Staffnet+ >
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr ar yr amrywiad Omicron
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr ar yr amrywiad Omicron
Annwyl gydweithwyr,
Byddwch yn siŵr o fod yn ymwybodol o ddarganfyddiad amrywiolyn Omicron Covid-19 yn y Deyrnas Gyfunol.
Er nad oes unrhyw achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n anochel y bydd yr amrywiolyn i'w weld yma ac mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod yn rhaid i bobl "gymryd rhagofalon" mewn ymateb i hyn.
Yr unig newid uniongyrchol i'r mesurau amddiffynnol sydd ar waith yng Nghymru yw defnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion. Mae gwybodaeth am y newid hwn a'r hyn y mae'n ei olygu'n ymarferol eisoes wedi'i roi i ysgolion a hoffwn gydnabod fel bob amser waith pawb yn ein hysgolion a'n timau Dysgu a Sgiliau a fydd unwaith eto'n addasu eu harferion gwaith yn gyflym i gadw plant, pobl ifanc a chydweithwyr yn ddiogel wrth ddysgu.
Y datblygiad pwysig arall i fod yn ymwybodol ohono yw bod y JCVI wedi argymell cyflymu'r rhaglen frechu. Mae'r pigiad atgyfnerthu bellach ar gael i bawb dros 18 oed. Bydd ein cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweinyddu 150,000 o frechiadau ychwanegol dros y pedair wythnos nesaf. Os ydych yn byw yn y Fro neu Gaerdydd ac nad ydych wedi cael pigiad atgyfnerthu eto, byddwch yn clywed yn fuan sut i gael eich un chi.
Mae'n bwysig nodi bod y darlun cyffredinol yn y Fro wedi bod yn gwella'n gyson dros yr wythnosau diwethaf. Mae’r gyfradd achosion ymhlith pobl dros 60 oed wedi bod yn gostwng ers dechrau mis Tachwedd, ynghyd â derbyniadau i'r ysbyty, ac achosion ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed fel y rhai mewn cartrefi gofal.
Mae Cymru'n parhau ar Lefel Rhybudd 0. Fodd bynnag, mae camau y gallwn oll eu cymryd i gadw ein hunain a'n gilydd yn ddiogel.
Cael y ddau bigiad, a phigiad atgyfnerthu os caiff ei gynnig i chi.
- Os oes symptomau gennych, hunanynyswch ac archebwch brawf PCR.
- Hyd yn oed os nad oes symptomau gennych, cymerwch brofion llif unffordd rheolaidd.
- Cofiwch fod allan yn yr awyr agored yn fwy diogel na dan do.
- Cadwch eich pellter lle gallwch.
- Golchwch eich dwylo'n rheolaidd.
- Gwisgwch orchudd wyneb.
Erbyn hyn, dylai'r camau hyn fod yn hysbys iawn, ond hwy yw'r rhai mwyaf effeithiol o hyd o ran amddiffyn ein hunain a chydweithwyr, ffrindiau a theulu rhag coronafeirws.
Hoffwn atgoffa'r holl gydweithwyr hefyd y dylem i gyd barhau i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Dangoswyd mai gweithio gartref yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal trosglwyddo Covid-19 yn y gymuned a bydd y Cyngor yn parhau i weithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn. Dylai unrhyw un sy’n gorfod gweithio o un o'n hadeiladau swyddfa fod yn gwneud hynny yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
Nid yw arwyddocâd nac effaith yr amrywiolyn newydd yn glir eto. Rwy’n mawr obeithio na chaiff yr un effaith ag amrywiolion blaenorol. Er bod arwyddion cadarnhaol cynnar nad yw'n cael yr un effaith o bosibl, mae'n ddyddiau cynnar a bydd mwy yn dod yn amlwg dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Diolch fel bob amser am eich gwaith i gadw'r Fro'n ddiogel. Diolch yn fawr.
Rob.