Staffnet+ >
BGC y Fro yn sicrhau cyllid ar gyfer canolfan addysg awyr agored
BGC y Fro yn sicrhau cyllid ar gyfer canolfan addysg awyr agored
Llwyddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro i wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am £25,000 tuag at gyflawni prosiectau mewn cymunedau lleol ynghylch newid yn yr hinsawdd a’r Cynllun Symud Mwy, Bwyta'n Dda
27 Awst, 2021
Nodwyd pedwar prosiect a fyddai'n cyfrannu at amcan y BGC i 'ddiogelu, gwella a gwerthfawrogi ein hamgylchedd' tra hefyd yn cynyddu ymgysylltiad â chymunedau lleol.
Defnyddiwyd y rhan fwyaf o'r cyllid i adeiladu canolfan addysg awyr agored fel rhan o brosiect Gardd Pawb yn Colcot. Mae hwn yn brosiect a arweinir gan dîm Tai'r Cyngor ac mae wedi galluogi'r tîm i wella'r gwaith yr oeddent wedi'i ddechrau yn yr ardal gyda'r gymuned leol.
Bydd y ganolfan addysg awyr agored yn darparu adnodd cymunedol gwerthfawr ac yn dangos ymrwymiad i'r ardal. Mae'r ganolfan wedi'i hintegreiddio i'r ardd a'r ardal chwarae bresennol a bydd yn galluogi pobl o bob oed i ymgysylltu a chymdeithasu'n ddiogel yn y mannau awyr agored.
Bydd y ganolfan yn cael ei defnyddio gan Ysgol Gynradd Colcot ac Ysgol Uwchradd Pencoedtre at ddibenion y cwricwlwm a bydd hefyd yn lloches pan fydd grwpiau'n defnyddio'r safle mewn tywydd gwael. Bydd grwpiau cymunedol yn gallu defnyddio'r ganolfan addysg at ddibenion hyfforddi (Maeth am Oes, dosbarthiadau Bwyta'n Iach, Foodwise).
There are no images in the search content table for folder: 26475
Yn ogystal â'r ganolfan addysg, bydd sied storio chwarae newydd yn dal yr holl offer chwarae i'r plant ei ddefnyddio at ddibenion addysgol a hamdden.
Y cam nesaf ar gyfer y gerddi yw tŷ gwydr poteli plastig sy'n cael ei adeiladu gan bobl ifanc dros wyliau'r haf gyda chymorth Bouygues UK sef y contractwyr sy'n adeiladu Ysgol Uwchradd newydd Pencoedtre.
Bydd y ganolfan addysg yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn a bydd yn gyfle i ddiolch i bartneriaid am eu cyfraniad i sicrhau bod y ganolfan yn agor.
Darparwyd cyllid hefyd i Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg ar gyfer prosiect gardd CF61 yn Llanilltud Fawr.
Defnyddiwyd y grant i gefnogi gwaith grŵp gwirfoddolwyr presennol i ddatblygu gardd a fydd yn helpu i gysylltu pobl â natur ac yn darparu cyfleuster i'r rhai nad oes ganddynt eu gardd eu hunain o bosibl.
Defnyddiwyd yr arian gan CNC hefyd i alluogi'r Cyngor i blannu 14 o goed brodorol lled aeddfed yn y Barri gan gynyddu'r canopi coed yn yr ardal drefol. Mae hyn yn cefnogi'r gwaith a wnaed i wella'r seilwaith gwyrdd ac ansawdd aer yn y dref ac i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gwella iechyd.
Yn olaf, defnyddiwyd swm bach o'r arian i wella gwefan y Fro Fwyd. Mae'r wefan yn fwy diddorol a hygyrch nawr. Mae gwell ymarferoldeb y wefan wedi helpu i hyrwyddo Bwyd y Fro ac wedi darparu adnodd a ffynhonnell werthfawr o wybodaeth drwy'r pandemig, ac roedd yn allweddol i Ŵyl Bwyd y Fro a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
Ar draws y pedwar prosiect roedd y pwyslais ar fwynhau a gwerthfawrogi ein hamgylchedd a gwerthfawrogi'r etifeddiaeth y mae angen i ni ei gadael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn hefyd yn gyson â gwaith y Cyngor ar y Prosiect Sero.
"Mae'r cyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galluogi'r BGC i gefnogi rhai prosiectau gwych yn y Fro. Defnyddiwyd yr arian i gefnogi ein cymunedau lleol a gwella'r amgylchedd.
"Hoffwn ddiolch i Mark Ellis yn y Tîm Cyfoethogi Cymunedau am ei holl waith caled yn sicrhau bod y ganolfan addysg awyr agored yn agor a pharhau i wireddu'r weledigaeth ar gyfer Gardd Pawb.
"Diolch, hefyd i gydweithwyr yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad a GGM am eu prosiectau a fydd yn cynnig manteision gwirioneddol i drigolion a'r amgylchedd. Gwaith gwych bawb!” - Tom Bowring, Pennaeth Polisi a Thrawsnewid Busnes.