cael effaith mor gadarnhaol ar y rhai sydd angen ein cymorth a'n cefnogaeth. Mae heddiw wedi bod ychydig yn wahanol ac wedi taflu goleuni ar yr her sy'n dal i fod dros ein holl waith. Y bore yma ymunais â Phrif Weithredwyr ac Arweinwyr holl Gynghorau Cymru mewn galwad gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod yr hyn y gallai'r amrywiolyn Omicron ei olygu ar gyfer darparu gwasanaethau dros yr wythnosau nesaf.

Mae'n bwysig cofio'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei gynhadledd i'r wasg y prynhawn yma: rydym wedi wynebu heriau droeon yn ystod y pandemig hwn ac rydym wedi dysgu o bob un. Nid ydym yn ôl i’r dechrau un… Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechu i ryw raddau eisoes a chaiff cannoedd o filoedd o bigiadau atgyfnerthu eu gweinyddu dros y ddau fis nesaf.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob un ohonom gymryd y risgiau posibl o ddifrif. Yr amddiffyniad gorau yn erbyn yr amrywiolyn newydd, mwy heintus hwn yw bod yn ofalus. Gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau dan do. Os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19, gwnewch brawf cyn gynted â phosibl. Os nad ydych wedi cael eich ail frechiad eto, gwnewch hynny a chymerwch gynnig y dos atgyfnerthu pan gaiff ei gynnig. Rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd Prifysgol ar sut y gallwn gefnogi'r ymdrechion hyn ymhellach.

Er mwyn helpu staff i gadw eu hunain a'i gilydd yn ddiogel yn y gweithle, byddwn yn cyflenwi pecynnau profi llif unffordd i'r rhai sydd eu hangen. Mae'r broses ar gyfer hyn yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd ond bydd yr holl staff y mae rhaid iddyn nhw fynychu un o'n hadeiladau ar gyfer gwaith yn gallu archebu PLlUau yn uniongyrchol gan ein tîm iechyd a diogelwch cyn bo hir.

Nid yw bod yn ofalus yn golygu na allwn i gyd fwynhau o hyd yr hyn sydd ar gynnig wrth i hwyl yr ŵyl ddechrau. Mae tîm Pafiliwn Pier Penarth yn cynnal diwrnod agored ddydd Sadwrn yma i arddangos y cyfleoedd y mae'r adeilad yn eu cynnig i'r gymuned gan ei fod bellach yn ôl dan ein gweithrediad. I unrhyw un sydd heb fynd ers iddo ailagor yn gynharach eleni, mae'n gyfle gwych i gael golwg a chael gwybod mwy am ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Mae'r replica o Polar Express a adeiladwyd gan dîm Big Fresh hefyd yn cael ei arddangos ac yn drawiadol iawn yn wir.

Gyda'r ŵyl yn prysur agosáu, rwy'n gobeithio eich bod wedi bod yn mwynhau'r negeseuon calendr adfent dyddiol gymaint â minnau. Mae pob un o'r cyflwyniadau'n wych ond efallai y dylai'r marciau uchaf am frwdfrydedd fynd i Trevor Baker ar gyfer y cofnod fideo hynod o siriol hwn ar gyfer 08 Rhagfyr. Mae hefyd yn wych darllen cyfarchiadau Nadolig a’n hatgoffa o ba mor agos gyda'n gilydd rydym yn gweithio, hyd yn oed tra bod y rhan fwyaf ohonom yn gweithio gartref. Mae ein cyfrif Twitter hefyd wedi tynnu sylw at rai cynlluniau a digwyddiadau gwych a gefnogir gan y Cyngor. Mae'n wych gweld yr amrywiaeth sydd ar gynnig i drigolion.

 Hoffwn dynnu sylw hefyd at yr eitem newyddion fewnol heddiw ar gartref preswyl Southway. Mae'r staff a'r preswylwyr wedi gwneud collage i’w hongian yn y cartref. Mae'n enghraifft wych o safon y gofal y mae ein cydweithwyr diflino yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gynnig. Gofal a chymorth o'r radd flaenaf ac wastad yn gallu sicrhau’r amser ar gyfer y gweithgareddau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl. Dyma waith gwych gan dîm gwych. Diolch.

Yn olaf, ac ar yr un thema, lansiwyd ein hymgyrch recriwtio Llwybr Carlam i Ofal yr wythnos hon ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu cydweithwyr newydd yn y Flwyddyn Newydd. Os ydych chi'n ‘nabod rhywun sy'n ystyried newid gyrfa, yna dywedwch wrthyn nhw am y gwahaniaeth gwirioneddol y gallen nhw ei wneud drwy ymuno â'r sector gofal yn y Fro.

Diolch fel bob amser am eich gwaith caled yr wythnos hon a chadwch yn ddiogel.  Diolch yn fawr iawn.

Rob.