Gwasanaethau Plant yn helpu i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl ifanc y Fro

Hoffem ddiolch i staff yn y Gwasanaethau Plant sydd wedi helpu i gydlynu rhodd gyda busnesau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc ym Mro Morgannwg. 

Rhoddodd y Big Wrap, Tangent, Eglwys Rydd Unedig y Bont-faen, Clwb Pêl-droed y Barri a CJCH Solicitors i gyd anrhegion i'r achos, sy'n agosáu at 1000 o roddion.  

Bydd y rhain yn mynd i blant a phobl ifanc 0-14 a 15+ oed a fyddai fel arall yn annhebygol o dderbyn anrheg ar Ddydd Nadolig.  
Mae ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant wedi bod ar y rheng flaen drwy gydol y broses, yn trefnu man gollwng yn Swyddfeydd y Dociau ac yn bagio a thagio'r rhoddion. 

Byddant yn cael eu danfon i gartrefi ledled y sir gan Dîm Dechrau'n Deg y Cyngor. 

Dywedodd yr aelod cabinet Ben Gray, "Rydym mor falch o'n timau Gwasanaethau Plant ac yn ddiolchgar i'r holl sefydliadau sydd wedi cymryd rhan.  Mae gweithred fach fel hyn yn mynd ymhell o ran lleddfu rhywfaint o'r pwysau enfawr y gallai teuluoedd ei wynebu dros y Nadolig. 

"Mae cynlluniau fel hyn hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb anrhegion a mwynhad ar Ddydd Nadolig.  Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae hyn yn bwysicach nag erioed." 

 

Children's services
Gifts for youth
Barry FC