
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr
27 Awst 2021
Annwyl gydweithwyr,
Mae'r haul yn gwenu ar ddiwedd wythnos brysur arall. Rwy'n gobeithio, wrth ddarllen yr e-bost hwn, eich bod yn edrych ymlaen at benwythnos gŵyl y banc o ymlacio (neu gyffro – pa un bynnag sydd orau gennych).
I mi, mae’r wythnos hon wedi gwneud i mi sylwi, yn fwy na’r arfer, yr ystod anhygoel o waith y mae ein cydweithwyr yn ei gwneud a’r effaith go iawn y mae hyn yn ei chael ar fywydau ein trigolion.
Yng nghyfarfod ein Huwch Dîm Arwain fore Iau, dechreuom gydag eitem frys gan ein Pennaeth Gwasanaethau Tai, Mike Ingram, a'r Cydlynydd Ailsefydlu Ffoaduriaid Rhanbarthol, Tom Dodsworth. Yr eitem oedd y wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau'r Cyngor i groesawu teuluoedd sy'n ffoi Affganistan.
Rwy’n siŵr y bydd pawb sy'n darllen hwn wedi teimlo'r un ymdeimlad o sioc tuag at y sefyllfa sy'n dirywio'n gyflym yn Affganistan a'r sefyllfa enbyd y mae'r rhai sy'n ceisio gadael y wlad yn ei chael eu hunain ynddi.
Mae gennym hanes balch iawn o gefnogi'r rhai sydd angen ein cymorth, yn fwyaf diweddar drwy gymryd rhan yn y Cynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed blaenorol a Chynllun Ailsefydlu presennol y DU. Yn yr un modd â Chynghorau eraill, byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU yn yr wythnosau i ddod i ddarparu llety a threfniadau cymorth ar gyfer pobl fwyaf agored i niwed Affganistan. Mae trefnu hwn yn broses hynod gymhleth a hoffwn ddiolch i bawb, yn fwyaf nodedig Tom, sy'n gweithio rownd y cloc i sicrhau ein bod yn gallu gwneud y cyfan a allwn i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag erledigaeth a chasineb.
Mae cefnogi pobl pan fydd ei angen arnynt fwyaf yn rhan o waith bod dydd llawer o'n timau, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd llythyr o ddiolch gan breswylydd a gefnogwyd gan ein tîm Gwasanaethau Plant y llynedd wedi cyffwrdd â’m calon pan gafodd ei rannu gyda mi yr wythnos hon. Am resymau amlwg ni allaf ei rannu yma, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod darllen y llythyr wedi fy ngwneud i’n hynod falch o allu galw Rhian Robson ac Emma Reynolds yn gydweithwyr. Diolch i'r ddwy ohonoch.
Rydw i wedi sôn ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan ein timau Gwasanaethau Cymdogaeth yn wyneb pwysau di-baid, yn fwyaf diweddar yn sgil prinder gyrwyr HGV. Hoffwn dynnu sylw arbennig yr wythnos hon at holl staff garej yr Alpau. Mae'r tîm yn gweithio'n eithriadol o galed i gadw fflyd o fwy na 300 o gerbydau ar y ffordd, gan gynnwys y wagenni bin a'r tipwyr. Heb ein gwasanaethau casglu gwastraff a glanhau strydoedd, ni fyddwn yn gallu darparu ein gwasanaethau.

Er y gall llawer ohonoch fod yn ystyried gorffen yn gynnar cyn y penwythnos hir, bydd aelodau o dîm y fflyd, fel y maent bob dydd Gwener, yn gweithio tan 9:30pm i sicrhau bod y fflyd yn barod ar gyfer y gwasanaeth casglu boreol. Mae pob un o'r ffitwyr, y tîm gweinyddu a'r rheolwr fflyd yn gwneud gwaith gwych. Diolch yn fawr dîm.
Yn olaf, hoffwn roi sylw i'n tîm Cyfathrebu. Rwyf hefyd wedi gweld yr wythnos hon nodyn o ddiolch gan Wasanaeth Gwaed Cymru am y gwaith y mae'r tîm wedi'i wneud i helpu i hyrwyddo rhoi gwaed yn y Fro. Mae hyn yn ychwanegol at, ac ochr yn ochr â'u gwaith rhagorol gyda phartneriaid eraill fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Heddlu De Cymru wrth rannu negeseuon allweddol drwy gydol y 18 mis diwethaf.
Mae gweithio gartref wedi cael effaith enfawr ar nifer y bobl yn genedlaethol sy’n rhoi gwaed, ond wrth gwrs ni fu gostyngiad yn nifer y cleifion sydd ei angen. Mae ein tîm cyfathrebu wedi bod yn gweithio gyda'r gwasanaeth gwaed ers dechrau'r pandemig i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o hyrwyddo clinig galw heibio ar-lein. Roedd rhoddion gwaed ym mis Gorffennaf yn ddigon i helpu 21,000 o gleifion yng Nghymru ac mae'n wych gwybod ein bod yn chwarae rhan werthfawr wrth gefnogi hyn. Os hoffech wneud cyfraniad a allai achub bywydau, yna gallwch drefnu heddiw i roi gwaed.
Fel bob amser, daw’r neges i ben gyda diolch i bob aelod o staff am ei waith yr wythnos hon. Yr wythnos nesaf bydd gen i newyddion am Lyfr Diwylliant y Fro, byddwch chi'n clywed llawer amdano cyn ei lansio ym mis Medi. Mwynhewch benwythnos gŵyl y banc. Diolch yn fawr bawb.
Rob.