Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

20 Awst 2021

Annwyl gydweithwyr,

Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n iawn ac wedi llwyddo i gael rhywfaint o seibiant dros yr haf. Er y gall gwyliau haf yr ysgol olygu wythnosau tawelach a'r cyfle am hoe haeddiannol i lawer o dimau swyddfa, gwn fod yr adeg hon o'r flwyddyn yn aml yn un o'r prysuraf i lawer o'n cydweithwyr sy'n gweithio ym maes gwasanaethau rheng flaen. 

Hoffwn ddechrau'r neges yr wythnos hon drwy ddiolch i bawb sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod ein parciau, canol trefi, ein cyrchfannau, a'n parciau gwledig a'n harfordir yn edrych ar eu gorau ar yr adeg brysur hon o'r flwyddyn. Hoffwn ddiolch hefyd i'n timau casglu gwastraff sydd dan bwysau mawr oherwydd anawsterau recriwtio gyrwyr HGV. Rwy’n ymwybodol bod yr anawsterau hyn yn cael eu profi ledled y wlad mewn amrywiaeth o wasanaethau ac rwyf hefyd yn ymwybodol bod Cynghorau eraill yn cael trafferth cyflawni eu casgliadau wythnosol o ganlyniad i brinder staff profiadol. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i'n timau ymroddedig sy'n gwneud eu gorau glas i gynnal y gwasanaeth dan amgylchiadau heriol. Diolch!

Un maes lle mae ymdrechion ein cydweithwyr wir yn talu ar ei ganfed yw ym Mhafiliwn Pier Penarth. Fel y byddwch i gyd yn gwybod, un o brosiectau mwyaf proffil uchel y Cyngor hyd yma eleni fu adnewyddu ac ailagor yr atyniad poblogaidd hwn ar ôl iddo ddychwelyd i reolaeth y Cyngor.

Penarth Pier Pavilion

Bydd y sinema'n ailagor y penwythnos hwn ac roeddwn yn falch iawn o weld y geiriau hyn yn y wasg gan weithredwr y sinema.

"Mae'n dda iawn eu bod nhw wedi cymryd yr awenau, o'm safbwynt i.

"Mae'n braf cael pobl newydd yno ac mae ganddyn nhw lawer o weledigaeth.

"Mae llawer o gyffro ynglŷn â'r hyn y gellid defnyddio'r adeilad ar ei gyfer. Rwy'n ffodus iawn eu bod wedi gofyn i mi barhau i wneud yr hyn rwy'n ei wneud, ond mae wedi bod yn bartneriaeth.

"Maen nhw wedi bod yn wych yn y mis diwethaf i geisio sefydlu hyn, felly mae'n gyffrous iawn a bod yn onest."

Mae’n wych gweld ein timau'n meithrin perthynas gadarnhaol gyda busnesau lleol fel hyn. Gwaith da bawb! 

Fel y soniais yr wythnos diwethaf, nid yw'r newid i Lefel Rhybudd 0 yng Nghymru yn golygu newid i'r trefniadau gweithio gartref presennol nac i'r rheolau sydd rhaid eu dilyn os ydych yn gweithio o un o'n hadeiladau. Fodd bynnag, rwy’n gwybod y gall gweithio gartref ei gwneud yn anos cael y cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd ac felly hoffwn dynnu eich sylw at nodwedd Office 365 newydd, sydd wedi'i

MyAnalytics snip

 chynllunio i helpu pobl i reoli eu hamser yn well.

Dylai defnyddwyr Office 365 fod wedi derbyn bwletin MyAnalytics newydd drwy e-bost yn gynharach yr wythnos hon. Mae'r bwletin yn darparu adroddiadau bychain ar eich gweithgaredd wythnosol.

Fel rhan o'r gwasanaeth lles digidol hwn, mae gan ddefnyddwyr hefyd fynediad i ddangosfyrddau MyAnalytics lle gallant addasu gosodiadau i gyd-fynd â'u hanghenion. Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud y gorau o’r teclyn hwn ar dudalen MyAnalytics ar Staffnet. Byddwn yn argymell neilltuo’r amser i gael golwg arni ac i feddwl am y ffordd orau o ddod o hyd i drefn sy'n eich helpu i gael y cydbwysedd cywir. Fel pob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.  

Diolch yn fawr, Rob.