Mae gen i hawl - Diwrnod Hawliau'r Gymraeg

Nod Diwrnod Hawliau'r Gymraeg yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'n gyfle i ni fel sefydliad cyhoeddus hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd.  Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i dderbyn gwasanaethau Cymraeg heb orfod gofyn am y gwasanaethau hynny.  Fel gweithiwr, mae gennych hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.  Byddwn yn rhannu'r neges hon ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #maegenihawl.

Crëwyd yr hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gan Safonau'r Gymraeg. Ar Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg, mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru i dynnu sylw at yr hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio'r iaith o fewn y sefydliadau hynny.

7 Rhagfyr yw'r dyddiad y cafodd Mesur y Gymraeg ei basio gan y Senedd.  Mae'r mesur yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg ac yn sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.  Arweiniodd hyn at sefydlu hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus.

Dyma rai o'r rheolau y mae'n rhaid i sefydliadau yng Nghymru eu dilyn:

  • Ysgrifennu llythyrau neu e-byst yn Gymraeg.
  • Creu posteri ac arwyddion dwyieithog.
  • Sgwrsio yn Gymraeg dros y ffôn.
  • Gallwch dderbyn gwersi nofio yn Gymraeg drwy'r Cyngor.
  • Dylai arwyddion ffyrdd yng Nghymru fod yn ddwyieithog.

Byddwn yn defnyddio'r diwrnod i hyrwyddo ein Strategaeth Hybu'r Gymraeg 5-mlynedd a cheisio adborth pobl ar hyn.