Mwynhewch Ddolig seiber-ddiogel
Hoffem annog cydweithwyr i amddiffyn eu hunain a bod yn wyliadwrus o sgamiau seiber y Nadolig hwn.
Yn anffodus, mae cyfnod yr ŵyl yn gweld cynnydd mewn sgamiau ar-lein, fel cynigion Gwener Gwario 'rhy dda i fod yn wir', twyll elusennol ar-lein a sgamiau WhatsApp 'ffrind mewn angen'.
Mae sefydliadau fel Action Fraud, Canolfan Seiber-ddiogelwch Genedlaethol Llywodraeth y DU (NCSC), y Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol a banciau a chymdeithasau adeiladu yn rhannu llu o adnoddau ar gadw'n ddiogel rhag sgamiau.
Mae gan Action Fraud hefyd opsiwn 'riportio' sy'n eich galluogi i roi gwybod am sgàm ar eich rhan chi ac eraill.
Rhannwch y negeseuon hyn gyda phobl a allai fod yn agored i sgamiau.
Action Fraud
NCSC