Dysgwch Gymraeg y mis Medi yma
Rydym yn annog staff y Cyngor i ddysgu Cymraeg ac fel cymhelliant ychwanegol, caiff y cyrsiau eu hariannu’n llawn
19 Awst, 2021
Beth am ymgymryd â her newydd eleni a gwella eich sgiliau Cymraeg? Cynigir cyrsiau ar bob lefel felly beth bynnag yw lefel eich Cymraeg, p'un a ydych yn ddechreuwr pur neu wedi dysgu yn y gorffennol, gallwch ddysgu ar lefel sy'n addas i chi.
Ond peidiwch â chymryd ein gair amdano, dyma beth oedd gan rai o'n dysgwyr presennol i'w ddweud.
Pan ofynnwyd iddi pam ei bod am ddysgu Cymraeg dywedodd Cath Shivers, Uwch Swyddog Cyllid:
"Gan fy mod i wedi fy ngeni a’m magi’n Gymraes, roeddwn i bob amser yn teimlo braidd yn siomedig nad oeddwn i'n siarad yr iaith. Ychydig flynyddoedd yn ôl gwelais y posteri o amgylch yr Alpau yn cynnig sesiynau blasu a'r cyfle i ddechrau cwrs a meddwl y byddwn yn rhoi cynnig arni. Teimlais y byddai'n her newydd ac yn gyfle gwych i ddod yn un o'r miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Ac mewn ymateb i sut mae’n ei chael hi ar y cwrs, dywedodd Cath:“I fod yn onest, o’m gwers gyntaf a’r sesiwn flasu, roeddwn i wrth fy modd. Mae fy nhiwtor Sarian, o Lundain yn wreiddiol, yn wych, yn frwdfrydig a chefnogol iawn. Fel rhywun na ddaeth o aelwyd sy’n siarad Cymraeg, mae hi’n enghraifft wych ac yn ysbrydoliaeth i’r rheiny sy’n newydd i ddysgu’r iaith. Mae’r dosbarthiadau yn cynnig cymysgedd o ddysgu i chi, felly rydych yn datblygu eich geirfa, eich sgiliau darllen a thrafod. Mae cyfleoedd i sefyll arholiadau ffurfiol os hoffech wneud hyn. Byddant hefyd yn cynnal sesiynau bore Sadwrn o bryd i’w gilydd lle gallwch gwrdd â dosbarthiadau eraill a dysgu.”
Ychwanegodd Nicola Hinton, Swyddog Cydraddoldeb Corfforaethol:
“Roeddwn i’n mwynhau dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond doeddwn ni ddim wedi’i defnyddio ers hynny ac roeddwn i wedi anghofio popeth. Ymunais i â dosbarth blasu yn y gwaith ac roeddwn i’n synnu pa mor gyflym ddaeth rhywfaint ohoni’n nôl. Dechreuais i wersi ffurfiol wedyn gan ddechrau ar lefel Canolradd a dal ati hyd at lefel Hyfedredd. Roedd y mwyafrif o’m gwersi gyda Nigel, dysgwr Cymraeg ddaeth yn diwtor.
Yn ddiweddarach, es i ddosbarthiadau gyda ‘Tiwtor Ann’ yn dysgu am yr iaith a’r llenyddiaeth Gymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y ddau diwtor yn llawer o hwyl, yn gefnogol iawn ac roeddent yn creu awyrgylch gwych ar gyfer dysgu Cymraeg - gan gynnwys partïon a digwyddiadau mynd allan. Mae’n wych dod i nabod pobl eraill yn yr un cwch, i gyd gyda gwahanol gryfderau a gwendidau ac yno i helpu ei gilydd. Byddwn yn argymell achub ar y cyfle i ddysgu Cymraeg. Rydym mor lwcus bod y Cyngor yn ein cefnogi i wneud hyn. Waeth pa mor bell y penderfynwn fynd gyda hyn, mae ennill sgiliau Cymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo, mae’n helpu i gyfathrebu â siaradwyr Cymraeg a theimlo’n rhan o’r diwylliant Cymraeg. Ewch amdani!”
Os hoffech gael gwybod mwy neu gadw lle ar gwrs, ewch i: https://www.dysgucymraeg.cymru/yfro
Cofiwch am y cod gostyngiad: STAFF21